Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg a Hyfforddiant) 2008 (teitl blaenorol Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) 2007)

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - arfaethedig gan y Llywodraeth, a osodwyd gan Carwyn Jones AC, y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg.

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Estyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi’r hawl iddo wneud deddfau newydd i Gymru drwy Fesurau ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Y newyddion diweddaraf

Wedi i destun y Gorchymyn drafft gael ei gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dy’r Senedd, gwnaethpwyd y Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 09/04/08. Caiff y Cynulliad bellach wneud Mesurau (cyfreithiau) o dan y Materion a restrir yn y Gorchymyn.

Hynt y Gorchymyn

Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.

Proposed Additional Learning Needs LCO Committee

Cyfnod

Dyddiad

  • Gosod y Gorchymyn arfaethedig

  • 11Mehefin 2007

  • Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ystyried y Gorchymyn arfaethedig

  • 12 Goffennaf;
    20, 27 Medi;
    4, 11, 18 Hydref;
    8, 22 Tachwedd 2007

  • Gosod y Gorchymyn drafft

  • 28 Ionawr 2008

  • Gorchymyn drafft – dadl yn y Cyfarfod Llawn

  • 05 Chwefror 08

  • Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor

  • 09 Ebrill 2008

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

|

Ystyriaeth gan Bwyllgor Deddfwriaeth

|

The Proposed Additional Learning Needs LCO Committee was established on 4 July 2007 to consider and report on the proposed National Assembly for Wales (Legislative Competence) Order 2007. The Committee shall cease to exist once the related draft Order has been introduced, under Standing Order 22.31.

  • Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn arfaethedig

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth gan ofyn barn gan bawb sydd â diddordeb, ar y cynigion a gynhwysir yn y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfaethedig (Cymhwysedd Deddfwriaethol) 2007. Mae’r alwad am dystiolaeth bellach wedi cau a gellir cael mynediad i’r ymatebion a dderbyniwyd yn:  rhestr o ymatebion i'r ymgynghoriad.

Partneriaid a Help