Y Pwyllgor Cynaliadwyedd   

Adroddiad ar ystyriaeth y Pwyllgor o dlodi tanwydd yng Nghymru

Cyflwyniad

1. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn diffinio cartref fel un sydd mewn tlodi tanwydd os, er mwyn cynnal trefn gynhesu foddhaol yn y tŷ, y byddai’n ofynnol gwario mwy na 10 y cant o’i incwm (gan gynnwys budd-daliadau) ar holl ddefnydd tanwydd y cartref hwnnw. Yn ôl adroddiad Llywodraeth y Cynulliad 'Ymrwymiad Tlodi Tanwydd’, a gyhoeddwyd yn 2003, "cost tanwydd yw un o’r tri phrif ffactor sy’n dylanwadu ar dlodi tanwydd yng Nghymru (y rhai eraill yw incwm ac arbed ynni yn y cartref)”.

2. Fel rhan o’i ymchwiliad i ostwng carbon yng Nghymru, clywodd y Pwyllgor Cynaliadwyedd dystiolaeth gan 'Golwg ar Ynni’ Cymru oedd yn awgrymu bod oddeutu 20 y cant o gartrefi Cymru gyfan yn dioddef tlodi tanwydd a bod cwsmeriaid yng Nghymru yn talu mwy na’r pris cyfartalog ym Mhrydain Fawr am eu trydan.  Mae’r Pwyllgor wedi monitor datblygiadau yn hyn o beth, gan fwriadu   edrych ar y materion hyn eto pan oedd amser yn caniatáu.

3. Ym mis Mawrth 2008, cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn dystiolaeth ar dlodi tanwydd yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ar 10 Ebrill. Gwahoddodd y Pwyllgor Golwg ar Ynni Cymru i gyflwyno ei ddarganfyddiadau diweddaraf ar brisio ynni yng Nghymru a gofyn i’r chwe chwmni cyflenwi ynni mwyaf i roi tystiolaeth ar natur ac effeithiolrwydd eu polisïau a phrosiectau a oedd wedi’u hanelu at drechu tlodi tanwydd yng Nghymru. Daeth  Golwg ar Ynni Cymru, Nwy Prydain,  Scottish Power, Scottish and Southern Energy, e-on UK a RWE n-power i’r sesiwn dystiolaeth. Nid oedd EDF Energy yn gallu mynychu ond darparwyd adroddiad ysgrifenedig ganddynt.

4. Ar 4 Mehefin 2008, bu’r Pwyllgor yn craffu ar y dystiolaeth yr oedd Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai wedi’i chasglu ar dlodi tanwydd yng Nghymru.  Gyda’r Gweinidog yr oedd Claire Bennett, y Pennaeth Newid Hinsawdd a Dyraniad Dŵr a Julia Williams, y Pennaeth Effeithlonrwydd Ynni ac Adeiladau Cynaliadwy.   

5. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r materion a godwyd yn ystod pob sesiwn dystiolaeth ac mae’n cyflwyno nifer o argymhellion i’w hystyried o fewn cyd-destun ymchwiliad Ofgem i’r marchnadoedd trydan a nwy ar gyfer cartrefi a busnesau bychain. Mae Ofgem wedi cadarnhau ei fod yn fodlon ystyried cyflwyniad hwyr gan y Pwyllgor, er mwyn rhoi amser i fwy o ystyriaeth gael ei roi o’r safbwynt Cymreig.

Materion a godwyd gyda Golwg ar Ynni Cymru

6. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 10 Ebrill, agorodd Wendy Davies, Cyfarwyddwr  Golwg ar Ynni Cymru, ei sesiwn dystiolaeth drwy gyflwyno rhai o’r darganfyddiadau diweddaraf sy’n deillio o ymchwil a gomisiynwyd ar y strwythur prisio ynni yng Nghymru. Mae pwyntiau a godwyd gan Golwg ar Ynni Cymru yn ystod y sesiwn dystiolaeth wedi’u crynhoi isod:

  • Yr oedd oddeutu 22 y cant o gartrefi yng Nghymru mewn tlodi tanwydd;

  • Yr oedd oddeutu 40 y cant o gartrefi yng Nghymru oedd â thrydan yn brif danwydd ynddynt yn cael eu hystyried yn 'dlawd o ran tanwydd’;

  • Yr oedd cwsmeriaid yng Nghymru yn talu hyd at 10 y cant yn fwy am eu trydan na’r cyfartaledd trwy Ynysoedd Prydain;

