Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009

Ymatebion i’r Ymgynghoriad

IG8(o) Urdd Gobaith Cymru

Ni fydd trosglwyddo pwerau, na chreu deddfwriaeth ynddo’i hun yn diogelu’r Gymraeg.  Er mwyn gwneud hynny rhaid sicrhau cyfleoedd gwych i bobl fwynhau eu Cymreictod.  Mae angen brwdfrydedd, ymroddiad a sgiliau wrth drosglwyddo hyn i blant a phobl ifanc.
Profiad yr Urdd fel mudiad yw bod plant a phobl ifanc wrth eu bodd yn siarad a defnyddio’u Cymraeg – dim ond iddyn nhw gael y cyfle i wneud hynny.  Maent yn fwy tebygol fod yn hyderus yn eu defnydd o’r Gymraeg os ydy’r iaith yn amlwg o’u cwmpas.
Cenhadaeth yr Urdd yw cyflwyno’r Gymraeg fel cyfrwng naturiol, cynhyrfus ac eang ei apel.  Bydd trosglwyddo pwerau, ac unrhyw ddeddfwriaeth sy’n dilyn o hynny, yn gwella’r cyd-destun er mwyn gwneud hynny.

1. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas a hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg?

Yn bendant.  Ni allwn weld synnwyr mewn cadw’r pwerau deddfu yn unrhyw le arall.  Y mae’r Gymraeg yn unigryw i Gymru – os na all y Cynulliad ddeddfu mewn perthynas â’r Gymraeg, mae’n anodd gweld sut gellir cyfiawnhau deddfu ar unrhyw fater arall.

2. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â pha wasanaethau ddylai’r cyhoedd allu eu cael yn ddwyieithog?

Dylai.  Mae hyn yn ddilyniant naturiol o Ddeddfau blaenorol.  Mae’r Urdd yn ystyried yr holl fater o safbwynt person ifanc sydd naill ai wedi dysgu’r Gymraeg ar yr aelwyd, neu yn yr ysgol.  Mae’r gallu i dderbyn gwasanaethau o safon cyson trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ddefnydd y person hwnnw o’r Gymraeg wedi gadael y cartref neu’r ysgol.

3. A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu deddfu mewn perthynas â rhyddid pobl i siarad Cymraeg gyda’i gilydd?

Dylai.  Mae’r angen i ddeddfu yn y cyswllt hwn wedi amlygu ei hun mewn digwyddiadau diweddar.

4. Beth yw eich barn am yr egwyddor cyffredinol y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Materion 20.1 a 20.2 h.y. Hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg; a thrin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cydraddoldeb. Darpariaeth am neu mewn cysylltiad a rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw.

Yn unol â’n hymatebion uchod, cytunwn â hyn.

5. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi y byddai Mater 20.1 yn adleisio'r egwyddorion sydd wrth wraidd Deddf 1993 ac yn adeiladu ar yr egwyddorion hynny a hefyd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar ystod y swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac adeiladu ar y swyddogaethau hynny. A ydych yn cytuno y bydd yn caniatáu i’r Cynulliad wneud hyn? Os na, sut y dylid ei ddiwygio?

Cytunwn.

6. Beth yw eich barn ar gwmpas y Gorchymyn arfaethedig o ran y categorïau o bersonau y byddai’n caniatáu i’r Cynulliad osod dyletswyddau arnynt i ddarparu gwasanaethau penodol yn ddwyieithog i’r cyhoedd, hy a yw wedi’i lunio’n rhy gul neu’n rhy eang (Mater 20.1 (a) - (i))? Nodwch yn glir yr isadran/isadrannau y mae eich sylwadau yn ymwneud â hi/â hwy, hy (a) - (i) ac unrhyw is-isadrannau o dan (h).

