Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009

Ymatebion i’r Ymgynghoriad

IG2(o) Welsh Language Board

1. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn croesawu’r cyfle i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth ar y Gorchymyn arfaethedig sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg.  Yn fwy cyffredinol, rydym hefyd yn croesawu bwriad Llywodraeth y Cynulliad i gyflwyno deddfwriaeth bellach ar yr iaith, rhywbeth y mae’r Bwrdd wedi bod yn pwyso amdano ers rhai blynyddoedd bellach.  Edrychwn ymlaen at weld cynnwys y ddeddfwriaeth honno, a fydd, ymysg pethau eraill, yn gwireddu’r prif ymrwymiadau sydd yn y ddogfen Cymru’n Un o ran y Gymraeg, sef cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a’r Saesneg; diffinio hawliau ieithyddol unigolion o safbwynt derbyn gwasanaethau; a sefydlu Comisiwn Iaith.  

2. Mae gweddill y papur hwn yn ceisio ateb yn gryno y cwestiynau penodol y mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth wedi’u cyflwyno inni yn ei lythyr 12 Chwefror.

3. Rydym yn gadarn o’r farn y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â’r iaith Gymraeg o ran ei hyrwyddo a’i defnyddio; o ran pa wasanaethau ddylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog; ac o ran rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.  Saif yr egwyddor uwchlaw unrhyw ystyriaeth o gynnwys y Gorchymyn arfaethedig; wedi’r cyfan, mae’r Gymraeg yn wahanol i’r holl faterion eraill y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt, gan ei bod, yn fwy na heb, yn unigryw i Gymru, ac y bydd deddfwriaeth ar y Gymraeg yn effeithio llawer, llawer mwy ar bobl Cymru nag ar neb arall ym Mhrydain.  Mae hyn yn arbennig o wir os edrychir ar ddeddfwriaeth yn bennaf fel rhywbeth a ddylai wneud gwahaniaeth i fywydau dinasyddion Cymru, yn hytrach nag i weithdrefnau sefydliadau.  Hefyd, rydym yn credu’n syml mai’r Cynulliad yw’r corff priodol i ddeddfu ar y Gymraeg.

4. Mae’n dilyn o hyn y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y meysydd a nodir ym Materion 20.1 a 20.2.

5. Cytunwn fod cynnwys Mater 20.1 yn y Gorchymyn yn adleisio’r egwyddorion sydd wrth wraidd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac yn adeiladu ar yr egwyddorion hynny, ac y byddai Mater 20.1 yn ogystal yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar rychwant y swyddogaethau a gyflawnir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.  Yn wir, wrth wneud hynny, ein gobaith yw y gwelir esblygiad naturiol ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, drwy adeiladu ar y cynnydd y mae’r Bwrdd ei hun wedi’i ysgogi, o ran ei arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol, ei swyddogaeth gyffredinol yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 'i hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith Gymraeg’, ac yn arbennig o ran ei swyddogaeth statudol i oruchwylio’r broses o baratoi a gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg, y mae bron i 500 ohonynt bellach ar waith.

6. O ran cwmpas y Gorchymyn arfaethedig, rydym yn croesawu’n ddiwahân y sawl a restrir yn adrannau (a) i (h).  Da yw gweld fod nifer o gyrff y bydd yn rhaid iddynt, nid yn unig drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal - sef yn unol â phrif egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 - ond hefyd hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg: er enghraifft, yn adran (h)(v), gyrff sgiliau sydd â chyfraniad allweddol i’w wneud er lles parhad y Gymraeg.  Serch hynny, ein barn yw ei fod y Gorchymyn arfaethedig wedi’i lunio’n rhy gul, ac y dylid ystyried cynnwys yn ychwanegol yn adran (h) y personau canlynol, am eu bod i gyd yn darparu gwasanaethau o natur gyhoeddus i’r cyhoedd yng Nghymru:

Personau sy’n darparu gwasanaethau cynilo, credyd, benthyca neu gyfrif banc i’r cyhoedd.
Personau sy’n darparu gwasanaethau yswirio gofynnol i’r cyhoedd, er enghraifft, yswiriant ar gyfer gyrru modur, gan na ellir gwneud hynny’n gyfreithiol heb yr yswiriant hwnnw.
Personau sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft, cwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau bysiau rhestredig.
Personau sy’n darparu isadeiledd trafnidiaeth, megis meysydd awyr, porthladdoedd, gorsafoedd bws a choets, a thollbyrth.
Personau sy’n cynnig cyfleusterau chwaraeon, hamdden, neu gynadledda mewn mannau cyfarfod sefydlog sydd wedi’u trwyddedu i ddal mwy na mil o bobl, dyweder.

