Tystiolaeth Ychwanegol gan NatWest, Royal Bank of Scotland Group
Ynghylch: Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr Iaith Gymraeg
Diolch am roi’r cyfle i ni fynegi barn ar y Gorchymyn arfaethedig. Er na allwn ymateb i’r cwestiynau penodol mewn perthynas â hyd a lled y Gorchymyn arfaethedig, serch hynny fe hoffem gael cyfle i nodi peth o’r gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd o ran hybu dwyieithrwydd a fydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor Deddfu.
Hoffwn ddechrau trwy ddweud ein bod yn hynod falch o’n gwreiddiau Cymreig a gallwn olrhain ein hanes cyn belled â 1790. Rydym yn un o brif ddarparwyr gwasanaethau ariannol yng Nghymru gyda thros 151 o ganghennau yn cyflogi dros 1800 aelod o staff.
Fel darparwr gwasanaethau ariannol blaenllaw yng Nghymru, rydym yn gweld cynnydd yn nifer y cwsmeriaid sy’n defnyddio a gwneud cais am wasanaethau Cymraeg gennym. Mae’r galw hwn yn amrywio’n fawr ledled y wlad gan adlewyrchu cyfansoddiad ieithyddol yr ardal arbennig honno. Yn ddiweddar fe wnaethom ni lansio fersiwn Cymraeg o’n gwefan er mwyn ymdrin â’r angen hwn a mynd ati i sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn cael mynediad at y cynhyrchion a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig. Cyfeiriad y wefan yw www.natwest.com/cymru.
Mae NatWest wedi ymrwymo i gymuned a diwylliant Cymru. Mae’n cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a bod gwasanaeth dwyieithog cynhwysfawr yn elfen hanfodol ar wasanaeth o ansawdd.
Y mae sawl llinyn yn perthyn i waith NatWest yng Nghymru :
Mynediad at Arian
Y mae ein holl beiriannau arian yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae gennym rwydwaith helaeth o beiriannau arian y gellir eu defnyddio’n rhad ac am ddim, gyda thros 161 o’r rhain yng Nghymru. Y mae hyn, ynghyd â chytundeb gyda banciau ein cystadleuwyr, yn golygu bod ein cwsmeriaid yn cael mynediad at tua 1500 o beiriannau ledled Cymru. Er gwaethaf hyn, y mae rhagor o beiriannau arian yn parhau i gael eu gosod, gyda niferoedd cynyddol o beiriannau yn cael eu gosod a blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ardaloedd gwledig. Y mae dwyieithrwydd yn nodwedd allweddol ar y rhaglen fuddsoddi hon, sy’n cynnwys adolygiad helaeth ar frandio, marchnata ac arwyddion.
Bancio yn y Canghennau
Rydym yn cydnabod bod gennym gyswllt uniongyrchol â nifer gynyddol o siaradwyr Cymraeg sy’n dymuno cynnal eu busnes trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd NatWest yn mynd ati i annog defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a bu’n gefnogwr brwd i fenter 'Marc Cefnogi’r Gymraeg’ Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Rydym wedi ymgorffori’r logo 'Iaith Gwaith’ yng nghynllun bathodynnau enw corfforaethol sy’n cael eu gwisgo gan holl aelodau staff y canghennau sydd â chyswllt â chwsmeriaid. Mae’r bathodynnau yn nodi’r aelodau staff sy’n siarad Cymraeg gan ddangos a ydynt yn rhugl ynteu’n dysgu’r iaith. Anghenion ein cwsmeriaid yw’n blaenoriaeth gyntaf ac rydym yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Ein nod, fodd bynnag, yw gwella a chynyddu’r ddarpariaeth hon ledled Cymru. Yn ogystal â hyn, rydym yn cefnogi ein staff sy’n dysgu Cymraeg ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda darparwyr cyrsiau yn ardaloedd Ceredigion a Meirionnydd i sicrhau bod ein pobl wedi’u harfogi â’r sgiliau angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Mae NatWest yn sylweddoli bod gwasanaeth dwyieithog o safon foddhaol yn bwysig ac y mae wedi ymgymryd ag archwiliad o sgiliau ieithyddol ei weithlu yng Nghymru. Cafodd y canlyniadau eu defnyddio i gyfrannu gwybodaeth at benderfyniadau cynllunio er mwyn bodloni gofynion amrywiol y rhwydwaith canghennau yng Nghymru yn y ffordd orau a pharheir i wneud hynny yn y dyfodol.
Mae NatWest yn derbyn sieciau wedi’u hysgrifennu yn Gymraeg ar gyfer eu clirio. Mae’r Banc hefyd yn cefnogi cynllun 'SIECMêt’ Bwrdd yr Iaith Gymraeg, gan hybu’r fenter gyda chwsmeriaid Busnes.
Mae NatWest yn parhau i gynhyrchu amryw o daflenni yn Gymraeg. Darperir amryw o bamffledi allweddol i’r cyhoedd sydd wedi’u cynhyrchu yn Gymraeg. Mae pamffledi dwyieithog yn cyflwyno pob iaith yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd a chânt eu harddangos yr un mor amlwg. Mae’r rhain ar gael am ddim yn ein canghennau ac fe’u ceir ar y wefan hefyd:
Yn ogystal â’i rwydwaith o ganghennau, mae NatWest wedi cyflwyno gwasanaeth banc symudol yn Ne Cymru gyda’r nod o roi mynediad uniongyrchol at gyfleusterau bancio wyneb yn wyneb i nifer o ardaloedd anghysbell a difreintiedig.
Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Mae ein canghennau a’n cwsmeriaid yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan Ganolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid a sefydlwyd yn y 1990au i ofalu am anghenion ein cwsmeriaid Cymraeg.
Yn ddiweddar fe gwblhaodd y Grŵp fuddsoddiad sylweddol mewn technoleg newydd ac ad-drefnu yn y ganolfan ym Mharc Menai ger Bangor fel rhan o raglen gyffredinol i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
Ers ei sefydlu ddechrau’r 1990au, bu Canolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid Adwerthol Menai yn gweithredu o dri safle ar draws Gogledd-orllewin Cymru a bellach cafodd y rhain eu cyfuno dan yr unto, gan wella’r ffordd y cyflwynir gwasanaeth i gwsmeriaid NatWest ledled Cymru. Mae’r Ganolfan hefyd yn rhoi cefnogaeth cefn swyddfa i’r rhwydwaith o ganghennau NatWest ar draws y rhanbarth ac mae’n rhan ganolog o fenter iaith Gymraeg NatWest. Mae’r ad-drefnu hefyd wedi golygu buddsoddiad sylweddol mewn technoleg newydd, gan ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid siarad â swyddog yn eu dewis iaith.
Mae’r ganolfan wedi tyfu’n raddol dros y blynyddoedd a bellach mae’n cyflogi 50 aelod o staff. Maent yn rhoi gwasanaeth ffôn dwyieithog i gwsmeriaid NatWest, gydag adrannau prosesu a benthyca ychwanegol yn rhoi cefnogaeth fanylach a mwy arbenigol. Mae cael y tîm dan yr unto yn rhoi gwell cyfle i’r staff o ran hyfforddiant amrywiol a sgiliau lluosog, gan arwain at roi gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.
Cymunedau
Byddwn yn chwarae rhan flaenllaw yn y gymuned Gymreig ble byddwn yn treulio amser i feithrin perthynas gydag elusennau a sefydliadau gwirfoddol. Byddwn yn annog ein staff i ddefnyddio eu harbenigedd a’u brwdfrydedd er budd eu cymunedau trwy ein rhaglen staff helaeth, cynllun Rhoi Wrth Ennill mwyaf hael y Deyrnas Unedig a Gwobrau Arian yn ôl i’r Gymuned ble bydd staff yn cyfrannu amser neu arian i gynorthwyo elusennau a materion o’u dewis hwy.
Addysg Ariannol
Yn ddiweddar rydym wedi ehangu ein rhaglen MoneySense sy’n cyflwyno Addysg Ariannol i ysgolion Cymraeg trwy baratoi’r holl daflenni a deunyddiau cefnogi dysgu yn Gymraeg.
Yn 1994 fe ddechreuom ar raglen i ddarparu addysg ariannol i blant ac oedolion ar draws y Deyrnas Unedig. Ers hynny, mae miloedd o bobl wedi elwa ar y sgiliau a ddysgwyd gennym, yn wir fe lwyddodd ein miliynfed myfyriwr i gwblhau’r rhaglen ym mis Mehefin 2007. Oherwydd ei bod mor boblogaidd, fe ail-lansiwyd ein rhaglen yn 2007 dan enw newydd, sef MoneySense, ynghyd â gwefan newydd, well (www.natwest.com/moneysense). Bydd rhaglen MoneySense yn derbyn cyngor gan banel annibynnol dan gadeiryddiaeth y Farwnes Denise Kingsmill ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Mae’r FSA hefyd wedi dweud bod ganddynt "barch mawr” at ein rhaglen.
Fe ddaeth Addysg Cyllid Personol (PFE) yn rhan greiddiol o’r adran newydd 'Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes’ a geir o fewn cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol yng Nghymru o fis Medi 2008. O ganlyniad uniongyrchol i hyn, fe gafodd y modiwl 'Banciwch arno’ ei baratoi yn Gymraeg i gefnogi Ysgolion Cyfrwng Cymraeg i gyflwyno’r rhaglen. Yn hanner cyntaf 2008, yng Nghymru yn unig, fe gyflwynodd NatWest 276 gwers MoneySense mewn 50 ysgol gyda chymorth gweithwyr o’n canghennau, i 21,402 o fyfyrwyr. I gael rhagor o fanylion ewch i:
www.natwest.com/cymrumoneysense
Busnesau Lleol
Byddwn yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc trwy Ymddiriedolaeth y Tywysog. Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru yn cynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 14 a 30 oed fagu hyder, dysgu sgiliau newydd, cael gwaith, dechrau busnesau ac ymgysylltu â’u cymunedau. Mae’n cynnig hyfforddiant, datblygiad personol, cefnogaeth i sefydlu busnes, mentora a chyngor, gan wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl ifanc.
Casgliad
Byddwn yn ceisio bodloni’r galw cynyddol am wasanaeth Cymraeg cynhwysfawr, a’n bwriad yw sicrhau y bydd y gwasanaeth hwn yn parhau i wella yn y dyfodol er mwyn i NatWest allu darparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i’w gwsmeriaid.