  • Yr oedd yr achosion tlodi tanwydd yng Ngogledd Cymru yn llawer uwch nag yn Ne Cymru, oherwydd diffyg mynediad at y prif gyflenwad nwy a chyfran fawr o gartrefi anodd eu cynhesu;

  • Mae cwsmeriaid yng Nghymru yn llai tebygol o newid cyflenwr;

  • Awgryma’r canfyddiadau bod costau uwch y grid yn ffactor oedd yn cyfrannu at o leiaf rywfaint o’r taliadau a delir gan ddefnyddwyr trydan yng Nghymru, yn arbennig y rhai yn Ne Cymru, oedd yn talu oddeutu £20 y flwyddyn yn fwy am eu gwasanaethau na’r cyfartaledd lefelau mewn rhannau eraill o Brydain Fawr. Fodd bynnag, yr oedd y costau uwch hyn dim ond yn cyfrif am oddeutu hanner y taliad a delir gan ddefnyddwyr yng Nghymru;

  • Yr oedd tariffau cymdeithasol, oedd wedi’u hanelu at rai oedd mewn tlodi tanwydd, weithiau yn uwch na’r tariffau isaf oedd ar gael a gyniwyd gan yr un cwmni ynni;

  • Yr oedd angen i dariffau gael eu symleiddio i alluogi cwsmeriaid i ddeall a chymharu eu biliau ac i newid eu cyflenwyr yn rhwyddach;

  • Pe byddai’r holl gwmnïau ynni yn cyfatebu swm gwariant Nwy Prydain fel canran y trosiant, byddai cyfanswm o £72.3 miliwn arall yn cael ei wario ar dlodi tanwydd;

  • Yr oedd dyfodol y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES) yn ansicr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ffrwyno gwariant;

  • Yr oedd angen i bobl oedd yn byw yng nghanolbarth a Gogledd Cymru gael eu targedu gyda’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref, ond yr oedd mwyafrif y gwariant ar y Cynllun yn ne Cymru;

  • Lle y byddai cyflenwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd i hyrwyddo’u cynigion gorau o ran newid, yr oedd y boblogaeth oedrannus yn fwy tebygol o fethu’r cyfle hwnnw;

  • Gallai gosod mesuryddion 'call’ symleiddio biliau i gwsmeriaid;

  • Gallai’r rhai oedd â dyledion o fwy na £100 ei chael yn anodd newid cyflenwr ac felly gallant fethu’r cyfle am unrhyw arbedion posibl o wneud hynny; a

  • Yr oedd cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdaliad yn aml yn talu mwy na chwsmeriaid oedd yn talu trwy ddulliau eraill, gan gynnwys cynlluniau debyd uniongyrchol.

Materion a godwyd gyda chwmnïau cyflenwi ynni                              

7. Yn yr ail sesiwn dystiolaeth ar 10 Ebrill, darparodd y pum cwmni ynni fanylion am eu polisïau a’u prosiectau oedd wedi’u hanelu at fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.              

Isod gwelir crynodeb o’r materion a godwyd gan y cwmnïau ynni yn ystod y sesiwn dystiolaeth:

  • Yr angen am rannu gwybodaeth gydag adrannau’r llywodraeth, i alluogi cwmnïau ynni i adnabod a thargedu’n fwy effeithiol eu cwsmeriaid bregus;

  • Yr oedd angen am archwiliad llawn o daliadau dosbarthu a thrawsyriant er mwyn penderfynu a yw’r Deyrnas Unedig yn gyfan â strwythur prisio teg;

  • Yr oedd angen cefnogaeth y llywodraeth ar gyfer ehangu’r rhaglen mesuryddion 'call’ yn gyffredinol trwy’r wlad;

  • Anghytuno ar honiadau bod cwmnïau ynni yn gwneud proffidiau mawr ar draul pobl sy’n ymdrechu mewn tlodi tanwydd, gan mai ychydig o broffid oedd i’w wneud o fewn eu canghennau manwerthu;

  • Gwrthwynebiad i unrhyw fath o dariff cymdeithasol mandadol, yr oeddent yn credu allai fygu arloesi ac atal canfod yr atebion gorau i’r mater (Nwy Prydain a Scottish Power);

  • Awgrym fod y taliad tanwydd gaeaf yn cael ei dalu’n uniongyrchol i gyflenwyr fel y gallant ei osod yn erbyn biliau ynni (Nwy Prydain);

