MEMORANDWM GAN Y GWEINIDOG DROS ADDYSG, DIWYLLIANT A'R GYMRAEG
Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL: CYMHWYSEDD DEDDFWRIAETHOL, CYMRU
Y Gyfraith Gyfansoddiadol: Cymhwysedd Deddfwriaethol, Cymru
Cynnig ar gyfer Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gan y Llywodraeth ynghylch Addysg a Hyfforddiant (Anghenion Dysgu Ychwanegol)
Cyflwyniad
1. Cafodd y Memorandwm hwn ei baratoi a'i osod gerbron yn unol â Rheol Sefydlog (RhS) 22.14. Mae'n gosod y cefndir i'r darpariaethau yn y cynnig amgaeedig gan y llywodraeth am Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) a fyddai'n rhoi cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe'i gosodir gerbron yn unol â RhS 22.13 ac mae'n esbonio cwmpas y pwer y gwneir cais amdano.
2. Ceir cyd-destun cyfansoddiadol y cais hwn yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006) a pholisi Llywodraeth y DU. Dangosodd Papur Gwyn Llywodraeth y DU “Trefn Lywodraethu Well i Gymru” a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2005 ymrwymiad Llywodraeth y DU i wella pwerau deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel sefydliad a etholwyd yn ddemocrataidd gyda'i weithdrefnau craffu manwl ei hunan.
3. Mae adran 95 o Ddeddf 2006 yn rhoi'r pwer i'w Mawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, i roi'r cymhwysedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu drwy Fesur Cynulliad ar faterion penodedig. Caniateir ychwanegu'r materion hyn at Feysydd o fewn Atodlen 5 i Ddeddf 2006. Caiff Mesurau Cynulliad wneud unrhyw ddarpariaeth y gallai Deddf Seneddol ei gwneud (ac o'r herwydd gall addasu deddfwriaeth bresennol a gwneud darpariaeth newydd), o ran materion, yn ddarostyngedig i'r terfynau y darperir ar eu cyfer yn Rhan 3 o Ddeddf 2006. Cyfeirir at Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 95 o Ddeddf 2006 fel Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) yn y memorandwm hwn.
4. Caniateir mewnosod materion i Feysydd a gynhwysir yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006, naill ai drwy Ddeddf Seneddol neu drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, a gymeradwywyd gan y Cynulliad a chan ddau Dy'r Senedd. Mae'r ail lwybr yn galluogi'r Cynulliad i gychwyn y broses ar gyfer trosglwyddo cymhwysedd o'r fath, drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.
5. Byddai'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a gynigir yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ym maes Addysg a Hyfforddiant (Maes 5 o fewn Atodlen 5 i Ddeddf 2006).
Y cefndir
6. Bydd pwerau deddfwriaethol newydd o ran y “mater” penodedig yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad a Phwyllgorau'r Cynulliad i ddwyn cynigion ystyrlon gerbron ar gyfer deddfwriaeth, ar ffurf Mesurau, a seilir ar flaenoriaethau ac amserlenni yng Nghymru. Bydd y Mesurau yn destun craffu trylwyr a chymeradwyaeth gan y Cynulliad.
7. Cafodd addysg a hyfforddiant eu datganoli ers blynyddoedd ac mae gan Lywodraeth y Cynulliad bwerau eang eu hystod ar draws y sbectrwm addysg a hyfforddiant, gan gynnwys mewn cysylltiad ag ysgolion, ysgolion meithrin, prifysgolion, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach ac anghenion addysgol arbennig. Mae gan Lywodraeth y Cynulliad hefyd ystod o bwerau deddfwriaethol sylfaenol ac mae hefyd nifer o bwerau is-ddeddfwriaethol yn y meysydd hyn, sy'n rhoi darpariaeth wahanol o ran addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi defnyddi'r pwerau hyn i ddatblygu agwedd unigryw a gafodd ei theilwra i fod yn addas i’r amgylchiadau penodol yng Nghymru.
