Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig
Ymchwiliad i Gynhyrchu a Hybu Bwyd Cymreig
Cynhaliodd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ymchwiliad i gynhyrchu a hybu bwyd yng Nghymru. Nod yr ymchwiliad oedd:
edrych ar yr heriau sy’n wynebu’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru;
asesu llwyddiant cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y maes hwn hyd yma;
canfod pa mor addas yw cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer dyfodol y sector;
cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Edrychodd y pwyllgor ar bob elfen yn y gadwyn cyflenwi bwyd yng Nghymru, o gynhyrchu bwyd i’w fwyta.
Er mwyn cael darlun cyflawn o ba mor effeithiol yw cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth hybu twf y sector bwyd-amaeth yng Nghymru, roedd y pwyllgor yn awyddus i wahodd sylwadau gan y rheini sy’n perthyn yn uniongyrchol i’r sector. Roedd hyn yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd a masnachwyr, prosesyddion, y rhai sy’n hyrwyddo ac yn marchnata cynnyrch bwyd o Gymru, manwerthwyr a chwsmeriaid. Roedd y pwyllgor hefyd yn awyddus i glywed sylwadau gan yr holl sectorau yn y diwydiant bwyd-amaeth, gan gynnwys y sectorau llaeth, cig coch, garddwriaeth, dofednod, cig hela, cynnyrch organig a physgodfeydd.