  • Gwelliannau o ran effeithlonrwydd tai gyda golwg ar ynni allai fod y dull mwyaf effeithiol a chynaliadwy o leihau baich prisiau sy’n codi ar gyfer cwsmeriaid ar incwm bach a chwsmeriaid bregus a gwaredu tlodi tanwydd yn y tymor hirach (eon UK)

  • Yr oedd rhoi’r un pwysau ar bob un o’r gyrwyr  - ansawdd tai, incwm teuluol, a phrisiau ynni  - yn allweddol i fynd i’r afael â thlodi tanwydd (Scottish Power); ac

  • Yr oedd gan sefydliadau gwirfoddol, megis Cyngor ar Bopeth, swyddogaeth bwysig fel cyfryngwyr sicr i godi ymwybyddiaeth a chael pobl i hawlio budd-daliadau.                                                              

8. Mae’r chwe chwmni ynni 'mawr’ ers hynny wedi cytuno i dreblu’n wirfoddol eu gwariant blynyddol cyfunol ar 'gymorth cymdeithasol’ i £150 miliwn erbyn 2011(1).

Materion a godwyd gyda’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai                                   

9. Yn y sesiwn dystiolaeth ar 4 Mehefin, rhoddodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y pedair thema a gytunwyd arnynt yn yr Uwchgynhadledd Tanwydd ar 23 Ebrill 2008, a fynychwyd gan Weinidogion y llywodraeth o’r gweinyddiaethau datganoledig, y sector gwirfoddol,  Golwg ar Ynni Cymru, a’r cwmnïau ynni:

  • Y Llywodraeth i  ystyried deddfwriaeth fel y gall data cwsmeriaid gael ei rannu’n fwy effeithiol er mwyn targedu cymorth ar gyfer tlodi tanwydd;

  • Cyflenwyr ynni i fod o ddifrif wrth dargedu eu rhaglenni cymdeithasol;

  • Cynlluniau peilot ar gyfer 3,000 o gwsmeriaid bregus er mwyn sicrhau eu bod ar dariff gorau eu cyflenwyr; a

  • Y Llywodraeth i ariannu ymgyrch ar y cyd Cyngor ar Bopeth ac Ofgem i helpu cwsmeriaid sydd ar incwm isel i wella’r dewis iddynt o ran ynni.

10. Hefyd wedi’u crynhoi isod mae’r materion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth:

  • Derbyniwyd ffigurau Golwg ar Ynni Cymru oedd yn awgrymu bod y nifer o gartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi cynyddu o oddeutu              240,000 yn 2006 i 270,000 yn 2008 fel "amcangyfrif rhesymol”;

  • Cynlluniwyd trafodaethau rhwng y Gweinidog a gwerthwyr ynni ar y prisiau gwahaniaethol yng Nghymru;

  • Byddai mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gostwng allyriadau carbon yn gofyn fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dwyn ynghyd ystod eang o bolisïau a mentrau ar draws llawer o bortffolios;

  • Yr oedd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gofyn i Ofgem yn benodol i edrych yn ofalus ar brisiau yng Nghymru o fewn cyd-destun ei adolygiad cyfredol;

  • Byddai ymgynghori ar y cynllun effeithiolrwydd ynni cenedlaethol a’r cynllun arbedion yn digwydd yn yr hydref, a fyddai’n cynnwys ystyried rheoliadau newydd i gynyddu hyblygrwydd deddfwriaethol y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref;

  • I gael y canlyniadau gorau gyda golwg ar dlodi tanwydd, byddai angen i bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru gyfuno â gweithgaredd ar lefel y DU ar brisiau, y farchnad ynni a’r system fudd-daliadau;

  • Yr oedd Cymru i fod yn rhan o gynllun peilot £1 miliwn yn y Deyrnas Unedig a anelwyd at osod unedau cynhesu microgynhyrchu mewn cartrefi incwm isel, fel rhan o’r rhaglen adeiladau carbon isel;

  • Yr oedd trafodaethau rhwng y Gweinidog a chydweithwyr cyfiawnder cymdeithasol i ddigwydd ar ffyrdd y gellid gwneud y mwyaf o raglen Cymunedau Nesaf er mwyn gwaredu tlodi tanwydd;

  • Yr oedd gwaith yn digwydd ar ddatblygu bid strategol dan y rhaglen cydgyfeiriad newydd, a fyddai’n canolbwyntio ar gynhyrchu ynni ar raddfa gymunedol;

  • Yr oedd y Gweinidog yn awyddus iawn i gymryd mantais o gyfleoedd yn yr amgylchedd gwynt, dŵr a’r amgylchedd morol, er mwyn galluogi Cymru i ddod yn hunangynhaliol am ei thrydan mewn 20 mlynedd, gan felly gynnal prisiau tanwydd yng Nghymru; a

  • Yr oedd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi tariffau bwydo’i mewn i alluogi pobl i symud o beirianweithiau ynni traddodiadol a throi at ficrogynhyrchu.