7. Ein prif ystyriaeth wrth gynnig yr uchod yw ymateb i awydd y Llywodraeth i sicrhau gwasanaethau sydd wedi’u canoli ar y defnyddiwr.  Yn unol â hyn, ni ddylid, er enghraifft, ddisgwyl i’r cyhoedd orfod gwahaniaethu rhwng wahanol ddulliau rheoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus, fel trenau a bysiau rhestredig.  Mae’r un pwynt yn wir am isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus.  Wrth deithio, prif ystyriaeth y defnyddwyr yw cyrraedd un man o fan arall mor hwylus ag y bo modd; prin eu bod am feddwl sut y rheoleiddir y darparwyr gwasanaethau.

8. ran adran (d) y Gorchymyn arfaethedig, rydym yn bryderus a ydyw partneriaethau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus wedi’u cynnwys ynddo, megis Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc; Partneriaethau Iechyd, Gofal a Lles; Byrddau Gwasanaeth Lleol; a Chynlluniau Gofodol.  Yn syml, onid ydynt wedi’u cynnwys, dylid am resymau amlwg ddiwygio’r cymal i amlygu eu bod yn gynwysedig.

9. Credwn fod y diffiniad a ddefnyddir yn y Gorchymyn arfaethedig ar gyfer 'awdurdodau cyhoeddus’, 'gwasanaethau telathrebu’, ac 'arian cyhoeddus’ yn briodol ac yn angenrheidiol.  Ymddengys hefyd fod y trothwy o £200,000 o dan Mater 20.1, isadran (e) yn rhesymol.  Ond o ran 'gwasanaethau post a swyddfeydd post’, credwn y dylid meddwl ymhellach am y diffiniad a roir o 'gwasanaethau post’: yn benodol, mae’r ymadrodd 'drwy’r post’ i’w weld yn aneglur braidd.  

10. ran Mater 20.2, rydym wrth reswm yn croesawu’r egwyddor, yn enwedig pe bai deddfu arno gan y Cynulliad yn gwahardd unwaith ac am byth y sefyllfaoedd anffodus hynny a gododd yn y gorffennol pan geisiwyd atal siaradwyr Cymraeg rhag siarad yr iaith wrth eu gwaith.  Gorthrwm yw ceisio gwneud hyn, ac o’r herwydd dylid cymryd pob cam mewn cymdeithas wâr i’w ddileu.  Serch hynny, mae gennym rai pryderon ynghylch cyfyngu ar ryddid personau sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg.  Dylai’r Memorandwm gan Lywodraeth y Cynulliad fod yn fwy eglur ynglŷn â beth a olygir: er enghraifft, a fyddai modd gwahardd carcharorion Cymreig rhag siarad Cymraeg gyda’u teuluoedd, neu rhag ysgrifennu atynt yn Gymraeg?  Cyfyd yr egwyddor, wrth gwrs, ai hawl ddylai’r Mater ei gyhoeddi, yn hytrach na rhyddid.

11. Mae’r Bwrdd yn cefnogi Erthyglau 4 a 5 y Gorchymyn arfaethedig, o ran diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ac o ran swyddogaethau cyrff y Goron.  Nid oes unrhyw ddadl resymegol hyd y gwyddom dros beidio â disgwyl i gyrff y Goron gydymffurfio â’r un dyletswyddau â chyrff cyhoeddus eraill, o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

12. Dyna ymateb Bwrdd yr Iaith Gymraeg i’r cwestiynau y mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth wedi’u gofyn.  Byddem yn hapus iawn i ymhelaethu ar unrhyw rai o’r pwyntiau uchod yn ein cyflwyniad llafar i’r Pwyllgor ar 3 Mawrth, ac, fel pob amser, rydym yn barod i gynorthwyo Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gynghori, ar unrhyw agweddau pellach sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg
19 Chwefror 2009

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help