8. Gosododd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y ddogfen, Y Wlad sy'n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith, y bwriad i ‘hybu cynhwysiant mewn addysg a dysgu’ a chyflwyno ‘cynllun gweithredu wrth ymateb i argymhellion Adolygiad o Anghenion Addysgol Arbennig y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau’.
9. Daeth adolygiad pwyllgor blaenorol y Cynulliad Cenedlaethol ar Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a fu'n adolygu Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yng Nghymru i ben ym mis Mawrth 2007 a bu'n archwilio llawer o elfennau sylfaenol y system bresennol, yn arbennig canfod yn gynnar ac ymyrryd yn gynnar, asesu a llunio datganiadau statudol, a phontio.
10. Bydd y cymhwysedd deddfwriaethol y gwneir cais amdano drwy'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn yn galluogi gweithredu cydrannau allweddol polisi Anghenion Addysgol Arbennig/ Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghymru, gan gynnwys materion yr ymdriniwyd â hwy yn Adolygiad y Pwyllgor ELLS blaenorol. Bydd y cymhwysedd hefyd yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddwyn mesurau gerbron i gael darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer, plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag anghenion dysgu arbennig. Mae'r egwyddor o ddarpariaeth addysgol wahanol ar gyfer yr unigolion hynny wedi cael ei hen sefydlu yn y gyfraith ac yn y maes ymarferol yng Nghymru.
11. Mewn cyd-destun ehangach, mae diwallu ystod amrywiol o anghenion addysgol arbennig yn gofyn am gydweithio clòs nid yn unig rhwng adrannau ond hefyd gydag ystod o gyrff statudol a gwirfoddol yng Nghymru. Ceir tystiolaeth o'r agwedd gydweithredol hon wrth weithio drwyddi draw yn ein polisïau mewn cysylltiad ag Anghenion Addysgol Arbennig a chan gydweithredu â rhanddeiliaid er mwyn datblygu polisi.
12. Mae Cyfle Cyfartal y rhoi sail i bob agwedd ar y gwaith hwn i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad cyfartal at addysg, yn gallu cyflawni eu potensial llawn a bod rhwystrau rhag dysgu'n cael eu symud oddi yno. Mewn ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ynghynt eleni, pwysleisiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gyfeiriad y polisi a chadarnhau bod yr ymrwymiad i'r polisi a chyflenwi'r gwasanaeth yn cael ei ganolbwyntio'n bendant ar anghenion yr unigolyn.
13. Bydd y cymhwysedd deddfwriaethol y gwneir cais amdano yn cefnogi'r uchod a bydd hefyd yn cydymffurfio â mentrau polisi eraill sy'n dylanwadu ar ddulliau o weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn hoffi sicrhau cydweithrediad yn eu cylch.
14. Gwneir y cynnig am y pwerau hyn hefyd yng nghyd-destun
cyfyngiadau ar y setliad cyfredol sy'n cyfyngu Llywodraeth Cynulliad Cymru rhag mynd i'r afael â blaenoriaethau a materion yng Nghymru.
