Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5
Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr laith Cymraeg) 2009
Ymatehion i’r Ymgynghoriad
IG49(o) Cyngor Sir Ceredigion
Ymgynghoriad ar y Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol : Yr iaith Gymraeg
Mawrth 2009
Ymateb Cyngor Sir Ceredigion
1. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg?
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r lle priodol i ddeddfu ar faterion yr iaith Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn fwy na heb yn unigryw i Gymru ac fe fydd deddfwriaeth ar y Gymraeg yn effeithio yn bennaf oll ar bobl Cymru, o ran statws, gwasanaethau a hawliau’r unigolyn. Mae’n rhesymol, felly, mai’r Cynulliad ddylai ddeddfu ar faterion yn ymwneud â’r iaith.
2. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â pha wasanaethau ddylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog?
Y Cynulliad ddylai ddeddfu ynglŷn â darparu gwasanaethau dwyieithog oherwydd pobl Cymru fydd yn cynrychioli’r mwyafrif llethol o ddefnyddwyr y gwasanaethau hyn. Mae’r Cynulliad hefyd yn datblygu polisïau mewn modd unigryw sy’n ateb gofynion pobl Cymru. I’r perwyl hwn mae natur ieithyddol y gwasanaethau hynny yn ystyriaeth greiddiol. O ganlyniad, y Cynulliad Cenedlaethol ddylai allu deddfu ynglŷn â’r gwasanaethau dwyieithog ddylai fod ar gael.
3. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd?
Mae maes hawliau dynol yn yn sy’n parhau i ddatblygu. Mae rhyddid / hawl unigolion i siarad Cymraeg gyda’i gilydd yn egwyddor gwbl sylfaenol i gymdeithas wâr. Dylai’r cyfrifoldeb dros sicrhau hawliau dinasyddion Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg fod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae sicrhau’r hawliau hyn yn holl bwysig a dylai geiriad y Gorchymyn adlewyrchu hyn yn ogystal â sicrhau rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg.
4. Beth yw eich barn am yr egwyddor gyffredinol y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Materion 20.1 a 20.2? hy: Mater 20.1: Hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg; a thrin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cydraddoldeb; Mater 20.2: Darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw).
Rydym yn gefnogol i’r egwyddor y dylai’r Cynulliad gael y cymhwysedd deddfwriaethol i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cydraddoldeb(20.1), a sicrhau rhyddid person i ddefnyddio’r Gymraeg (20.2). Er hyn mae lle i ehangu ar ar y lefel o gymhwysedd. Mae’r newid hwn yn esblygiad naturiol o ddarpariaethau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
5. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi y byddai Mater 20.1 yn adleisio'r egwyddorion sydd wrth wraidd Deddf 1993 ac yn adeiladu ar yr egwyddorion hynny a hefyd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar ystod y swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac adeiladu ar y swyddogaethau hynny. A ydych yn cytuno y bydd yn caniatáu i’r Cynulliad wneud hyn? Os na, sut y dylid ei ddiwygio?
Mae Mater 20.1 yn adeiladu yn naturiol ar swyddogaethau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac egwyddorion Deddf 1993. Er hyn mae lle i ehangu ymhellach ar egwyddorion y ddeddf yn y gorchymyn hwn.
6. Beth yw eich barn ar gwmpas y Gorchymyn arfaethedig o ran y categorïau o bersonau y byddai’n caniatáu i’r Cynulliad osod dyletswyddau arnynt i ddarparu gwasanaethau penodol yn ddwyieithog i’r cyhoedd, hy a yw wedi’i lunio’n rhy gul neu’n rhy eang (Mater 20.1 (a) - (i))? Nodwch yn glir yr isadran/isadrannau y mae eich sylwadau yn ymwneud â hi/â hwy, hy (a) - (i) ac unrhyw is-isadrannau o dan (h).
Mae’r rhestr o bersonau y byddai’r Cynulliad yn gosod dyletswyddau arnynt i ddarparu gwasanaethau penodol yn ddwyieithog i’w groesawu. Er hyn mae’r Gorchymyn arfaethedig wedi ei lunio yn rhy gul. Yn unol â phwyslais y Llywodraeth bresennol ar ganoli gwasanaethau ar y Dinesydd, dylid ystyried diffiniad ehangach o wasanaethau sydd o natur gyhoeddus. Gallai’r diffiniad hwn gynnwys personau sydd yn darparu gwasanaethau bancio, yswiriant, trafnidiaeth o bob math, cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gwasanaethau gwirfoddol, a phartneriaethau ffurfiol ac anffurfiol sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus. Er engrhaifft dylid sicrhau fod gwasanaethau bysus yn cael eu cynnwys yn ogystal a gwasanaethau rheilffyrdd er mwyn sicrhau cysondeb o wasanaethau ar gyfer poblogaeth Cymru.
