Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009

Ymatebion i’r Ymgynghoriad

IG4(o) Mentrau Iaith Gymraeg

Mae Mentrau Iaith Cymru yn falch o gael y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth ac ymateb i fwriad Llywodraeth y Cynulliad i gyflwyno deddfwriaeth bellach ar yr iaith Gymraeg.

Drwy'r mesur arfaethedig hwn, gobeithiwn fydd modd gwireddu prif ymrwymiadau Cymru’n Un o ran y Gymraeg, gan gynnwys cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a’r Saesneg a diffinio hawliau ieithyddol unigolion sydd yn defnyddio'r Gymraeg.

1. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg? [gweler hefyd gwestiynau 4, 5 ac 11 isod]

Dylai. Mae Mentrau Iaith Cymru yn gefnogol i'r syniad mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai fod a'r hawl i ddeddfu ar faterion sydd yn ymwneud a'r iaith Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn unigryw i Gymru, ac mae'n gwneud synnwyr i benderfyniadau ar ddeddfwriaeth ar y Gymraeg cael eu gwneud yng Nghymru, lle mae dealltwriaeth ac arbenigedd o'r sefyllfa ieithyddol.

2. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â pha wasanaethau ddylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog? [Er mwyn gweld trafodaeth fanylach ar yr agwedd hon, gweler cwestiynau 6-9 ac 11 isod]

Dylai. Mae'n gwneud synnwyr i benderfyniadau ar ddeddfwriaeth ar y Gymraeg cael eu gwneud yng Nghymru, lle mae dealltwriaeth ac arbenigedd o'r sefyllfa ieithyddol. Oherwydd hyn, mae'r rhesymol mai Y Cynulliad ddylai deddfu mewn perthynas â pha wasanaethau ddylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog

3. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd? [gweler hefyd gwestiwn 10 isod]

Dylai. Mae sicrhau rhyddid a hawliau unigolion i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd yn holl bwysig a chredwn mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai allu deddfu yn y maes hwn. Mae gan siaradwyr Cymraeg hawl i'w trin yn gydradd a siaradwyr Saesneg. Hefyd mae angen rhoi terfyn i sefyllfaoedd lle mae Siaradwyr Cymraeg yn cael eu gorfodi i siarad Saesneg yn erbyn eu hewyllys gan gyflogwyr ayyb.

4.Beth yw eich barn am yr egwyddor gyffredinol y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Materion 20.1 a 20.2? hy
Mater  20.1: Hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg; a thrin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cydraddoldeb;
Mater 20.2: Darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw).

Mae Mentrau Iaith Cymru yn gefnogol i'r egwyddor gyffredinol y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Materion 20.1 a 20.2

5.  Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi y byddai Mater 20.1 yn adleisio'r egwyddorion sydd wrth wraidd Deddf 1993 ac yn adeiladu ar yr egwyddorion hynny a hefyd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar ystod y swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac adeiladu ar y swyddogaethau hynny. A ydych yn cytuno y bydd yn caniatáu i’r Cynulliad wneud hyn? Os na, sut y dylid ei ddiwygio?

Rydym yn cytuno bod cynnwys Mater 20.1 yn adeiladu ar swyddogaethau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ag egwyddorion Deddf 1993.

6.  Beth yw eich barn ar gwmpas y Gorchymyn arfaethedig o ran y categorïau o bersonau y byddai’n caniatáu i’r Cynulliad osod dyletswyddau arnynt i ddarparu gwasanaethau penodol yn ddwyieithog i’r cyhoedd, hy a yw wedi’i lunio’n rhy gul neu’n rhy eang (Mater 20.1 (a) - (i))?  Nodwch yn glir yr isadran/isadrannau y mae eich sylwadau yn ymwneud â hi/â hwy, hy (a) - (i) ac unrhyw isadrannau o dan (h).

Rydym yn croesawu cynnwys y rhestr.
Mae'n bwysig cofio mai dim ond un cam ymlaen ydi hwn tuag at greu Cymru hollol Ddwyieithog. Felly, mae'r rhestr yn eithaf cul wrth geisio cwmpasu holl ddeddfwriaeth posib yn y dyfodol, felly all fod yn fwy eang credwn fod angen cynnwys y meysydd canlynol fel isafswm;
1) Pob Sector sydd yn cynnig gwasanaeth cyhoeddus, gwirfoddol, adrannau penodol o'r sector preifat, gweinyddwyr tendrau cyhoeddus.
2) Maes Addysg, er mwyn sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i holl drigolion Cymru a mynediad
wersi Cymraeg.
3) Cynllunio a Datblygu Economaidd. Y gallu i ymyrryd yn y meysydd yma os ydynt yn effeithio ar ddemograffeg y Gymraeg.  

7.  A yw’r diffiniad a ddefnyddir ar gyfer "awdurdodau cyhoeddus” ar gyfer y Mater hwn yn briodol ("pob awdurdod cyhoeddus sy’n dod o fewn ystyr "public authority” yn adran 6 Deddf Hawliau Dynol 1998”)? Os na, pa ddiffiniad y dylid ei ddefnyddio a pham?

Mae'r diffiniad yn ymddangos yn briodol, ond mae'n destun pryder nad yw'n cynnwys partneriaethau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus megis Cynlluniau Gofodol, Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc, Byrddau Gwasanaeth Lleol ayb. Does dim rheswm i'w eithrio.

8. Byddai Mater 20.1 yn caniatáu i ddyletswyddau gael eu gosod ar "wasanaethau telathrebu” a "gwasanaethau post a swyddfeydd post” (Mater 20.1 isadran (h)(iii) a (h)(iv)). A yw’r diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer "gwasanaethau post”, a "gwasanaethau telathrebu” o dan yr adran "Dehongli’r maes hwn” yn y Gorchymyn arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol? Os na, sut y dylid mynd ati i’w hailddrafftio a pham y dylid gwneud hyn?

Mae'r diffiniadau yn ymddangos yn briodol, ond mae angen neud yn siŵr ei fod yn cynnwys cwmnïau ffon symudol o bob math sydd yn cynnwys ei wasanaeth i ddinasyddion Cymru.  

9.  Mewn perthynas â Mater 20.1, isadran (e) - "personau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd sy’n derbyn cyfanswm o £200,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol”, sef "arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol”: 

(i) A yw’n angenrheidiol nodi’r diffiniad o "arian cyhoeddus” yn y Gorchymyn arfaethedig? Os felly, a yw’n briodol (fel y’i nodir o dan "Dehongli’r maes hwn”)?

(ii) Byddai dyletswyddau ond yn cael eu gosod ar bobl sy’n derbyn mwy na £200,000. Ai £200,000 yw’r trothwy cywir i’r Cynulliad gael pwerau deddfu?

Ymddengys yn (i) fod y diffiniad o arian cyhoeddus yn briodol ac y mae yn angenrheidiol o ran eglurdeb. Ymddengys hefyd fod y trothwy o £200,000 yn rhesymol. Ond credwn fod angen i unrhyw gorff sydd yn derbyn arian cyhoeddus llai na'r swm yma i ymrwymo i gynllun iaith sylfaenol. Yn ddelfrydol buasai modd cyflwyno ymrwymiadau yn ddibynnol ar lefel y grant a dderbynnir.

10.  A yw cwmpas Mater 20.2 yn briodol ("darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw)”)? A fydd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu yn y dyfodol er mwyn gweithredu’r cynnig fel y mae wedi’i amlinellu yn y Memorandwm Esboniadol?

Mae Mentrau Iaith Cymru yn croesawu’r egwyddor, yn enwedig pe bai deddfu gan y Cynulliad yn gwahardd  sefyllfaoedd yn y gorffennol pan geisiwyd i atal siaradwyr Cymraeg rhag siarad yr iaith gyda'i gilydd yn y gweithle neu gyda'u cwsmeriaid. Ni ddylai cyfyngu ar hawliau pobol i siarad Cymraeg o gwbl, mi ddylai ystyried weithred o'r fath yn drosedd neu yn anghyfreithlon.

Hefyd mae angen sicrhau hawl siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg fel iaith weithredol o fewn gweithlu yn y sector cyhoeddus.

11.  Beth yw eich barn ynghylch Erthyglau 4 a 5 y Gorchymyn arfaethedig sy’n ymdrin â chymhwyso’r Gorchymyn arfaethedig i gyrff y Goron?

Nid yw Mentrau Iaith Cymru yn meddwl fod unrhyw reswm i eithrio cyrff y Goron rhag cydymffurfio a'r un dyletswyddau a chyrff cyhoeddus eraill a pharatoi gwasanaeth Cymraeg yng Nghymru.  

12.  A oes unrhyw faterion eraill a fyddai’n dylanwadu ar effeithiolrwydd unrhyw Fesurau yn y dyfodol gan nad yw’r Gorchymyn arfaethedig yn ddigon eang? Os felly, a allwch awgrymu sut y byddai’n rhaid ehangu’r Gorchymyn arfaethedig er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn?

Mae Mentrau Iaith Cymru yn gefnogol i gynnwys dogfen Cymru’n Un y Llywodraeth i sicrhau hawliau i’r Gymraeg, statws swyddogol i’r Gymraeg a chreu comisiynydd Iaith. Rhaid sicrhau fod amcanion y ddogfen yn cael eu gwireddu, ac mae'n hanfodol for y Gorchymyn Iaith yn dod i rym er mwyn hwyluso gwireddu'r amcanion hyn. Dylai sicrhau fod yr egwyddor sylfaenol o ddeddfu ar fater y Gymraeg yn cael ei symud i Gymru, dylai hefyd sicrhau fod egwyddorion sylfaenol yr LCO yn cyd-fynd efo deddfwriaeth Brydeinig ac Ewropeaidd sydd yn amddiffyn hawliau dynol sylfaenol.  

Mentrau Iaith Cymru

Chwefror 2009

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help