Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 7) (ynghylch Diogelwch Tân Domestig) 2008
Gorchymyn arfaethedig Aelod – wedi’i osod gan Ann Jones AC
Gwybodaeth am y Gorchymyn
Ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud deddfau newydd ar gyfer Cymru drwy Fesur mewn perthynas â diogelwch tân domestig.
Y newyddion diweddaraf
Wedi i destun y Gorchymyn drafft gael ei gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dy’r Senedd, gwnaethpwyd y Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 12 Ebrill 2010. Caiff y Cynulliad bellach wneud Mesurau (cyfreithiau) o dan y Materion a restrir yn y Gorchymyn.
Hynt y Gorchymyn
Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.
Cyfnod |
Dyddiad |
|---|---|
Gosod y Gorchymyn arfaethedig |
20 Chwefror 2008 |
Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Diogelwch Tân Domestig yn ystyried y Gorchymyn arfaethedig |
12 Mawrth 2008 |
Gosod y Gorchymyn drafft |
19 Ionawr 2010 |
Gorchymyn drafft – dadl yn y Cyfarfod Llawn |
27 Ionawr 2010 |
Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor |
12 Ebrill 2010 |
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