Argymhellion  

11. Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru a’r pedair thema sy’n deillio o’r Uwchgynhadledd Tlodi Tanwydd ym mis Ebrill.  Wrth wneud hynny, mae’r Pwyllgor yn cynnig nifer o argymhellion sy’n ceisio cydategu gweithredoedd y llywodraeth, Ofgem, a chyflenwyr ynni yn yr ardal hon.

Argymhelliad  1:

Yr oedd y Pwyllgor yn bryderus iawn fod oddeutu 22 y cant o gartrefi yng Nghymru mewn tlodi tanwydd ac yr ystyrid fod 40 y cant o gartrefi oedd yn defnyddio trydan fel eu prif danwydd yn dioddef 'tlodi tanwydd’.  Wrth groesawu’r cyhoeddiad y byddai’r chwe chwmni ynni 'mawr’ yn treblu’n wirfoddol eu gwariant blynyddol cyfun ar 'gymorth cymdeithasol’ i £150 miliwn erbyn 2011, yr oedd y Pwyllgor yn bryderus iawn y gallai hyn gael ychydig iawn o effaith os oedd cwmnïau ynni yn parhau i wthio prisiau’n uwch o symiau annerbyniol o fawr.  

Felly mae’r Pwyllgor yn argymell fod Ofgem yn cymryd rhan mwy rhagweithiol i fonitro ac adrodd yn rheolaidd ar briodoldeb polisïau prisio’r cwmniau ynni.                     

Argymhelliad 2:

Mynegodd y Pwyllgor bryder ei bod yn ymddangos fod cwsmeriaid yng Nghymru yn talu hyd at 10 y cant yn fwy na’r pris cyfartalog ym Mhrydain Fawr am eu trydan. Yr oedd tystiolaeth hefyd oedd yn awgrymu fod cartrefi yn Ne Cymru yn talu £20 y flwyddyn yn fwy na’r prisiau grid, ac yng Ngogledd Cymru £4 yn fwy.  Sylweddola’r Pwyllgor y gall gwahaniaethau cymhleth o ran costau trawsyriant a dosbarthu ar draws Prydain Fawr fod yn un o’r rhesymau am yr anghysondeb hwn, ond mae’n bryderus ei bod yn ymddangos bod defnyddwyr yng Nghymru yn talu cost pellach nad yw’n cael ei esbonio gan gostau uwch cyflenwi. Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gynnal trafodaethau gyda gwerthwyr ynni ar y prisiau gwahaniaethol yng Nghymru a byddai’n croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganlyniadau trafodaethau o’r fath.  Mae’r Pwyllgor yn deall bod gan Ofgem rôl i osod taliadau dosbarthu a thrawsyrru ac ar hyn o bryd mae’n ymgynghori ar yr Adolygiad Rheoli Prisiau Dosbarthu am y cyfnod 2010-2015.

Cefnoga’r Pwyllgor awgrym y cwmnïau ynni gyda golwg ar yr angen am ymchwil pellach ar y mater hwn ac mae’n argymell fod corff annibynnol yn cynnal ymchwiliad llawn i brisiau dosbarthu a thrawsyrru er mwyn penderfynu a oes gan y Deyrnas Unedig gyfan strwythur prisio teg

.                                 

Argymhelliad 3:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am bwysigrwydd mesuryddion 'call’ i symleiddio prosesau bilio a galluogi cwsmeriaid i ostwng y defnydd o ynni yn eu cartrefi. Mae’r Pwyllgor yn rhannu siom tystion nad oedd y Mesur Ynni’r DU yn cynnwys darpariaethau ehangu mesuryddion call yn gyffredinol trwy’r wlad. Tra bod gwelliannau i’r Mesur yn darparu pwerau galluogi i fandad mesuryddion call cyffredinol gael ei ddwyn ymlaen yn ddiweddarach a nodi’r angen am ymgynghori cyn i’r pwerau hyn ddod yn ddeddf, mae’r Pwyllgor yn bryderus nad oes gwarant o hyd y bydd mesuryddion call byth yn cael eu cyflwyno.                                                         

Mae’r Pwyllgor yn argymell felly fod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n annog llywodraeth y DU i adolygu ei gwelliannau diweddar i Fesur Ynni'r Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr bod yr ehangu mesuryddion call yn gyffredinol yn cael ei ddarparu heb oedi.

Argymhelliad 4:

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, yr oedd y cwmniau ynni’n pwysleisio’n barhaus yr angen am rannu data gydag adrannau’r llywodraeth, i’w galluogi i adnabod a thargedu’u cwsmeriaid bregus. Mae’r Pwyllgor yn deall bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu ymchwil ar wardiau etholiadol penodol sy’n dioddef tlodi, a fydd ar gael yn yr haf.  Mae’r Pwyllgor hefyd yn deall bod llywodraeth y DU yn bwriadu ystyried deddfwriaeth i sicrhau y gellir rhannu data cwsmeriaid yn fwy effeithiol "i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i ostwng costau tanwydd ar gyfer pensiynwyr tlawd sy’n fwyaf tebygol o fod mewn tlodi tanwydd”.  

Wrth fod y Pwyllgor yn cefnogi’r cam hwn yn bendant, mae’n argymell fod y rhannu data’n cynnwys ymchwil Llywodraeth Cynulliad Cymru ar wardiau etholiadol penodol mewn tlodi tanwydd, i sicrhau fod y dull gweithredu mwyaf effeithiol yn cael ei ddefnyddio i dargedu pob cwsmer sydd mewn tlodi tanwydd.

Argymell 5:

Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth bod cwsmeriaid yng Nghymru yn llai tebygol o newid cyflenwr ynni ac felly eu bod yn aml yn methu cyfleoedd posibl i wneud arbedion ar brisiau ynni.  Yr oedd tariffau cyflenwyr ynni yn ymddangos yn gymhleth a bron yn amhosibl eu cymharu â’u cystadleuwyr, gan felly wneud y broses o newid cyflenwr yn fwy cymhleth byth i’r cwsmer.  

Mae’r Pwyllgor felly’n annog cyflenwyr ynni i wneud ymdrech i symleiddio eu tariffau, gyda golwg ar alluogi cwsmeriaid i ddeall a chymharu eu biliau ac i newid cyflenwr yn fwy rhwydd.

Argymhelliad 6:

Yr oedd y Pwyllgor yn synnu o glywed fod rhai cyflenwyr ynni yn cynnig tariffau cymdeithasol - oedd wedi’u cynllunio i helpu rhai mewn tlodi - ar gyfradd uwch na’u tariffau isaf sydd ar gael.  

Mae’r Pwyllgor felly’n annog cwmniau ynni i fynd i’r afael â’r anghysondeb hwn fel mater o frys i sicrhau bod y cwsmeriaid hynny sydd mewn angen mwyaf yn gallu cael mynediad at y tariffau mwyaf cystadleuol.

Argymhelliad 7:

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, trafododd y Gweinidog ei phenderfyniad i wrthod argymhelliad o fewn adroddiad gostwng carbon yn y cartref y Pwyllgor, oedd yn annog Llywodraeth y Cynulliad i ariannu rhaglen i ôl-osod pob cartref presennol sy’n anodd ei gynhesu.  Nododd y Gweinidog "byddem wedi derbyn y cynnig pe byddai wedi canolbwyntio ar y rhai sy’n dlawd o ran tanwydd oherwydd credwn fod angen i gartrefi’r bobl hynny mewn tlodi tanwydd gael eu hôl-osod”.  Tra mae’r Pwyllgor yn deyrngar i’w argymhelliad gwreiddiol, mae’n credu y gall gwneud gwelliannau i effeithlonrwydd tai o ran ynni chwarae rhan bwysig i atal tlodi tanwydd yn y tymor hirach ac mae’n awgrymu y byddai cartrefi sy’n dioddef tlodi tanwydd yn fan cychwyn priodol i’r broses.  

Mae’r Pwyllgor yn argymell felly fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu rhaglen ôl-osod cartrefi anodd eu cynhesu y mae teuluoedd mewn tlodi tanwydd yn byw ynddynt, fel rhan o ymrwymiad parhaus i ehangu’r rhaglenni  i bob cartref anodd ei gynhesu yn ddiweddarach.  

Argymhelliad 8:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bod dyfodol y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref yn ansicr yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ffrwyno gwariant.  Yr oedd hefyd bryderon, er gwaethaf mwy o achosion o dlodi tanwydd yng Ngogledd Cymru, fod y mwyafrif o wariant Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref yn ymddangos i fod wedi’i ganoli ar dde’r wlad. Croesawodd y Pwyllgor ymrwymiad y Gweinidog i ystyried rheoliadau newydd a fyddai’n galluogi hyblygrwydd deddfwriaethol Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref, fel rhan o’r ymgynghoriad ar y cynllun effeithlonrwydd ynni ac arbedion cenedlaethol.  

