Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) 2011
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig gan y Llywodraeth a osodwyd gan Edwina Hart AC, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwybodaeth am y Gorchymyn
Bwriad y Gorchymyn arfaethedig yw ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesur mewn perthynas â storio a defnyddio corff oedolyn marw, ac â thynnu, storio a defnyddio unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n cyfansoddi corff o’r fath neu sy’n gynwysedig ynddo at ddibenion ei drawsblannu i gorff dynol.
Y newyddion diweddaraf
Yn dilyn canlyniad cadarnhaol y Refferendwm ar gael rhagor o bwerau deddfu, mae’r Gweinidog wedi hysbysu’r Cynulliad o fwriad Llywodraeth Cymru i dynnu’r Gorchymyn arfaethedig yn ôl ar 9 Mawrth 2011 oherwydd bydd gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol pan ddaw Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru i rym ym mis Mai.
Hynt y Gorchymyn
Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.
Cyfnod |
Dyddiad |
|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
