Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008 (ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl)

Gorchymyn arfaethedig Aelod – wedi’i osod gan Jonathan Morgan AC

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud deddfau newydd ar gyfer Cymru drwy Fesur mewn perthynas â darparu gwasanaethau iechyd meddwl.

Y newyddion diweddaraf

Wedi i destun y Gorchymyn drafft gael ei gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ’r Senedd, gwnaethpwyd y Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 10/02/10. Caiff y Cynulliad bellach wneud Mesurau (cyfreithiau) o dan y Materion a restrir yn y Gorchymyn.

Hynt y Gorchymyn

Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.

Provision of Mental Health Services

Cyfnod

Dyddiad

  • Gosod y Gorchymyn arfaethedig

  • 18/02/08

  • Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn ystyried y Gorchymyn arfaethedig

  • 15, 22, 29 Ebrill;
    06, 13, 20 Mai;
    10, 17, 20 Mehefin; 2008

  • Gosod y Gorchymyn drafft

  • 18/02/08

  • Gorchymyn drafft – dadl yn y Cyfarfod Llawn

  • 09/12/09

  • Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor

  • 10/02/10

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

|

Ystyriaeth gan Bwyllgor Deddfwriaeth

|

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 26 Chwefror 2008 er mwyn trafod y gorchymyn arfaethedig, ‘Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008’ (ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl) ac er mwyn cyflwyno adroddiad arno.

Bydd y pwyllgor yn dod i ben pan gaiff y Gorchymyn drafft perthnasol ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 22.31.

  • Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn arfaethedig

Mae’r gwahoddiad i roi tystiolaeth bellach wedi cau.

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth (PDF, 71KB) sydd bellach wedi cau.

Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn y rhestr o ymatebion i’r ymgynghoriad

Partneriaid a Help