SG9
Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4
Ymateb i'r Ymgynghoriad ar y Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2009
Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg
CYDAG
d/o Ysgol Gyfun Penweddig
Ffordd Llanbadarn
Llangawsai
Aberystwyth
SY24 5AX
01970 639499
Tachwedd 2009
Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif.4
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Mae Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG) yn falch o gael y cyfle i gyflwyno’r ymateb hwn i’r ymgynghoriad. Cynrychiola CYDAG dros chwarter o ysgolion uwchradd Cymru. Mae’r ysgolion sy’n aelodau o’r Gymdeithas yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.
Yn gyffredinol, croesawa CYDAG y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD/LCO
) hwn sy’n trosglwyddo mwy o rymoedd ym maes Addysg o Lundain i Gymru.
Cytuna CYDAG gyda raison d’être y GCD sy’n ceisio sicrhau bod modd i’r Cynulliad edrych ar gryfhau’r modd y gellir dylanwadu ar brosesu llywodraethu'r ysgolion er mwyn medru hyrwyddo polisi mewn gwahanol feysydd ac yn arbennig felly o ran Llwybrau Dysgu 14-19.
Ar hyn o bryd mae yna gyfuniad o densiynau ar un llaw ac aneglurder ar y llaw arall yn perthyn i rôl a statws cyrff llywodraethu ysgolion Cymru. Mae’r angen am fwy o gydweithio rhwng ysgolion â’i gilydd a rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach yn tanlinellu’r angen i adolygu'r rolau hyn yn ogystal â’r rhyngberthynas sydd rhwng hynny a rolau’r Awdurdodau Addysg Lleol (AALl).
Yn y cyd-destun hwn, mae CYDAG yn croesawu bwriad y GCD yn y tri maes penodol a gynhwysir ynddo.
Wedi dweud hynny, carai CYDAG nodi’r sylwadau canlynol.
Nodir nad oes bwriad o fabwysiadu’r GCD hwn i ymyrryd gyda statws neu brosesau yn ymwneud â newid statws unrhyw ysgol unigol. Croesewir hynny. Mae yna bryder o fewn CYDAG bod yr agenda i ddatblygu’r ddarpariaeth ôl-14, y Mesur Addysg a Sgiliau a hefyd yr agenda Trawsnewid i gyd â photensial i danseilio’r ddarpariaeth ddwyieithog ac addysg cyfrwng Cymraeg. O ddarllen ymatebion y Gweinidog i’r drafodaeth a ddilynodd ei chyflwyniad o’r GCD yn y Cynulliad, ymddengys na fydd y GCD yn galluogi unrhyw danseilio o’r fath i ddigwydd. Carai CYDAG dderbyn cadarnhad o hynny ac fe fydd y Gymdeithas yn llythyru’r Gweinidog i’r perwyl hwn.
Yn ail, cyfeiria cyflwyniad y Gweinidog ar 20 Hydref 2009, a’r drafodaeth ddilynol, at yr angen i gryfhau hyfforddiant a ffocws cyrff llywodraethu. Mae CYDAG yn cytuno â hynny. Fodd bynnag, nid yw hyn yn fater hawdd gan, fel y dywed y Gweinidog ei hunan, gwirfoddolwyr sy’n rhoi yn hael o’u hamser eu hunain yw ein llywodraethwyr. Mae sicrhau neu orfodi bod cyrff llywodraethu yn cyfranogi o gyfleoedd hyfforddiant, hyd yn oed ar lefel waelodol neu greiddiol, yn fater anodd ei wthio ymlaen. Eto i gyd, fel y cyfeiria’r drafodaeth yn y Cynulliad, mae angen gwneud pob ymdrech synhwyrol i sicrhau bod cyrff llywodraethu yn deall yn llawn y cyd-destun cymhleth y maent yn llywodraethu o’i fewn. Hefyd, fel y cyfeiria’r drafodaeth, mae angen gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cyd-destun ynghyd â’i holl reoliadau ac ati yn cael ei lunio mewn modd sy’n ddealladwy i bawb gan gynnwys llywodraethwyr, rhieni, dysgwyr a’r gymuned ehangach.
Gwna’r Gweinidog yn glir nad yw’r GCD hwn neu unrhyw Fesur arfaethedig yn cynnwys materion na ddatganolwyd i Gymru. Yn benodol, cyfeirir at gyllido a staffio sy’n cynnwys cyflogau ac amodau gwaith athrawon. Deellir y sefyllfa bresennol yn iawn. Fodd bynnag, mae’r gyfundrefn addysg yng Nghymru wedi datblygu yn wahanol i’r gyfundrefn yn Lloegr ac mae’n parhau i wneud hynny. Croesewir twf yr hunaniaeth yma yn fawr iawn gan ei fod yn adlewyrchu gwahanol gyd-destunau ac anghenion pobl Cymru. Mawr y bydd hyn i barhau, pa bynnag lywodraeth a fydd mewn grym yn San Steffan.
Wrth i’r gyfundrefn addysg yng Nghymru barhau i ddatblygu ei hunaniaeth ac, felly, ei pholisïau arwahanol i rai Lloegr, mae’r dydd yn ddiamheuol yn dod pan fydd angen i Lywodraeth Cenedlaethol Cymru wir ystyried gofyn i’r Llywodraeth yn Llundain i ddatganoli mwy o rymoedd parthed cyflogau ac amodau gwaith athrawon. Bydd angen gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys ar gyfer rolau ein hathrawon wrth weithredu’r polisïau Cymreig ac er tegwch i’r gweithlu hwnnw. Hefyd nydd gwneud hynny er mwyn sicrhau bod yr amodau gwaith yn cyd-linio gyda’r dyhead cytûn i weithredu’r polisïau yn llwyddiannus.
Cyflwynir yr ymateb hwn ar ran CYDAG
Yn gywir
Arwel George
Swyddog Proffesiynol (Rhan Amser)