Eto, o safbwynt person ifanc yng Nghymru heddiw, credwn y dylai unrhyw ddeddf allu effeithio ar ddefnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.  Byddai hyn yn ein harwain i ddadlau dros gael yr hawl i ddeddfu ym maes bancio, bancio ar y we, drwy ffon symudol ac ati.  Byddai’n cynnwys dadlau dros roi sylw i ddarpariaeth cwmnïau ffon sy’n cynnig gwasanaeth yng Nghymru.  Byddai’n cynnwys darparwyr hamdden, er enghraifft stadiymau chwaraeon, sinemau.  Byddai’n cynnwys siopau mawr, cwmnïau trafnidiaeth.

7. A yw’r diffiniad a ddefnyddir ar gyfer "awdurdodau cyhoeddus” ar gyfer y Mater hwn yn briodol ("pob awdurdod cyhoeddus sy’n dod o fewn ystyr "public authority” yn adran 6 Deddf Hawliau Dynol 1998”)? Os na, pa ddiffiniad y dylid ei ddefnyddio a pham?

Ni allwn gynnig diffiniad arall.

8. Byddai Mater 20.1 yn caniatáu i ddyletswyddau gael eu gosod ar "wasanaethau telathrebu” a "gwasanaethau post a swyddfeydd post” (Mater 20.1 isadran (h)(iii) a (h)(iv)). A yw’r diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer "gwasanaethau post”, a "gwasanaethau telathrebu” o dan yr adran "Dehongli’r maes hwn” yn y Gorchymyn arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol? Os na, sut y dylid mynd ati i’w hailddrafftio a pham y dylid gwneud hyn?

Rydym wedi egluro eisoes ein barn y dylai bod modd i berson ifanc dderbyn gwasanaeth gan gwmni telathrebu yn Gymraeg, yn yr un modd byddem yn dymuno derbyn gwasanaeth post a swyddfeydd post yn Gymraeg – dim ond fod angen cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar y we oddi fewn i’r diffiniad.

9. Mewn perthynas â Mater 20.1, isadran (e) - "personau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd sy’n derbyn cyfanswm o £200,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol”, sef "arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol”: (i) A yw’n angenrheidiol nodi’r diffiniad o "arian cyhoeddus” yn y Gorchymyn arfaethedig? Os felly, a yw’n briodol (fel y’i nodir o dan "Dehongli’r maes hwn”)? (ii) Byddai dyletswyddau ond yn cael eu gosod ar bobl sy’n derbyn mwy na £200,000. Ai £200,000 yw’r trothwy cywir i’r Cynulliad gael pwerau deddfu?

Mae’n ymddangos yn drothwy synhwyrol i ni.  Rydym yn tybio fod hyn yn cynnwys unrhyw arian sy’n cael ei deillio o ffynonellau cyhoeddus e.e. Grantiau Loteri y mae llawer ohono yn cael ei gyfeirio at blant a phobl ifanc, ond sydd ddim bob amser yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

10. A yw cwmpas Mater 20.2 yn briodol ("darpariaeth am neu mewn cysylltiad â rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg i wneud hynny â’i gilydd (gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw)”)? A fydd yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu yn y dyfodol er mwyn gweithredu’r cynnig fel y mae wedi’i amlinellu yn y Memorandwm Esboniadol?

Mae’r cymal ynglyn a chyfyngu ar y rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein pryderu, a byddem am dderbyn mwy o wybodaeth am hynny cyn mynegi barn. Efallai mai hawl yw hyn, nid rhyddid.

11. Beth yw eich barn ynghylch Erthyglau 4 a 5 y Gorchymyn arfaethedig sy’n ymdrin â chymhwyso’r Gorchymyn arfaethedig i gyrff y Goron?

Cytunwn a hyn.

12. A oes unrhyw faterion eraill a fyddai’n dylanwadu ar effeithiolrwydd unrhyw Fesurau yn y dyfodol gan nad yw’r Gorchymyn arfaethedig yn ddigon eang? Os felly, a allwch awgrymu sut y byddai’n rhaid ehangu’r Gorchymyn arfaethedig er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn?

Na

Efa Gruffudd Jones
27 Chwefror 2009

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help