15. Dyma'r prif faterion a ganfuwyd:
a) nid oes bwer i newid y trothwy statudol sy'n rhoi cychwyn ar ddyletswyddau ffurfiol Anghenion Addysg Arbennig Awdurdod Addysg Lleol;
b) mae cyfraith achos wedi sefydlu mai cymharol wan ei rym cyfreithiol yw Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru o ran Anghenion Addysgol Arbennig oherwydd “rhoi sylw iddo” yn unig sydd raid i'r AALlau. Mae hyn yn golygu, ar yr amod bod awdurdod yn rhoi rheswm dealladwy da i wyro oddi wrth y Cod, yna caiff wneud hynny. Mae canllawiau gwasanaethau cymdeithasol a ddyroddwyd o dan a.7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, er enghraifft, yn llawer cryfach, oherwydd mae cyfraith achos wedi sefydlu bod disgwyl i awdurdodau gydymffurfio â hwy;
c) mae'r system ffurfiol o lunio datganiadau yn rhagnodol iawn. Er bod gan y Cynulliad bwerau i wneud rheoliadau ynghylch gweithredu'r broses hon, nid ydynt yn caniatáu iddo wneud newidiadau sylfaenol i strwythur y broses o lunio datganiad;
ch) nid oes bwer i newid ystod yr unigolion sydd â hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Yn unol â hynny, ar hyn o bryd ni all ddarparu hawl apelio ar gyfer plant (yn hytrach na rhieni a/neu ofalwyr) hyd yn oed os yw'r gallu angenrheidiol gan y plentyn i ddwyn apêl. O ran plant, mae hyn, er enghraifft, yn cyferbynnu â Deddf Plant 1989 sydd ar adegau, yn rhoi'r hawl i blant ddwyn ceisiadau gerbron y llysoedd;
d) nid yw'r system bresennol yn caniatáu i fecanweithiau datrys anghydfod lleol ddod i ben cyn bwrw ymlaen i apelau yn y Tribiwnlys;
dd) nid oes gofyniad statudol bod AALlau yn darparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant ag Anghenion Addysgol Arbennig. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r sefyllfa ynglyn â gwasanaethau cymdeithasol i blant y mae Deddf Plant 1989 yn gosod dyletswydd ddatganedig ar awdurdodau i drefnu eiriolaeth ar eu cyfer. Nid yw'r pwerau presennol yn caniatáu trefnu darpariaeth debyg o ran Anghenion Addysgol Arbennig;
e) ychydig iawn yw gallu'r Cynulliad drwy reoliadau i ychwanegu dyletswyddau penodedig i'r AALlau neu i unrhyw un arall o ran Anghenion Addysgol Arbennig.
16. Gan hynny, nid yw pwerau gweithredol Gweinidogion Cymru yn ddigonol i ganiatáu i Lywodraeth Cynulliad Cymru fynd i'r afael â'r materion hyn.
Cwmpas
17. Mae adroddiadau annibynnol yn ystod y blynyddoedd diweddaraf a gwaith cyfredol a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn dangos bod angen newidiadau i'r fframwaith statudol presennol ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA). Mae Deddf Addysg 1996 yn gosod y fframwaith ar gyfer darparu addysg Anghenion Addysgol Arbennig. Mae hon yn gosod dyletswyddau ar ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau) ac yn gosod trefniadau rhagnodol ar gyfer llunio datganiadau ac apelau, ac yn galluogi'r Cynulliad i ddyroddi Cod Ymarfer ar gyflenwi'r Anghenion Addysgol Arbennig. Ar hyn o bryd, ychydig o bwerau sydd gan Weinidogion Cymru i wneud newidiadau i'r fframwaith statudol a osodir yn Neddf 1996.
18. Y cynnig yw bod Mater 5.16 yn cael ei fewnosod ym Maes 5: Addysg a Hyfforddiant yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i alluogi bod newidiadau'n cael eu gwneud drwy Fesur Cynulliad, ynghylch unrhyw agwedd ar drefnu a chyflenwi Anghenion Addysgol Arbennig yng Nghymru. Bydd y cymhwysedd deddfwriaethol hwn hefyd yn galluogi ymestyn y diffiniad o Anghenion Addysgol Arbennig i gynnwys anghenion addysgol ychwanegol a thrwy hynny osod rhwymedigaethau ar gyrff cyhoeddus ynghylch y categori estynedig hwnnw o ddysgwr a gweithredu unrhyw addasiad mewn polisi y dymunir ei gael ynghylch strwythur y broses lunio datganiadau a darpariaethau'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig.
