Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009

Ymatebion i’r Ymgynghoriad

IG29(o) Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru’n cefnogi’n llwyr y cais arfaethedig trwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol i drosglwyddo’r hawl i ddeddfu ar faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg o San Steffan i Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn unol â rhaglen Cymru’n Un.  Credwn yn bendant mai’r Cynulliad Cenedlaethol yw’r man lle y dylid trafod materion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg.

Teimlwn mai cael y Gorchymyn yw’r flaenoriaeth yn awr, ac mai mater i’w ystyried wedyn yw’r defnydd y dylid ei wneud ohono i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg mewn meysydd penodol.  Ein gofid yw y gallai’r holl fanylder sydd wedi ei gynnwys yn yr ymgynghoriad gymhlethu’r broses o gael y Gorchymyn yn y lle cyntaf, a chymylu’r egwyddor sylfaenol, sef mai yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ac nid yn San Steffan y dylid trafod unrhyw fesurau arfaethedig ynghylch yr iaith.

Serch hynny, rydym yn cefnogi’r bwriad i greu deddfwriaeth newydd a fyddai’n gorfodi cyrff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â chyrff eraill sy’n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i ddarparu gwasanaeth cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ymhellach, rydym yn cefnogi’r bwriad i greu swydd Comisiynydd Iaith i warchod buddiannau’r Gymraeg, ac felly gadarnhau statws swyddogol i’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg.

Credwn fod lle i ddeddfu ymhellach mewn perthynas â pha wasanaethau y dylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog, yn ogystal â sicrhau rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yn y gweithle.

Cydnabyddwn yr un pryd na all deddfwriaeth ynddi ei hun achub yr iaith na chynyddu’r defnydd a wneir ohoni; galwn, felly, ar bobl Cymru i wneud pob defnydd o’u hawliau presennol i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus, ac i ddefnyddio’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael iddynt.

Glyn Tudwal Jones
Ysgrifennydd  Adran Eglwys a Cyhymdeithas
Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help