HLG12
Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010
Eglwys Bresbyteraidd Cymru
1 Gwybodaeth am Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Ein hamcan yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist fel y’i datguddir yn yr Ysgrythurau Sanctaidd ac fel y’i mynegir yn ein safonau athrawiaethol, trwy sefydlu a chynnal cymdeithasau o rai yn addoli Duw ac yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist dan arweiniad yr Ysbryd Glân.
Ceisir cyrraedd yr amcan hwn trwy
bregethu’r Efengyl, gweinyddu’r sacramentau, bugeiliaeth eglwysig, seiadau a gweddïo.
Addysg grefyddol a Beiblaidd a hyfforddiant ar yr aelwyd, yn yr Ysgol Sul ac mewn dosbarthiadau.
genhadu ac efengylu gartref a thramor a chan neilltuo rhai i’r gwaith hwn.
ddarparu a chyhoeddi llenyddiaeth.
roi esiampl o fywyd Cristnogol a gweithredoedd da.
wasanaethu ein cymunedau a’n gwlad gyda gweithgarwch ymarferol.
sefyll o blaid cyfiawnder a heddwch yn ein byd.
warchod ein hamgylchfyd ym mhob ffordd bosibl.
ddefnyddio dulliau newydd ac arbrofol y penderfynir arnynt o bryd i’w gilydd.
Mae ein tystiolaeth yn cael ei gyflwyno ar sail ein cyfrifoldeb i Wasanaethu ein cymunedau a’n gwlad gyda gweithgarwch ymarferol.
Mae gennym yn ein Heglwysi dros 30,000 o aelodau a 5,000 o blant a phobl ifanc yn mynychu’r Ysgol Sul.
Nid ydym yn arbennigo yn y maes tai, ond mae canran sylweddol o’n haelodau hŷn
yn byw mewn tai cymdeithasol. Rydym yn credu bod sicrhau tai o safon i bobl Cymru yn hollbwysig ac yn gymorth i leihau problemau iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, ac yn gymorth i leihau tlodi ac i wella addysg a chynhwysedd cymdeithasol.
2 Ein hymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad
2.1 Ein barn ynglyn â’r egwyddor gyffredinol
Rydym yn croesawu’r Gorchymyn arfaethedig, rydym o blaid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i Lywodraeth y Cynulliad ym maes Tai Cymdeithasol a diwallu’r angen am dai. Wedi’r cwbl mae’r meysydd polisi hyn eisoes wedi eu datganoli, mae’n rhesymol felly ddisgwyl fod Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn cael hawliau deddfwriaethol yn y meysydd hyn. Heb yr hawliau deddfwriaethol hyn mae cyfyngiad sylweddol ar allu Llywodraeth y Cynulliad i weithredu ym maes tai cymdeithasol a diwallu’r angen am dai a bydd hyn yn parhau.
2.2 Ein barn am y cylch gorchwyl
Rydym yn teimlo bod y cylch gorchwyl arfaethedig yn dderbynniol, a heb os ni ddylid cyfyngu arno.
Rydym hefyd yn cytuno y dylid rhoi yr un hawliau i denantiaid sy’n ddeiliaid tai cyngor, cymdeithasau tai a’r cyrff trosglwyddo stoc newydd.
2.3 Ein barn ar y materion a gynhwysir yn y Gorchymyn arfaethedig
2.3.1 Rydym yn croesawu’r bwriad i ehangu’r diffiniad o dai cymdeithasol i gwmpasu’r holl sector cymdeithasol.
2.3.2 Mewn ymgynghoriad blaenorol gan y Joseph Rowntree Foundation, mynegodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru bryder ynglyn â phroblem tai fforddadwy mewn ardaloedd gwledig gan ddatgan bod yr hawl i brynu wedi gwaethygu’r broblem. Mae’n holl bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad yn cael hawliau deddfwriaethol yn y maes hawl i brynu.
2.3.3 Rydym yn cefnogi’r bwriad i gynnwys 'Cefnogi pobl’ fel rhan o gefnogaeth ym maes tai.
2.3.4 Heb os mae angen gwell diffiniad o ddi-gartrefedd ac rydym o blaid y diffiniad mwy eang a argymhellir. Croesawn y bwriad i aluogi Llywodraeth y Cynulliad i wneud mwy o ran osgoi digartrefedd.
2.3.5 Cefnogwn y bwriad i roi mwy o ystwythder i Gynghorau Sir ym maes strategaeth tai. Mae’n bwysig sicrhau bod yr hawliau arfaethedig yn galluogi cynghorau i fynd i’r afael â phroblemau fel problem tai haf/ail gartrefi yng Nghymru.
Mae hyn yn broblem fawr yn yr ardaloedd gwledig.
2.4 Ein barn ynglyn â’r paragraff ar ddehongli’r maes
Dim
2.5 Sylwadau pellach ar faterion sy’n ymwneud â’r gorchymyn
Dim
