Y Mesur Arfaethedig ynghylch Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)
Gwelliannau Cam 2
Ystyried gwelliannau
Ar ôl i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, dechreuodd Cyfnod 2 ar 30 Ebrill 2008. Cyfarfu'r Pwyllgor ar 19 mehefin ar 3 Gorffennaf 2008 i ystyried a gwaredu'r gwelliannau i'r
Mesur arfaethedig (fel y’i cyflwynwyd).
Mae’r hysbysiadau o welliannau yn dangos gwelliannau sydd wedi’u cyflwyno ar ddyddiad penodol. Mae’r rhestri wedi’u trefnu yn dangos y gwelliannau sydd i’w hystyried mewn cyfarfod. Mae’r ddogfen Grwpio Gwelliannau yn nodi ym mha drefn y caiff gwelliannau eu trafod mewn cyfarfod penodol ac unrhyw wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r gweithdrefnau.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Ceir rhagor o wybodaeth am gyflwyno gwelliannau yn ystod Cyfnod 2 ym mhenderfyniad y Llywydd ar ffurf briodol gwelliannau (PDF, 33KB).
