Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i Randiroedd yng Nghymru.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:
Archwilio’r ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo a darparu cyfleoedd i feithrin y diddordeb cynyddol mewn rhandiroedd a garddio cymunedol, ac archwilio’r ffyrdd y gallai’r gweithgareddau hyn gynnig manteision ehangach.
Bydd yr ymchwiliad yn ystyried y canlynol:
1.Y galw am safleoedd rhandiroedd yng Nghymru a’r safleoedd sydd ar gael (yn rhai cyhoeddus a phreifat);
2.Y rhwystrau / cyfyngiadau (i ddefnyddwyr a darparwyr);
3.Dulliau arloesol o ddarparu tir ar gyfer rhandiroedd;
4.Tystiolaeth o’r manteision ehangach y gall deiliad rhandir eu cael o arddio rhandir a’r cyfleoedd sydd ar gael i ddeiliad rhandir (er enghraifft manteision iechyd, yr amgylchedd, y gymuned, cludo cynnyrch i’r farchnad);
5.Yr angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd ac awgrymiadau o ran ym mha feysydd y dylai ymyrryd.
Hoffai’r Pwyllgor glywed barn cynifer o bobl â phosibl am y pwyntiau uchod er mwyn helpu i ddeall pa mor effeithiol yw mentrau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Dylech gyflwyno unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig erbyn 1 Ebrill 2010, i Meriel Singleton yn:
Sustainability.comm@Wales.gsi.gov.uk
neu at:
Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad
Swyddfeydd y Cynulliad
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Gellir cael rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor ar ein gwefan yn:
Yn gywir
Mike German
Cadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd
