Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
2 Rhagfyr 2010
Adroddiad ar ddyraniad y gyllideb ddrafft ar gyfer 2011 – 2012.
Cefndir
1. Mae’r Pwyllgor wedi ystyried y cynlluniau gwariant ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran cynaliadwyedd a amlinellir yng Nghynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2011-12
a’r dogfennau sy’n gysylltiedig â'r gyllideb.
2. Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Gynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2011-12
ar 25 Tachwedd 2010, pan gymerodd dystiolaeth gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai; Matthew Quinn, Cyfarwyddwr Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai; a Brian J Pickett, Dyfodol Cynaliadwy – Tîm Gweithrediadau, Cyllid.
Craffu ar dystiolaeth gan y Gweinidog
3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog, gofynnodd y Pwyllgor am fwy o eglurder a rhagor o fanylion am y pwyntiau a ganlyn:
Sut mae’r gyllideb ddrafft yn berthnasol i flaenoriaethau adrannol o ran canlyniadau;
Sut wnaeth y Gweinidog flaenoriaethu gwariant cyfalaf;
Pa drafodaethau sydd wedi cael eu cynnal gyda Gweinidogion eraill ynghylch themâu sy’n berthnasol ar draws adrannau;
Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o effaith toriadau ar amcanion a thargedau ynghylch cynaliadwyedd;
Pa opsiynau a ystyriwyd er mwyn gwneud arbedion yn y cyrff gweithredu amgylcheddol;
Sut oedd y Gweinidog yn bwriadu sicrhau bod Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru yn cael gwerth am arian o ran y gofynion a wnaed ohoni gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn ganolog;
Sut mae materion cydraddoldeb wedi effeithio ar ddylunio’r gyllideb;
Pa gyllideb mae’r Gweinidog wedi’i sicrhau o’r cynllun Buddsoddi i Arbed;
Effaith y toriadau i’r gyllideb ar fodloni amcanion o ran newid hinsawdd;
Effaith y lleihad yng nghyfalaf ar raglenni perygl llifogydd a’r arfordir;
Sut y dylai’r buddsoddiad yn y rhaglen gwastraff bwyd gael ei ddefnyddio;
Dyfodol y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy ar ôl mis Mawrth 2011;
Effaith diwedd y rhaglen tir wedi’i halogi;
Y defnydd a fwriedir ei wneud o ddyraniadau o’r gyllideb ar gyfer mynediad i fyd natur;
Effaith y toriadau cyllid ar y system gynllunio;
Sut oedd y Gweinidog yn bwriadu datblygu capasiti cyn i reoliadau adeiladu gael eu datganoli ym mis Rhagfyr 2011;
4. Bydd y Gweinidog yn darparu rhagor o wybodaeth am y pwyntiau a ganlyn:
Y broses o ddiogelu grantiau Buddsoddi i Arbed, a’r arbedion a ddisgwylir yn ei hadran yn sgil buddsoddi mewn prosiectau i amddiffyn rhag llifogydd ac ar gyfer effeithlonrwydd ynni;
Effaith y mesurau effeithlonrwydd ynni ar sicrhau arbedion ariannol ar draws y sector cyhoeddus;
Dyfodol y Grant Gwella Cynllunio ar gyfer awdurdodau lleol;
5. Yn dilyn y sesiwn, gwnaeth y Pwyllgor y sylwadau a ganlyn:
Croesawodd y Pwyllgor bwriad y Gweinidog i ddiogelu cyllideb Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai o’i gymharu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Lloegr;
Mynegodd y Pwyllgor bryder bod y Gweinidog heb egluro ble fydd toriadau’n cael eu gwneud, ac eithrio diddymu’r rhaglen tir wedi’i halogi, ac nad oedd yn gallu nodi unrhyw ganlyniadau neu amcanion a fyddai’n cael eu heffeithio’n negyddol gan y toriadau;
Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu ei fod yn ymddangos bod gormod o ddibyniaeth ar arbedion effeithlonrwydd gan gyrff statudol, yn enwedig pan fo’n aneglur beth fydd strwythur y cyrff hyn yn y dyfodol;
Roedd y Pwyllgor yn pryderu nad oedd y Gweinidog wedi darparu unrhyw asesiad o effaith y toriadau i gyllidebau’r cyrff gweithredu ar eu gallu i weithredu;
Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod Adran yr Amgylched, Cynaliadwyedd a Thai wedi cael £2.9m o’r rhaglen Buddsoddi i Arbed ar gyfer effeithlonrwydd ynni a £0.8m ar gyfer y rhaglen i amddiffyn rhag llifogydd, ac eto nid oedd y Gweinidog yn gallu egluro faint o arbedion a fyddai’n dod o’r prosiectau hyn;
Tra’n croesawu penderfyniad y Gweinidog i amddiffyn y gyllideb cyfalaf ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd, mae’r Pwyllgor yn pryderu nad yw’r Gweinidog yn gallu nodi o le yn gwmws bydd yr arbedion yn cael eu gwneud yn y gyllideb refeniw i dalu am hyn, yn enwedig oherwydd bod y gyllideb refeniw wedi cael ei thorri.
Mynegodd y Pwyllgor bryder ei fod yn ymddangos bod toriad sylweddol wedi cael ei wneud i’r gronfa ar gael ar gyfer adeiladu capasiti cyn i reoliadau adeiladu gael eu datganoli, o’i gymharu â’r hyn a ddywedwyd yn ystod datganiadau gan y Gweinidog yn y gorffennol;
Argymhellion
Dylai’r Gweinidog roi rhagor o eglurdeb ynghylch ble fydd yr arbedion yn cael eu gwneud i dalu am yr elfennau o gyllideb Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai sydd wedi cael eu diogelu, a pha amcanion na fydd yn cael eu cyflawni o ganlyniad i hyn;
Dylai’r Gweinidog roi manylion llawn sut y mae’n bwriadu cyflawni ei hymrwymiadau pan fydd y gyllideb cyfalaf yn gostwng 20.9 y cant yn 10/11 a 32.6 y cant yn 13/14, a’r gyllideb refeniw yn gostwng 4.4 y cant yn 11/12 a 9.5 y cant yn 13/14. Nid yw’r Pwyllgor yn teimlo bod y Gweinidog wedi esbonio’n ddigonol sut y bydd yn gallu cyfalafu cyfran sylweddol o’r gyllideb refeniw heb gael effaith ar allu ei hadran ac asiantaethau i fodloni eu hamcanion;
Dylai’r Gweinidog egluro’r sefyllfa o ran y grantiau Buddsoddi i Arbed a roddwyd i’w hadran a’r arbedion a ddisgwylir o’r prosiectau hyn;
Dylai’r Gweinidog asesu sut bydd toriadau i’r gyllideb yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i ddiwallu’r rhwymedigaethau a amlinellir yn y Deddfau Seneddol
Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009
aDeddf Rheoli Llifogydd a Dwr 2010
,
a’i gallu i adeiladu capasiti cyn i’r rheoliadau adeiladu gael eu datganoli;Wrth wneud penderfyniad ynghylch dyfodol y cyrff delifro amgylcheddol yng Nghymru, dylai’r Gweinidog gyhoeddi gwybodaeth glir a manwl ynghylch oblygiadau ariannol ei phenderfyniad;
Dylai’r Gweinidog feddwl yn greadigol am gyfleoedd i gyrff cyhoeddus godi refeniw ychwanegol o fewn ei chylch gwaith.