7. A yw’r diffiniad a ddefnyddir ar gyfer "awdurdodau cyhoeddus” ar gyfer y Mater hwn yn briodol ("pob awdurdod cyhoeddus sy’n dod o fewn ystyr "public authority” yn adran 6 Deddf Hawliau Dynol 1998”)? Os na, pa ddiffiniad y dylid ei ddefnyddio a pham?
Mae’r diffiniad o awdurdodau cyhoeddus yn briodol.
8. Byddai Mater 20.1 yn caniatáu i ddyletswyddau gael eu gosod ar "wasanaethau telathrebu” a "gwasanaethau post a swyddfeydd post” (Mater 20.1 isadran (h)(iii) a (h)(iv)). A yw’r diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer "gwasanaethau post”, a "gwasanaethau telathrebu” o dan yr adran "Dehongli’r maes hwn” yn y Gorchymyn arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol? Os na, sut y dylid mynd ati i’w hailddrafftio a pham y dylid gwneud hyn?
Mae’r diffiniad o 'wasanaethau post’ a 'gwasanaethau telathrebu’ yn briodol.
9. Mewn perthynas â Mater 20.1, isadran (e) - "personau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd sy’n derbyn cyfanswm o £200,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol”, sef "arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol”: (i) A yw’n angenrheidiol nodi’r diffiniad o "arian cyhoeddus” yn y Gorchymyn arfaethedig? Os felly, a yw’n briodol (fel y’i nodir o dan "Dehongli’r maes hwn”)? (ii) Byddai dyletswyddau ond yn cael eu gosod ar bobl sy’n derbyn mwy na £200,000. Ai £200,000 yw’r trothwy cywir i’r Cynulliad gael pwerau deddfu?
Mae’r diffiniad o wasanaethau cyhoeddus yn briodol. Mae’r swm yn ymddangos yn rhesymol ac yn un ymarferol i’w fonitro o du’r Llywodraeth a’r Cynulliad Cenedlaethol. Er hynny fe allai olygu dryswch ac ansicrwydd i’r Dinesydd yng nghyswllt gwybod pryd y mae ganddo’r hawl i dderbyn gwasanaeth dwyieithog.
10. A yw cwmpas Mater 20.2 yn briodol ("darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw)”)? A fydd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu yn y dyfodol er mwyn gweithredu’r cynnig fel y mae wedi’i amlinellu yn y Memorandwm Esboniadol?
Mae sicrhau hawl dinasyddion Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yn egwyddor sylfaenol i gymdeithas wâr. Mae’r maes hawliau dynol mewn deddfwriaeth yn prysur aeddfedu ac rydym yn cytuno y bydd y cymal hwn yn rhoi’r Cynulliad Cenedlaethol y cymhwysedd priodol ar hyn o bryd i sicrhau gweithredu’r egwyddor bwysig hon.
11. Beth yw eich barn ynghylch Erthyglau 4 a 5 y Gorchymyn arfaethedig sy’n ymdrin â chymhwyso’r Gorchymyn arfaethedig i gyrff y Goron?
Ar sail egwyddor, ni ddylai’r Dinesydd orfod gwahaniaethu rhwng Cyrff y Goron sy’n darparu gwasanaethau i bobl Cymru a’r awdurdodau cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i bobl Cymru. Er hynny, yng nghyd-destun y trefniant datganoli presennol mae’n anorfod y ceir peth amwysedd yng nghyswllt dyletswyddau Cyrff y Goron. Fodd bynnag, dylai’r Mesur allu cynnwys darpariaeth ddigon hyblyg sy’n medru cymryd i ystyriaeth y ffaith y gallai’r trefniant datganoli presennol barhau i esblygu.
12. A oes unrhyw faterion eraill a fyddai’n dylanwadu ar effeithiolrwydd unrhyw Fesurau yn y dyfodol gan nad yw’r Gorchymyn arfaethedig yn ddigon eang? Os felly, a allwch awgrymu sut y byddai’n rhaid ehangu’r Gorchymyn arfaethedig er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn?
Yn gyffredinol rydym yn croesawu cynnwys y Gorchymyn a’r Memorandwm - maent yn cynrychioli datblygiad hanesyddol bwysig ym maes deddfwriaeth yn ymwneud â’r Gymraeg. Mae darpariaethau penodol y Gorchymyn yn gamau rhesymol ac yn adeiladu ar egwyddorion Deddf 1993. Mae’n bwysig hefyd sicrhau bod y Gorchymyn yn caniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol y pwerau priodol i allu ystyried y Gymraeg fel rhan o feysydd deddfu eraill yn ogystal â’r gallu i lunio Mesurau pwrpasol ar y Gymraeg yn benodol.
E M Bronwen Morgan
PrifWeithredwr
Cyngor Sir Ceredigion
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA
