Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009

Ymatebion i’r Ymgynghoriad

IG(o) CYDAG

Ymgynghoriad ar y Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol:

Yr Iaith Gymraeg

Chwefror 27, 2009

Sylwadau gan CYDAG

Cyflwynwn dystiolaeth CYDAG, gan danlinellu ein bod yn gweld y GCD hwn fel un cam yn unig yn y proses o gynllunio ieithyddol yn ein gwlad ni ein hunain.  Fel math ar ragymadrodd, fe gyfeiriwn at Adroddiad Richard, gan fod hanfod y proses cyfredol i’w weld ynddo.  Grymuso’r ymdeimlad o genedligrwydd Cymreig a wna canfyddiadau Comisiwn Richard yn yr adran ar gyd-destun hanesyddol a rhyngwladol (2004, 19-20).   Gwelir rhai themâu amlwg: yn gyntaf, yr esblygiad annorfod mewn datganoli pwerau, a hynny’n cael ei gyfleu, nid dim ond mewn syniadau, ond hefyd gan eiriau sy’n gyforiog â negeseuon symud/datblygiad: 'momentwm’ (a ddefnyddir bedair gwaith), 'disgwyliadau’, 'cynyddu’, 'cyfeiriad y symud’, 'ychwanegwyd deinameg democrataidd’.  Yn ail, cyfeirir at draddodiad Cymru o hybu newid o’r gwaelod i fyny, dylanwad y micro ac, i raddau, y meso.  Yn drydydd, teimlir cynhesrwydd yn yr ail bennod tuag at genedl a orthrymwyd (ganrifoedd yn ôl), ac ymgais ddidwyll i weld dyfodol Cymru mewn cyd-destun newydd, ehangach, sef theatr yr Undeb Ewropeaidd.

1. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg?

Y Cynulliad yw’r unig gorff priodol, bellach, i wneud hyn.

2. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â pha wasanaethau ddylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog?

Cred CYDAG mai Cynulliad Cymru sydd a'r hawl i ddeddfu dros y Gymraeg. Mae'n rhesymegol felly taw y Cynulliad sydd i amlinellu, ar ôl ymgynghoriad eang, pa wasanaethau ddylai'r cyhoedd eu cael yn ddwyieithog. Fel yr amlinellir yn y Memorandwm esboniadol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae'r Llywodraeth am fuddsoddi  "mewn rhaglen weithredu i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithlon, effeithiol ac wedi'u canolbwyntio ar y dinesydd” (tud.4). Os felly, yna dylai pob gwasanaeth cyhoeddus, waeth pa sector y mae'r darparydd ynddi, gael ei gynnwys yn y Gorchymyn.

3. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd?

Dylai. Mae llawer iawn o bobl heb sylweddoli nad oes gennym hawliau ieithyddol go sylfaenol.  Ni chredwn y bydd deddf yn achub iaith, ond mae ei chael i’ch cynnal ac i gryfhau cydraddoldeb ieithyddol (heb sôn am ddarpariaeth addysgol a deunyddiau dysu ac addysgu) yn draphwysig.

4. Beth yw eich barn am yr egwyddor cyffredinol y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Materion 20.1 a 20.2? hy: Mater 20.1: Hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg; a thrin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cydraddoldeb; Mater 20.2: Darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw).

Cyfyd y ddadl am hawliau’r unigolyn a hawliau’r grŵp.  Cytunwn â’r ddadl bod hawl gan yr unigolyn i feddu ar iaith (neu ieithoedd) brodorol, hawl i’w dysgu hi, ei defnyddio mewn addysg ffurfiol ac yn ei fywyd beunyddiol.  Gan fod yr hawl yn gynhenid i’r unigolyn, dadl rhai meddylwr megis Skutnabb-Kangas a Phillipson yw bod yr hawl yn parhau lle bynnag eich bod yn byw. Hynny yw, mae’n codi’r cwestiwn am diriogaethedd a phersonoliaeth.  Ymddengys y farn hon yn rhyddfrydig ar y naw, ac yn anymarferol.  Medrai gweithredu hyn fod yn wrthgynhyrchiol mewn rhai sefyllfaoedd ieithyddol.  Er enghraifft, byddai hawl gan fewnfudwyr i Gymru o Loegr neu o wlad arall i gael eu haddysg yn llwyr (neu bron yn llwyr) yn eu hiaith frodorol.  O ran y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Gymraeg, diddorol ar lefel cyfraith ryngwladol fyddai dadlau yn erbyn gwneud addysgu’r Gymraeg yn orfodol: beth fyddai hawl yr unigolyn?  Pa hawl sydd gan y Cymro sy’n mudo i Loegr i gael addysg yn Gymraeg?  Mae’n debygol y dadleuid y byddai hynny’n afresymol ac yn anymarferol.  A dyna chi yn y cylch cythreulig, pragmataidd, sy’n esbonio, hwyrach, pam nad oes llawer o ddarpariaeth trwy gyfwng eu mamiaith i fewnfudwyr neu geiswyr lloches yn eu mamiaith yng Nghymru.

Mae parhad iaith o genhedlaeth i genhedlaeth yn rhan hanfodol o hawliau’r unigolyn.  Mae ystyried hawliau’r grŵp yn golygu cydweithrediad rhwng unigolion, boed bobloedd neu boblogaeth gwlad, yn rhannu iaith a diwylliant yr unigolion.

5. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi y byddai Mater 20.1 yn adleisio'r egwyddorion sydd wrth wraidd Deddf 1993 ac yn adeiladu ar yr egwyddorion hynny a hefyd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar ystod y swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac adeiladu ar y swyddogaethau hynny. A ydych yn cytuno y bydd yn caniatáu i’r Cynulliad wneud hyn? Os na, sut y dylid ei ddiwygio?

Cytunwn.  Dogfen ymarferol a phragmataidd iawn yw Deddf 1993: diffinio ffwythiannau a wna, heb ddatgan fod y Gymraeg a’r Saesneg, de iure, yn ieithoedd swyddogol yng Nghymru.  Mater arall yw ein bod yn ddigon parod i dderbyn fod y ddwy iaith yn gyfartal de facto.

6. Beth yw eich barn ar gwmpas y Gorchymyn arfaethedig o ran y categorïau o bersonau y byddai’n caniatáu i’r Cynulliad osod dyletswyddau arnynt i ddarparu gwasanaethau penodol yn ddwyieithog i’r cyhoedd, hy a yw wedi’i lunio’n rhy gul neu’n rhy eang (Mater 20.1 (a) - (i))? Nodwch yn glir yr isadran/isadrannau y mae eich sylwadau yn ymwneud â hi/â hwy, hy (a) - (i) ac unrhyw is-isadrannau o dan (h).

Credwn mai’r angen pennaf yw hyfforddi gweithwyr i siarad ac ymateb i’r cyhoedd yn Gymraeg.  Mae hynny yn gydnaws â’r traddodiad Cymreig o gynnydd graddol mewn dull pragmataidd.

7. A yw’r diffiniad a ddefnyddir ar gyfer "awdurdodau cyhoeddus” ar gyfer y Mater hwn yn briodol ("pob awdurdod cyhoeddus sy’n dod o fewn ystyr "public authority” yn adran 6 Deddf Hawliau Dynol 1998”)? Os na, pa ddiffiniad y dylid ei ddefnyddio a pham

?

Ymddengys fod y diffiniad yn briodol, er mae'n ofynnol i'r Cynulliad sicrhau mwy o eglurder i ddinasyddion o'r diffiniad pan ddaw hi i lunio mesur.

8. Byddai Mater 20.1 yn caniatáu i ddyletswyddau gael eu gosod ar "wasanaethau telathrebu” a "gwasanaethau post a swyddfeydd post” (Mater 20.1 isadran (h)(iii) a (h)(iv)). A yw’r diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer "gwasanaethau post”, a "gwasanaethau telathrebu” o dan yr adran "Dehongli’r maes hwn” yn y Gorchymyn arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol? Os na, sut y dylid mynd ati i’w hailddrafftio a pham y dylid gwneud hyn?

I sicrhau eglurdeb, mae'n angenrheidiol fod y diffiniadau go gyfer y gwasanaethau telathrebu a'r gwasanaethau post (yn enwedig o ystyried y camau i breifateiddio rhan o'r gwasanaeth yma) yn aros fel ag y maent er mwyn sicrhau dilyniant pan ddaw hi i lunio mesur.

9. Mewn perthynas â Mater 20.1, isadran (e) - "personau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd sy’n derbyn cyfanswm o £200,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol”, sef "arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol”: (i) A yw’n angenrheidiol nodi’r diffiniad o "arian cyhoeddus” yn y Gorchymyn arfaethedig? Os felly, a yw’n briodol (fel y’i nodir o dan "Dehongli’r maes hwn”)? (ii) Byddai dyletswyddau ond yn cael eu gosod ar bobl sy’n derbyn mwy na £200,000. Ai £200,000 yw’r trothwy cywir i’r Cynulliad gael pwerau deddfu?

Credwn fod hyn yn gam ymarferol y mae’n debygol o ennill cefnogaeth led eang.

10. A yw cwmpas Mater 20.2 yn briodol ("darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw)”)? A fydd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu yn y dyfodol er mwyn gweithredu’r cynnig fel y mae wedi’i amlinellu yn y Memorandwm Esboniadol?

Erbyn 2005 sicrhaodd Cynllun Strategol Bwrdd yr Iaith Gymraeg amcan o 'sicrhau fod hawliau ieithyddol yn cael rhan ganolog yn y maes cyfle cyfartal yng Nghymru.’  Nid oes llawer o drafod hawliau yn y bennod 'Yr Unigolyn a Hawliau Iaith’ yn Iaith Pawb, ond mae’n llawn pragmatiaeth a chamau gweithredu; wedi’r cyfan, is-deitl Iaith Pawb yw Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Ddwyieithog.

11. Beth yw eich barn ynghylch Erthyglau 4 a 5 y Gorchymyn arfaethedig sy’n ymdrin â chymhwyso’r Gorchymyn arfaethedig i gyrff y Goron?

’Dyw eithrio cyrff y Goron ddim yn opsiwn.

12. A oes unrhyw faterion eraill a fyddai’n dylanwadu ar effeithiolrwydd unrhyw Fesurau yn y dyfodol gan nad yw’r Gorchymyn arfaethedig yn ddigon eang? Os felly, a allwch awgrymu sut y byddai’n rhaid ehangu’r Gorchymyn arfaethedig er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn?

Credwn bod modd plethu anghenion addysgol o ran y Gymraeg i mewn i ddedfwriaeth a ddaw, gobeithiwn, mewn cyfres o Fesurau Iaith er hybu’r Gymraeg.  Credwn y bu’r mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gynsail i gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg mewn modd holistig, a llongyfarchwn Y Cynulliad ar lwyddiant y proses hwn.  Mae cyfle i ychwanegu grym i’r proses o fesur y galw am addysg Gymraeg, a thrwy weithredu ar  ganlyniadau’r arolwg gamu ymlaen i wrthdroi’r shift ieithyddol.  Dyma enghraifft wych o gynllunio ieithyddol drwy’r gyfundrefn addysg.

Hoffem gloi drwy ddweud ychydig am gyfiawnder cymdeithasol.  Un ffordd  i frwydro dros hawliau ieithyddol ac addysgol lleiafrifol yw drwy egwyddor cyfiawnder cymdeithasol.  Yn aml ni lwydda dadleuon ynghylch amlieithrwydd ac amrywiaeth i newid dim ar gydberthynas pwerau hegemonaidd.  Beth sydd ei angen yw rhyw gred bod dyletswydd ar dir cyfiawnder gan yr ethnie mwyafrifol (a chryfaf) i dderbyn y fath hawliau.  

Yng Nghymru bu cryn gyfeirio at oruchafiaeth gan y Saeson, ac, ym myd addysg, at Frad y Llyfrau Gleision.  Ymhlith ymgyrchwyr cyfeirir yn ôl at agweddau negyddol arweinwyr llywodraeth leol neu at swyddogion addysg oedd heb gydymdeimlad.  Ar hyn o bryd, ymddengys mai edrych ymlaen yw’r agwedd, nid edrych yn ôl, hwyrach am i’r genedl ddatblygu yn fwy hunan-hyderus.

Tanlinella rhai anferthedd y dasg o argyhoeddi’r mwyafrif o ddilysrwydd iawnderau lleiafrifoedd, yn arbennig gan fod y proses yn rhoi sialens i hegemoni’r genedl-wladwriaeth, a, thrwy hynny, rôl y grŵp ethnig mwyafrifol yn y genedl-wladwriaeth.  Yng Nghymru, mae hyn wedi dechrau mewn nifer o wahanol ffyrdd trwy sefydliadau cenedlaethol, darlledu yn y sector Cymraeg, y gyfraith, addysg, BIG, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, adolygiad y Cynulliad o iaith a diwylliant, yr ymdeimlad o Gymreigrwydd sy’n treiddio drwy Adroddiad Comisiwn Richard (na weithredwyd ar ei holl argymhellion), ac, yn hanesyddol, cyhoeddi Iaith Pawb a’r dyhead polisi gan Lywodraeth y Cynulliad i symud y genedl gyfan am y tro cyntaf erioed i gyfeiriad siarad Cymraeg dan gochl dwyieithrwydd.

Hwyrach mai drwy ddatblygu deublyg y daw llwyddiant, sef yr ymgyrchu parhaus o’r gwaelod i fyny gan ymgyrchwyr unigol a dylanwadol ac yna arweiniad a gweledigaeth y gwleidyddion dethol a doeth hynny a gredant yn natblygiad y genedl, nid yn unig drwy’r economi, iechyd, addysg, a chynhwysiant cymdeithasol, ond hefyd drwy’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

Wrth i’r Undeb Ewropeaidd ehangu, pe bai gwasgedd ychwanegol yng ngweithdrefnau beunyddiol Brwsel i leihau y nifer o ieithoedd a ddefnyddir ym musnes yr Undeb, medrai hynny ysgogi llywodraethau’r gwledydd llai pwerus ynghyd ag academyddion ac arbenigwyr mewn cyfraith ryngwladol i geisio grymuso cyfraith rhyngwladol ym maes hawliau ieithoedd lleiafrifol.  Ar y llaw arall, pe bai dyn yn dilyn agwedd fwy pesimistaidd Fishman, dim ond crebachu pellach a welid ymhlith yr ieithoedd llai eu defnydd.  

Wrth i undod Ewrop fel uned wleidyddol gryfhau, ei deddfwriaeth rymuso ar draws ei gwahanol bartneriaid, ei harian papur cyffredin greu mwy o ymdeimlad o berthyn i gyfangorff anferthol, a pholisïau economaidd y gwledydd, hwyrach, ymdebygu fwy i’w gilydd yn hytrach na chystadlu, dylid bod yn effro i beryglon unffurfiaeth ieithyddol; byddai hynny yn glastwreiddio etifeddiaeth ddiwylliannol a ieithyddol gyfoethog Ewrop yn y byd.

Brysied y dydd i Gymru weithredu ei gwledigaeth ei hun drwy ei deddfau ei hun.

Dr Huw Thomas

Swyddog Proffesiynol CYDAG

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help