Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig
Ymchwiliad i’r Diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
Cy
lch Gorchwyl
Diben
Mae'r papur hwn yn pennu cylch gorchwyl ymchwiliad craffu'r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig i'r broses o ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, fel y cytunwyd ar hynny yn y cyfarfod ar 4 Mawrth 2010.
Cefndir
Mae gwybodaeth gefndir am ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin i'w chael yn y papur cwmpasu yn Atodiad A.
Cylch Gorchwyl
Cynigir y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:
Asesu effaith bosibl diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar Gymru a pha ganlyniadau a fyddai'n fwyaf buddiol i Gymru.
Cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch pa bolisïau y dylai alw amdanynt yn ystod y trafodaethau.
Dylanwadu ar y trafodaethau ar ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn sefydliadau Ewrop.
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar y canlynol:
Ar ba flaenoriaethau y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio yn y trafodaethau ar ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin;
Pa gydbwysedd y dylid ei gael rhwng Colofn 1 a Cholofn 2 y Polisi Amaethyddol Cyffredin;
Pa amcanion ddylai fod yn ganolog i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar ôl 2013;
I ba raddau y dylai'r Polisi Amaethyddol Cyffredin fod yn bolisi cymunedol ac i ba raddau y dylid cael rhywfaint o ailwladoli;
