Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010
Nodyn ar y Gorchymyn Drafft a Osodwyd Gerbron y Cynulliad ar 18 Chwefror 2010 a’r Gwahaniaethau Rhwng y Gorchymyn Hwnnw a’r Gorchymyn Arfaethedig y Craffodd Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad Arno.
Crynodeb o’r newidiadau
1. Bydd y Gorchymyn drafft hwn yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad mewn perthynas â’r Materion ym Maes Addysg a Hyfforddiant -
Rhedeg a llywodraethu ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol, gan gynnwys dyrannu swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud ag ysgolion o'r fath (Mater 5.2A);
Sicrhau bod cydlafurio rhwng personau neu gyrff sydd â swyddogaethau sy'n ymwneud ag ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol (Mater 5.2B);
Y gweithgareddau canlynol gan bersonau neu gyrff sydd â swyddogaethau sy'n ymwneud â
(a) sefydlu cyrff—
(i) cyflawni gweithgareddau sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, neu
(ii) arfer swyddogaethau ar ran awdurdodau addysg lleol;
(b) ymhél â’r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff (a) (Mater 5.2C).
2. Mae dau newid i’r Gorchymyn diwygiedig ei hun. Mae pob Mater yn y Gorchymyn drafft yn awr yn cyfeirio at “awdurdod lleol” yn hytrach nag “awdurdod addysg lleol” ac mae Erthygl 3 newydd wedi cael ei chynnwys i ymdrin â’r newid hwn yn y derminoleg. Mae newid hefyd i sut y drafftiwyd Mater 5.2C i adlewyrchu argymhelliad gan y Pwyllgor Materion Cymreig, ond nid yw hyn yn effeithio ar y cymhwysedd deddfwriaethol a roddir o ganlyniad i’r Gorchymyn fel y’i drafftiwyd yn wreiddiol. Gwnaed newidadau i’r Memorandwm Esboniadol hefyd.
3. Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yw y bydd y cyfeiriadau blaenorol mewn deddfwriaeth at “awdurdodau addysg lleol” yn newid yn y dyfodol i fod yn gyfeiriadau wedi’u symleiddio at “awdurdodau lleol”. Mae’r pwer i wneud y newid hwn wedi’i gynnwys yn adran 162 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Mae newid y derminoleg a ddefnyddir yn y Gorchymyn yn adlewyrchu’r dull hwn. Fodd bynnag, er i Bwyllgor Cyfansoddiad Ty’r Arglwyddi farnu yn ei adroddiad ar 18 Rhagfyr 2009 nad oedd y Gorchymyn arfaethedig yn codi unrhyw faterion sy'n ymwneud ag egwyddorion cyfansoddiadol, amlygodd yr angen i gynnwys cyfeiriad pontio yn y Gorchymyn ei hun oherwydd rhagwelir y bydd Gorchymyn yn cael ei wneud o dan adran 162 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Yn ogystal â newid y cyfeiriadau perthnasol o “awdurdodau addysg lleol” i “awdurdodau lleol”, mae’r Gorchymyn drafft hefyd yn awr yn cynnwys darpariaeth bontio fel bod cyfeiriadau at “awdurdodau lleol” yn Atodlen 5 ac yn y Gorchymyn drafft yn golygu “awdurdodau addysg lleol” nes y gwneir y Gorchymyn o dan Adran 162.
Y berthynas rhwng y newid a barn Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad a’r Pwyllgor Materion Cymreig
4. Cyhoeddodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 ei adroddiad ar 27 Ionawr 2010 a chyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig ei adroddiad ar 9 Chwefror 2010. Roedd y ddau bwyllgor wedi ystyried cwmpas y Gorchymyn arfaethedig mewn perthynas â staffio ac ariannu, a nododd y ddau y dylai’r Gorchymyn arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol fod yn fwy eglur. O ganlyniad i’w hargymhellion, newidiwyd y Memorandwm Esboniadol ac mae Atodiad A wedi cael ei gynnwys i egluro cwmpas y Gorchymyn, yn enwedig mewn perthynas â materion staffio ac ariannu.
5. Roedd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 yn argymell y dylid diwygio Mater 5.2A fel a ganlyn:
“Conduct and governance of schools maintained by local education authorities, including, but not limited to, the allocation of functions, property, rights and liabilities relating to such schools.”
Ni dderbyniwyd yr argymhelliad hwn. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhannu barn y Pwyllgor bod y gair “including” ar ben ei hun yn amwys ac y gellid ei ddehongli fel gair sy’n arwain at restr hollgynhwysfawr. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod hyn wedi cael ei ystyried yn awr yn golygu y dylid ei gwneud yn gwbl glir na ddylid dehongli “include” fel gair sy’n arwain at restr hollgynhwysfawr.
6. O ran Mater 5.2C, roedd y Pwyllgor Materion Cymreig yn argymell y dylid adolygu geiriad (a)(ii) i sicrhau nad yw swyddogaethau eraill awdurdodau lleol, ar wahân i addysg ac hyfforddaint, yn dod o fewn cwmpas y Mater. Diwygiwyd y Mater i wneud hynny’n glir. Nid yw’r newid hwn wedi effeithio ar y cwmpas a fwriedir ar gyfer y Gorchymyn.
Casgliadau
7.I grynhoi, nid yw’r cymhwysedd deddfwriaethol a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy’r Gorchymyn hwn wedi newid o’i gymharu â chynnwys y Gorchymyn gwreiddiol a ddrafftiwyd ac y craffwyd arno. Mae’r newidadau a wnaed i’r Gorchymyn a’r Memorandwm Esboniadol wedi cael eu gwneud i wella’r eglurder ac i wneud yn siwr bod y drafftio yn cydymffurfio â’r penderfyniad cyffredinol i gael gwared ar y cyfeiriadau blaenorol at “awdurdodau addysg lleol”.
Y Gwasanaethau Cyfreithiol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Chwefror 2010