Yr oedd gan y Pwyllgor, fodd bynnag bryderon na fydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau hyd yr hydref ac felly mae’n argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n prysuro 'mlaen gyda’r amserlen ymgynghori i alluogi i unrhyw reoliadau newydd ar y rhaglen Effeithlonrwydd Ynni Cartref gael eu cyflwyno mewn pryd ar gyfer gaeaf 2008.

Argymhelliad 9:

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor bod adolygiad o’r  "ystod lawn o bolisïau a rhaglenni a all gyfrannu at wella effeithlonrwydd ynni” yn cael ei gynnal. Yn ogystal â’r adolygiad o’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref, yr oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i yrru gwelliant trwy raglenni adfywio, megis y rhaglen Blaenau’r Cymoedd a Chymunedau Nesaf. Yr oedd y Pwyllgor yn bryderus na fyddai pwyslais ar y rhaglenni hyn yn dwyn budd i nifer helaeth o gartrefi sydd mewn tlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig. Yr oedd y Pwyllgor yn bryderus hefyd, ar hyn o bryd, nad oedd y rhaglen Effeithlonrwydd Ynni Cartref yn cael ei dargedu i ganolbarth a gogledd Cymru, ble y mae ei angen fwyaf. Felly mae’r Pwyllgor yn argymell, wrth adolygu’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref a rhaglenni eraill a anelwyd at wella effeithlonrwydd ynni, y dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau bod y rhaglenni hyn yn y dyfodol wedi’u targedu at y rhannau hynny o Gymru lle mae’r rhan fwyaf o gartrefi mewn tlodi tanwydd.

Sylwadau   

12. Yr oedd y Pwyllgor yn bryderus o glywed fod cwsmeriaid oedd ar fesuryddion rhagdaliad a all fod yn dlawd yn aml yn talu mwy na chwsmeriaid oedd yn talu drwy ddull debyd uniongyrchol er enghraifft.  Yr oedd tystiolaeth a gyflwynwyd i’r uwchgynhadledd tlodi tanwydd yn dangos bod y gwahaniaeth ar gyfartaledd rhwng mesuryddion rhagdaliad a thalu trwy ddebydau uniongyrchol wedi cynyddu o oddeutu £80 yn 2005 i £125 yn 2008.  Mae’r Pwyllgor felly’n croesawu ymrwymiad Ofgem i ymchwilio a oes angen gweithredu pellach i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau mwyaf.  

13. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod y boblogaeth oedrannus yn debyg o fod o dan anfantais gyda golwg ar ddefnyddio’r rhyngrwyd i chwilio am y cynigion gorau ar newid cyflenwyr.  Felly mae’r Pwyllgor yn croesawu’r ymrwymiad yn y rhaglen weithredu ar dlodi tanwydd gan ddarparwr safle newid cyflenwr amlwg i hyrwyddo ei wasanaeth cyngor dros y ffôn i helpu cwsmeriaid nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd i siopa am well tariff ynni. Mae hefyd yn cefnogi lansio ymgyrch ranbarthol yn y wasg gan Ofgem i dynnu sylw at arbedion y gall cwsmeriaid eu gwneud wrth newid eu cyflenwyr.               

14. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth oedd yn awgrymu bod gan sefydliadau gwirfoddol, megis Cyngor ar Bopeth rôl bwysig i’w chwarae fel cyfryngwyr cadarn i godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau sy’n ddyledus iddynt.  Felly mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad cyflenwyr, a welwyd yn y rhaglen weithredu ar dlodi tanwydd, i ystyried sut orau y gallant weithio gydag asiantaethau cynghori ar wella hyfforddiant a gwybodaeth cynghorwyr ar y cymorth sydd ar gael i gwsmeriaid sy’n wynebu dyledion oherwydd talu am ynni a thlodi tanwydd.

Mike German AC
Cadeirydd, Pwyllgor Cynaliadwyedd
Mehefin 2008

(1) Dilynodd y cytundeb hwn gyhoeddiad y Canghellor yn y Gyllideb y byddai’n sicrhau fod cynnydd yn y swm mae cyflenwyr ynni’n ei wario ar eu rhaglenni cymdeithasol.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help