Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Amgylchedd) 2009

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig gan y Llywodraeth a osodwyd gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi’r hawl iddo wneud deddfau newydd i Gymru drwy Fesurau ym maes diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff. Fersiwn ddiwygiedig o Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a osodwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mehefin 2007 (PDF, 31KB) yw’r Gorchymyn arfaethedig.

Y newyddion diweddaraf

Wedi i destun y Gorchymyn drafft gael ei gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ’r Senedd, gwnaethpwyd y Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 10 Chwefror 2010. Caiff y Cynulliad bellach wneud Mesurau (cyfreithiau) o dan y Materion a restrir yn y Gorchymyn.

Hynt y Gorchymyn

Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.

Proposed Environment Order 2009

Cyfnod

Dyddiad

  • Gosod y Gorchymyn arfaethedig

  • 19 Mehefin 2007

  • Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 yn ystyried y Gorchymyn arfaethedig

  • 3, 10. 17 Mehefin 2009

  • Gosod y Gorchymyn drafft

  • 24 Tachwedd 2009

  • Gorchymyn drafft – dadl yn y Cyfarfod Llawn

  • 1 Rhagfyr 2009

  • Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor

  • 10 Chwefror 2010

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

|

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Drafft a Memorandwm Esboniadol

|
|

Y Gorchymyn arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol

|
  • Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn arfaethedig

Ysgrifennodd y Pwyllgor at sefydliadau a oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar y Gorchymyn arfaethedig gwreiddiol yn gofyn am sylwadau pellach.

Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn y rhestr o ymatebion i’r ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ddatganiad i’r wasg hefyd.

  • Adroddiad y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig

Adroddiad y Pwyllgor

Partneriaid a Help