19. Gan hynny, prif fwriad y GCD hwn yw rhoi'r pwer i'r Cynulliad wneud Mesurau o dan Ran 3 o Ddeddf 2006 a fydd yn rhoi effaith i ba argymhellion bynnag neu ddatblygiad polisi ar ôl hynny y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hyrwyddo. Y bwriad yw sicrhau y gellir gwneud Mesurau ar draws ystod ehangach o feysydd sy'n gysylltiedig â darparu addysg ar gyfer plant ac oedolion y mae eu hanghenion addysgol yn wahanol i'r rheini y mae'r system addysg brif ffrwd yn canolbwyntio arnynt ar hyn o bryd. Mae diwygio'r ddarpariaeth bresennol ynghylch anghenion addysgol arbennig plant yn destun blaenoriaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Terfynau daearyddol unrhyw Fesur Cynulliad
20. Mae Adran 93 o Ddeddf 2006 yn gwahardd unrhyw Fesur Cynulliad rhag cael effaith ac eithrio o ran Cymru. Mae'n darparu na fydd darpariaeth mewn Mesur Cynulliad yn gyfraith i'r graddau y mae y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae darpariaeth y tu allan i gymhwysedd os bydd yn gymwys ac eithrio o ran Cymru, neu os bydd yn gosod, addasu neu dynnu swyddogaethau y gellir eu harfer ac eithrio o ran Cymru (neu'n rhoi'r pwer i wneud hynny). Mae eithriadau cyfyngedig ar gyfer mathau penodol o ddarpariaethau atodol, er enghraifft, darpariaeth sy'n addas i wneud darpariaethau’r Mesur yn effeithiol, darpariaeth sy'n galluogi darpariaethau'r Mesur i gael eu gorfodi a darpariaeth sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall.
21. Mae'r cyfyngiad ynghylch swyddogaethau ac eithrio o ran Cymru yn golygu na allai'r Cynulliad roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol Cymru neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall nad ydynt yn ymwneud â Chymru.
Swyddogaethau Gweinidog y Goron
22. Nid yw'r Gorchymyn hwn a gynigir ynddo'i hun yn gwneud cais i addasu neu dynnu unrhyw swyddogaeth gan Weinidog y Goron. Yn rhinwedd Rhan 2 o Atodlen 5 o'r Ddeddf, ni chaiff y Cynulliad drwy Fesur newid swyddogaethau Gweinidog y Goron heb gydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru. O ran unrhyw gynigion yn y dyfodol a all effeithio ar swyddogaethau Gweinidog y Goron, ymgynghorir ag Adrannau priodol Llywodraeth y DU a cheisir dod i gytundeb am unrhyw gynigion yn y dyfodol i newid neu addasu'r swyddogaethau hynny.
23. O ran SENTW mae nifer o swyddogaethau Gweinidog y Goron y mae’r Ysgrifennydd Gwladol, yr Arglwydd Ganghellor ac i raddau llai Trysorlys EM yn gyfrifol amdanynt. O ran awdurdodaeth y tribiwnlys ar Anghenion Addysgol Arbennig, mae'r swyddogaethau hyn yn ymwneud â phenodi a symud o'u swyddi aelodau a Llywydd y Tribiwnlys, a nifer y tribiwnlysoedd unigol a gaiff arfer awdurdodaeth y Tribiwnlys. O ran gwahaniaethu ar sail anabledd o dan awdurdodaeth maes addysg y Tribiwnlys, mae swyddogaethau Gweinidog y Goron yn helaethach ac maent hefyd yn cwmpasu gweithdrefn y Tribiwnlys.
24. Bydd trafodaethau yn digwydd gydag Adrannau priodol Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y swyddogaethau hyn sef Swyddogaethau Gweinidog y Goron.
Y Casgliad
25. Oherwydd y rhesymau a amlinellir uchod, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig bod cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei ymestyn yn unol â darpariaethau cynnig GCD y llywodraeth y mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn ymwneud ag ef.
Carwyn Jones
Y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
Mehefin 2007
