Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig

Ymchwiliad i Ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Mae'r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn cynnal ymchwiliad sy'n edrych ar y broses o ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Mae gan y Pwyllgor dri nod yn hyn o beth: asesu effaith bosibl diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar Gymru a pha ganlyniadau fyddai'n fwyaf buddiol i Gymru; cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch pa bolisïau y dylai alw amdanynt yn ystod y trafodaethau; a dylanwadu ar y trafodaethau ar ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn sefydliadau Ewrop.

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn cynifer o bobl â phosibl sydd â diddordeb yn y maes, a hoffai'ch gwahodd i gyflwyno ymateb ysgrifenedig i'r cwestiynau a geir yn yr atodiad. Croeso i chi ateb y cwestiynau i gyd, neu'r rhai sy'n berthnasol i chi yn unig.

Bydd y Pwyllgor yn defnyddio'r dystiolaeth ysgrifenedig, ynghyd â'r dystiolaeth lafar a geir mewn amryw o gyfarfodydd yn ystod tymor yr haf yn y Cynulliad, i graffu ar waith Llywodraeth Cymru a chyflwyno argymhellion iddi yn y maes hwn. Bydd y cyfarfodydd yn rhai cyhoeddus a byddant hefyd i'w gweld ar Senedd TV drwy fynd i'n gwefan. Caiff trawsgrifiad gair-am-air llawn o bob cyfarfod ei greu hefyd.

Gan ein bod yn awyddus i glywed safbwyntiau cynifer o bobl a sefydliadau â phosibl, croeso i chi roi copi o'r llythyr hwn i unrhyw un a allai fod yn awyddus i ymateb. Mae copi electronig o'r llythyr ymgynghori hefyd i'w weld ar ein gwefan yn:

Croesawn gyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg. A fyddech cystal â chyflwyno'ch tystiolaeth ar ffurf electronig, os yw hynny'n bosibl.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig erbyn dydd Gwener, 30 Ebrill 2010, a hynny i Aled Elwyn Jones, Clerc y Pwyllgor. Y cyfeiriad e-bost yw:
ruraldev.comm@wales.gsi.gov.uk

Dylid anfon copïau caled i'r cyfeiriad uchod.

Cwestiynau ymgynghori ar gyfer yr ymchwiliad i ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin:

  • Ar ba flaenoriaethau y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio yn y trafodaethau ar ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin?

  • Pa gydbwysedd y dylid ei gael rhwng Colofn 1 a Cholofn 2 y Polisi Amaethyddol Cyffredin?

  • Pa amcanion ddylai fod yn ganolog i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar ôl 2013?

  • I ba raddau y dylai'r Polisi Amaethyddol Cyffredin fod yn bolisi cymunedol? A ddylid cael rhywfaint o ailwladoli?

  • I ba raddau y mae strategaeth ffermio Llywodraeth Cymru, Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad, yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn y dyfodol?

  • Sut y dylai Llywodraeth Cymru ymwneud â'i rhanddeiliaid wrth iddi baratoi ei safbwynt ar ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin?

Sylwer:

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad.  O ganlyniad gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol i adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

Ond, os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu.  Gall hyn gynnwys gwybodaeth sydd yn y gorffennol wedi’i dileu gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, dylech nodi’n glir pa rannau na ddylid eu datgelu, ynghyd â’ch rhesymau dros atal y deunydd dan sylw.  Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help