Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009

Ymatebion i’r Ymgynghoriad

IG15(o) - Merched y Wawr

Ymgynghoriad Lco  - Yr Iaith Gymraeg

Ymateb Gan Bwyllgor Llywio Merched Y Wawr

Elusen 506789 sy’n cynrychioli dros 6,600 o aelodau.

Carwn ddiolch am y cyfle i ymateb fel un o fudiadau y Sector wirfoddol sy’n gweithredu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.   Rydym yn ymwybodol iawn o’r anawsterau a wynebir yn ddyddiol trwy geisio byw bywyd a chael gwasanaethau trwy Gyfrwng yr Iaith Gymraeg.

Teimlwn fod cyfle gennym i ddiogelu’r iaith Gymraeg trwy’r ddeddfwriaeth yma.  Er mai un cam bach ydyw, y mae yn gam allweddol i’r dyfodol.  Rhaid cynnig y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a mwynhau chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.   Rhaid i’r iaith fod yn iaith fyw yn tyfu ac yn esblygu.  Mae Merched y Wawr yn cynnig cyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol, cynhelir dros 3,000 o ddigwyddiadau yn flynyddol ar draws Cymru, a phob un ohonynt trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.    

1. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas a hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg?

Heb os nac oni bai - yn sicr dylai fod gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu ar hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg yng Nghymru lle mae dealltwriaeth ac arbenigedd o'r sefyllfa ieithyddol.  Gellir, trwy’r ddeddf, sefydlu statws swyddogol i’r iaith Gymraeg a fydd yn diffinio hawliau ieithyddol pendant i bobl Cymru fel eu bod yn medru defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywyd,  ynghyd a sefydlu Comisiynydd i’r Iaith Gymraeg.
Nid ydyw yn gwneud rhyw lawer o synnwyr i gadw y pwerau deddfu oddi allan i Gymru. Rhaid cael deddfau addas yng Nghymru i bobl Cymru.  Mae’n anodd gweld sut gellir cyfiawnhau fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn deddfu ar faterion eraill, os na ellir deddfu ar yr hyn sy’n allweddol i Gymru - sef yr Iaith Gymraeg.

Mae Merched y Wawr yn credu mai yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru y dylid deddfu ar bob mater yn ymwneud â’r iaith Gymraeg.

2. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â pha wasanaethau ddylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog?

Dylai yn sicr.  Mae hyn yn ddilyniant naturiol o Ddeddfau blaenorol.   Mae’r Gymraeg yn wahanol i’r holl faterion eraill y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt, gan ei bod yn unigryw i Gymru, a’r ddeddfwriaeth ar  y Gymraeg yn effeithio llawer mwy ar bobl Cymru na gweddill Prydain. Mae’r gallu i dderbyn gwasanaethau safonol cyson trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddefnydd dyddiol y person hwnnw o’r Gymraeg.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai benderfynu pa wasanaethau ddylai’r cyhoedd eu derbyn yn ddwyieithog ac fe ddylai pob gwasanaeth cyhoeddus gael ei gynnwys yn y gorchymyn.

3. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â rhyddid pobl i siarad Cymraeg gyda’i gilydd?

Dylai - mae hyn yn hynod o bwysig.  Mae’n aelodau yn teimlo yn gryf iawn am y mater yma - ac yn credu y dylai hyn fod yn un o hawliau elfennol pob person yng Nghymru.

4. Beth yw eich barn am yr egwyddor cyffredinol y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Materion 20.1 a 20.2 h.y. Hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg; a thrin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cydraddoldeb. Darpariaeth am neu mewn cysylltiad a rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw.

Ar hyn o bryd nid ydyw’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael ei trin yn gyfartal. Ceir amryw o enghreifftiau o hyn yn ddyddiol.  Felly rydym yn cytuno gyda’r egwyddor o roi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad.

5. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi y byddai Mater 20.1 yn adleisio'r egwyddorion sydd wrth wraidd Deddf 1993 ac yn adeiladu ar yr egwyddorion hynny a hefyd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar ystod y swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac adeiladu ar y swyddogaethau hynny. A ydych yn cytuno y bydd yn caniatáu i’r Cynulliad wneud hyn? Os na, sut y dylid ei ddiwygio?

Rydym yn cytuno bod cynnwys Mater 20.1 yn adeiladu ar swyddogaethau Bwrdd yr Iaith Gymraeg a hefyd ag egwyddorion Deddf 1993.

6. Beth yw eich barn ar gwmpas y Gorchymyn arfaethedig o ran y categorïau o bersonau y byddai’n caniatáu i’r Cynulliad osod dyletswyddau arnynt i ddarparu gwasanaethau penodol yn ddwyieithog i’r cyhoedd, hy a yw wedi’i lunio’n rhy gul neu’n rhy eang (Mater 20.1 (a) - (i))? Nodwch yn glir yr isadran/isadrannau y mae eich sylwadau yn ymwneud â hi/â hwy, hy (a) - (i) ac unrhyw is-isadrannau o dan (h).

Dylai’r ddeddf allu effeithio ar y defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Gellir ehangu ar yr hyn a nodir a chredwn y dylid cynnwys llawer mwy...-cynnwys gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, e.e.:-

meysydd  bancio, bancio ar y we, cynilo, credyd, benthyca, yswirio e.e. yswiriant ar gyfer gyrru modur; siopau mawr,  gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, e.e. gwasanaethau bysiau rhestredig,  isadeiledd trafnidiaeth - meysydd awyr, porthladdoedd, gorsafoedd bws, tollbyrth, cyfleusterau chwaraeon, hamdden, a lleoedd cynadleddau a chwmnïau ffon sy’n cynnig gwasanaeth yng Nghymru.  Dylid hefyd  gael yr hawl i gael gwrandawiad llys a rheithgor yn Gymraeg.

Y Cynulliad Cenedlaethol ddylai ddeddfu ar ryddid personau i ddefnyddio’r iaith Gymraeg gyda’i gilydd, ac mae angen cadw ffocws y ddeddfwriaeth ar ddefnyddwyr, sef dinasyddion Cymru.

7. A yw’r diffiniad a ddefnyddir ar gyfer "awdurdodau cyhoeddus” ar gyfer y Mater hwn yn briodol ("pob wdurdod cyhoeddus sy’n dod o fewn ystyr "public authority” yn adran 6 Deddf Hawliau Dynol 1998”)? Os na, pa ddiffiniad y dylid ei ddefnyddio a pham?

Nac ydyw - ni theimlwn fod hwn yn ddigon clir nac eang.  Nid ydyw ychwaith yn cynnwys partneriaethau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus megis  Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc, Byrddau Gwasanaeth Lleol, Partneriaethau Iechyd, Gofal a Lles ayyb. Paham fod y rhain wedi ei heithrio? Oni ddylid diwygio’r cymal i amlygu eu bod yn gynwysedig?

Mewn gwirionedd rhaid cynnwys pob Sector sydd yn cynnig gwasanaeth cyhoeddus, gwirfoddol, ac adrannau penodol o'r sector preifat. Hefyd ni nodir Maes Addysg ac mae’n bwysig cynnig addysg cyfrwng Cymraeg i holl drigolion Cymru a mynediad i wersi Cymraeg.  Dylai fod yn cynnwys Cynllunio a Datblygu Economaidd yn ogystal.  

8. Byddai Mater 20.1 yn caniatáu i ddyletswyddau gael eu gosod ar "wasanaethau telathrebu” a "gwasanaethau post a swyddfeydd post” (Mater 20.1 isadran (h)(iii) a (h)(iv)). A yw’r diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer "gwasanaethau post”, a "gwasanaethau telathrebu” o dan yr adran "Dehongli’r maes hwn” yn y Gorchymyn arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol? Os na, sut y dylid mynd ati i’w hailddrafftio a pham y dylid gwneud hyn?

Dylai fod modd i Gymry Cymraeg dderbyn gwasanaeth gan gwmni telathrebu yn Gymraeg, yn yr un modd byddem yn dymuno derbyn gwasanaeth post a swyddfeydd post yn Gymraeg - a theimlwn y dylai hyn gynnwys unrhyw ddatblygiadau ym maes technoleg gan gynnwys gwasanaethau i gwsmeriaid ar y we.

