Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig

Ymchwiliad i Gynhyrchu a Hybu Bwyd Cymreig

Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn cynnal ymchwiliad i gynhyrchu a hybu bwyd yng Nghymru. Nod yr ymchwiliad yw:

  • Edrych ar yr heriau sy’n wynebu’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru;

  • Asesu llwyddiant cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y maes hwn hyd yma;

  • Canfod pa mor addas yw cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer dyfodol y sector;

  • Cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd y pwyllgor yn edrych ar bob elfen yn y gadwyn cyflenwi bwyd yng Nghymru, o gynhyrchu bwyd i’w fwyta.

Er mwyn cael darlun cyflawn o ba mor effeithiol yw cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth hybu twf y sector bwyd-amaeth yng Nghymru, mae’r pwyllgor yn awyddus i wahodd sylwadau gan y rheini sy’n perthyn yn uniongyrchol i’r sector. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd a masnachwyr, prosesyddion, y rhai sy’n hyrwyddo ac yn marchnata cynnyrch bwyd o Gymru, manwerthwyr a chwsmeriaid. Mae’r pwyllgor hefyd yn awyddus i glywed sylwadau gan yr holl sectorau yn y diwydiant bwyd-amaeth, gan gynnwys y sectorau llaeth, cig coch, garddwriaeth, dofednod, cig hela, cynnyrch organig a physgodfeydd.

Cwestiynau i’r ymgynghoriad

Yr heriau a’r cyfleoedd

1. Beth yw’r prif heriau sy’n wynebu’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf? Esboniwch pam.

Fel canllaw, efallai yr hoffech ystyried agweddau gwahanol ar y gadwyn gan gynnwys:

  • Cynhyrchu

  • Prosesu

  • Labelu a brandio

  • Marchnata a hyrwyddo

  • Manwerthu

2. Pa gyfleoedd sydd ar gael i’r sector bwyd-amaeth?

(Er enghraifft, codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid ynghylch milltiroedd bwyd, bwyd organig, y galw am gynnyrch lleol, cynlluniau ansawdd bwyd ac ati)

3a. Pa effaith y mae’r sefyllfa economaidd bresennol yn ei chael ar y sector a sut fydd hyn yn effeithio ar gynnyrch o Gymru yn y dyfodol?

3b. Sut ddylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ymateb i hyn?

Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru

4a. Pa mor effeithiol fu polisïau a chynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth annog twf y sector bwyd-amaeth yng Nghymru?

4b. Pa gynlluniau sydd wedi bod yn effeithiol ac yn aneffeithiol a pham?

Wrth ymateb i’r cwestiwn hwn, efallai yr hoffech ystyried y canlynol:

  • pa mor effeithiol yw’r bartneriaeth bwyd-amaeth a’r strategaethau ar gyfer y sectorau

  • mentrau brandio, megis Gwir Flas

  • cymorth ariannol megis y grantiau prosesu a marchnata sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio

5. A yw cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i godi ymwybyddiaeth ynghylch cynnyrch Cymreig yn y wlad hon a thramor wedi bod yn effeithiol? Pa dystiolaeth sydd gennych?

6. A oes digon wedi’i wneud i annog integreiddio rhwng gwahanol elfennau o’r gadwyn gyflenwi?

Er enghraifft, rhwng cynhyrchwyr a phrosesyddion, neu rhwng cynhyrchwyr a manwerthwyr / cwsmeriaid.

Arfer da

7. A wyddoch am unrhyw enghreifftiau o arferion da yng Nghymru?

8. A wyddoch am unrhyw enghreifftiau o gynlluniau eraill yn y DU neu Ewrop sydd wedi hybu cynnyrch bwyd rhanbarthol yn llwyddiannus?

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y pwyllgor erbyn dydd Gwener 13 Chwefror 2009 fan bellaf. Mae’r cyfeiriad i’w weld uchod. Os yw hynny’n bosibl, a fyddech gystal â darparu fersiwn electronig mewn fformat MS Word neu destun Rich Text, naill ai drwy anfon e-bost i Sustainability.comm@Wales.gsi.gov.uk neu drwy ddarparu disg.

Datgelu gwybodaeth

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. Felly, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu dystiolaeth atodol i adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Os gwneir cais am wybodaeth a gyflwynir o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen i ni ddatgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth ar wahân i ddata personol, nad yw’n addas i’w datgelu’n gyhoeddus yn eich barn chi, eich cyfrifoldeb chi fydd nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi rheswm dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn pan fydd yn cyhoeddi gwybodaeth neu’n ymateb i geisiadau am wybodaeth

Alun Davies
Cadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help