Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 3) 2007 (ynghylch Plant Hawdd eu Niweidio a Thlodi Plant)

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - arfaethedig gan y Llywodraeth a osodwyd gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Estyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi’r hawl iddo wneud deddfau newydd i Gymru drwy Fesurau mewn perthynas â phlant hawdd eu niweidio a thlodi plant.

Y Newyddion diweddaraf

Wedi i destun y Gorchymyn drafft gael ei gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ’r Senedd, gwnaethpwyd y Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 10/12/08. Caiff y Cynulliad bellach wneud Mesurau (cyfreithiau) o dan y Materion a restrir yn y Gorchymyn.

Hynt y Gorchymyn

Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.

Proposed Vulnerable Children LCO Committee

Cyfnod

Dyddiad

  • Gosod y Gorchymyn arfaethedig

  • 09/07/07

  • Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed yn ystyried y Gorchymyn arfaethedig

  • 27 Medi 2007
    25 Hydref 2007
    6, 15, 20, 29 Tachwedd 2007
    11 Hydref 2007
    15, 22, Ionawr 2007
    10 Ebrill 2007

  • Gosod y Gorchymyn drafft

  • 08/07/08

  • Gorchymyn drafft – dadl yn y Cyfarfod Llawn

  • 15/07/08

  • Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor

  • 10/12/08

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

|

Ystyriaeth gan Bwyllgor Deddfwriaeth

|

Sefydlwyd y Pwyllgor ar y Gorchymyn ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed ar 4 Gorffennaf 2007 i ystyried a chyflwyno adroddiad ar Orchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol)(Rhif 3) 2007. Bydd y Pwyllgor yn dod i ben pan gaiff y Gorchymyn drafft perthnasol ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 22.31.

  • Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn arfaethedig

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth (PDF, 33KB) gan ofyn barn gan bawb sydd â diddordeb, ar y cynigion a gynhwysir yn y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfaethedig (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 3) 2007. Mae’r alwad am dystiolaeth bellach wedi cau a gellir cael mynediad i’r ymatebion a dderbyniwyd yn: rhestr o ymatebion i'r ymgynghoriad.

Partneriaid a Help