Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008 (Tai Fforddiadwy)

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - arfaethedig gan y Llywodraeth a osodwyd gan Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru trwy Fesur mewn perthynas â gwaredu tai a thai annedd gan landlordiaid cymdeithasol (Tai Fforddiadwy).

Y newyddion diweddaraf

Cymeradwywyd y Gorchymyn gan y Cynulliad yn unig. Tynwyd yn ôl a gosodwyd Gorchymyn arall yn ei le Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010

Hynt y Gorchymyn

Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.

Rh.5 - Tai Fforddiadwy

Cyfnod

Dyddiad

  • Gosod y Gorchymyn arfaethedig

  • 3 Rhagfyr 2007

  • Ystyriaeth o'r Gorchymyn gan y Pwyllgor ar y Gorchymyn arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy

  • 13 Rhagfyr 2007
    22, 29 Ionawr 2008
    5, 19, 26 Chwefror 2008
    11 Mawrth 2008
    8 Gorffennaf 2008
    12 Ionawr 2009

  • Gosod y Gorchymyn drafft

  • 12 Ionawr 2009

  • Gorchymyn drafft – dadl yn y Cyfarfod Llawn

  • 20 Ionawr 2009

  • Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

  • Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn arfaethedig

·Ymgynghorodd y Pwyllgor ar y Gorchymyn arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008 (Tai Fforddiadwy), a fydd yn rhoi’r hawl i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu mewn perthynas â gwaredu tai a thai annedd gan landlordiaid cymdeithasol (Tai Fforddiadwy).

Mae’r gwahoddiad i roi tystiolaeth bellach wedi cau.

Partneriaid a Help