Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (yr Iaith Gymraeg) 2009

Gorchymyn arfaethedig y Llywodraeth – gosodwyd gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth.

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesurau yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg.

Y Newyddion diweddaraf

Wedi i destun y Gorchymyn drafft gael ei gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ’r Senedd, gwnaethpwyd y Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 10 Chwefror 2010. Caiff y Cynulliad bellach wneud Mesurau (cyfreithiau) o dan y Materion a restrir yn y Gorchymyn.

Hynt y Gorchymyn

Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.

Rh.10 - Yr Iaith Gymraeg

Cyfnod

Dyddiad

Gosod y Gorchymyn arfaethedig

2 Chwefror 2009

Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yn ystyried y Gorchymyn arfaethedig

24 Chwefror 2009;
3, 10, 17, 24, 31 Marwrth 2009;
28 Ebrill 2009;
5, 12, 18, 19 Mai 2009;
1, 2 Mehefin 2009

Gosod y Gorchymyn drafft

20 Hydref 2009

Gorchymyn drafft – dadl yn y Cyfarfod Llawn

3 Tachwedd 2009

Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor

2 Chwefror 2010

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

  • Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Gorchymyn Arfaethedig

Ymgynghorodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009, a fydd yn rhoi’r hawl i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg. Mae’r gwahoddiad i roi tystiolaeth bellach wedi cau.

  • Adroddiad y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig

Adroddiad Pwyllgor:

Partneriaid a Help