9. Mewn perthynas â Mater 20.1, isadran (e) - "personau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd sy’n derbyn cyfanswm o £200,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol”, sef "arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol”: (i) A yw’n angenrheidiol nodi’r diffiniad o "arian cyhoeddus” yn y Gorchymyn arfaethedig? Os felly, a yw’n briodol (fel y’i nodir o dan "Dehongli’r maes hwn”)? (ii) Byddai dyletswyddau ond yn cael eu gosod ar bobl sy’n derbyn mwy na £200,000. Ai £200,000 yw’r trothwy cywir i’r Cynulliad gael pwerau deddfu?

Ni theimlwn fod rhoi swm o £200,000  o arian cyhoeddus  yn mynd i fod o gymorth i reoleiddio;  sut mae aelod o’r cyhoedd yn mynd i wybod pa gwmnïau sydd wedi derbyn y swm yma? am ba hyd ar ôl derbyn yr arian y bydd yn ofynnol i’r cwmnïau ddarparu gwasanaeth dwyieithog? Blwyddyn neu fwy?   A sut mae modd diffinio  "gwasanaethau”? A fydd yn cynnwys archfarchnadoedd sy’n derbyn dros 200,000 o arian cyhoeddus ac a ydyw yn mynd i gynnwys arian sy’n dod o  ffynonellau eraill cyhoeddus megis Grantiau Loteri?

10. A yw cwmpas Mater 20.2 yn briodol ("darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw)”)? A fydd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu yn y dyfodol er mwyn gweithredu’r cynnig fel y mae wedi’i amlinellu yn y Memorandwm Esboniadol?

Nid ydyw y pwynt yma yn eglur iawn. Gallwn ddweud ein bod yn gofidio fod yna gymal ynglŷn a chyfyngu ar y rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae angen sicrhau hawl siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg fel iaith weithredol o fewn gweithlu yn y sector cyhoeddus.  

Tybiwn y byddai’r deddfwriaeth yma yn gwireddu’r prif ymrwymiadau sydd yn nogfen Cymru’n Un o ran y Gymraeg, sef cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a’r Saesneg; diffinio hawliau ieithyddol unigolion o safbwynt derbyn gwasanaethau; a sefydlu Comisiwn Iaith.  

Byddai’r ddeddf yn gwahardd yr enghreifftiau  anffodus hynny o’r  gorffennol pan geisiwyd atal siaradwyr Cymraeg rhag siarad yr iaith wrth eu gwaith.  

11.Beth yw eich barn ynghylch Erthyglau 4 a 5 y Gorchymyn arfaethedig sy’n ymdrin â chymhwyso’r Gorchymyn arfaethedig i gyrff y Goron?

Cytunwn a hyn. Disgwylir i gyrff y Goron gydymffurfio â’r un dyletswyddau â chyrff cyhoeddus eraill, o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog yng Nghymru.

12. A oes unrhyw faterion eraill a fyddai’n dylanwadu ar effeithiolrwydd unrhyw Fesurau yn y dyfodol gan nad yw’r Gorchymyn arfaethedig yn ddigon eang? Os felly, a allwch awgrymu sut y byddai’n rhaid ehangu’r Gorchymyn arfaethedig er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn?

Dylid  sicrhau fod egwyddorion sylfaenol yr LCO yn cyd-fynd efo deddfwriaeth Brydeinig ac Ewropeaidd sydd yn amddiffyn hawliau dynol sylfaenol.  

Os byddai’r Cynulliad am ychwanegu at y rhestr darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol a fyddai angen mynd trwy’r un broses o lunio LCO a’i gyflwyno gerbron y Cynulliad, Ty’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi. Oni ddylid fod yna gymal i sicrhau y byddai modd gwneud hyn yn y Cynulliad i’r dyfodol?

Diolch am gael y cyfle i ymateb

Tegwen Morris - Cyfarwyddwr Cenedlaethol

Merched y Wawr

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help