Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5
Ymgynghoriad ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009
Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 wedi ymgynghori ar y Gorchymyn arfaethedig, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009, a fydd yn rhoi’r hawl i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu mewn perthynas â’r iaith Gymraeg. Mae’r alwad am dystiolaeth bellach wedi cau.
Gwybodaeth am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ac am y Pwyllgor
Neges gan Mark Isherwood AC, Cadeirydd y Pwyllgor
Mae’r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o’n diwylliant a’n treftadaeth gyfoes. Credaf ein bod yn falch o gael ein gweld fel cenedl ddwyieithog - gyda mwy a mwy o bobl yn dysgu’r iaith, gan gynnwys fi fy hun. Dywed tua 20% o’r boblogaeth eu bod yn gallu siarad Cymraeg, tra gall bron i chwarter y boblogaeth ei deall. At hynny, mae’r trafodaethau ar ddyfodol yr iaith Gymraeg yn ennyn ymatebion brwd o sawl safbwynt gwahanol.
Y cwestiwn penodol sy’n cael ei ystyried gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yw a ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â’r Gymraeg fel y nodwyd hynny yn y Gorchymyn arfaethedig.
Byddwn yn edrych yn fanwl ar y Gorchymyn arfaethedig, gan gynnwys y meysydd lle bydd y Gorchymyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ar gyfer Cymru (drwy Fesurau). Byddwn hefyd yn ceisio penderfynu a yw cwmpas y Gorchymyn yn rhy eang neu’n rhy gul.
Mae’n cwmpasu:
hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg;
y gallu i osod dyletswyddau ar gategorïau penodol o bersonau i ddarparu gwasanaethau yn ddwyieithog i’r cyhoedd;
rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.
Byddem yn falch o glywed eich sylwadau yn benodol am y tri pheth allweddol hyn, ar sail cynnwys y Gorchymyn arfaethedig. Ond rydym hefyd yn gofyn am sylwadau manylach am hyd a lled y Gorchymyn arfaethedig a’r modd y mae wedi’i ddrafftio. Croeso i chi ymateb fel y gwelwch yn dda, yn dibynnu ar eich diddordeb yn y Gorchymyn arfaethedig a’r adrannau sy’n berthnasol i chi.
Rydym yn awyddus i wybod a ydych chi’n credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.
1. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg?
2. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â pha wasanaethau ddylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog?
3. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd?
Os hoffech ymateb mewn mwy o fanylder:
Gellir gweld y llythyr ymgynghori llawn sy’n galw am dystiolaeth, sy’n cynnwys cwestiynau mwy manwl am y Gorchymyn arfaethedig yma (html) (PDF 85KB)
Sut i Ymateb:
Anfonwch eich sylwadau erbyn 20 Mawrth 2009, o dan y pennawd "Ymgynghoriad PD5 - LCO yr Iaith Gymraeg” i:
s
wyddfadeddfwriaeth@cymru.gsi.gov.ukNeu anfonwch hwy drwy’r post i: Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Yn ôl arfer pwyllgorau deddfwriaeth wrth ystyried cynigion ar gyfer Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, bydd y Pwyllgor yn osgoi adolygu polisïau sydd eisoes yn bodoli yn y maes hwn neu gymryd rhan mewn trafodaethau manwl ar y cynigion penodol ar gyfer Mesurau y gellir eu cyflwyno o ganlyniad i roi cymhwysedd deddfwriaethol, er enghraifft, safbwyntiau o ran sut y dylid gweithredu Mesurau. Mater i’r Cynulliad graffu arno’n ddiweddarach yw hwn.
Fel arfer, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi’r ymatebion i’w ymgynghoriadau cyhoeddus. Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu eich enw a’ch cyfeiriad (neu ran o’r cyfeiriad) mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn glir yn ysgrifenedig ar ddiwedd eich cyflwyniad.

