HES 7 - Llywodraeth Cymru
Tystiolaeth i Bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion
17 Mehefin 2008
1. Cyflwyniad
1.1.Mae Llywodraethwyr Cymru yn croesawu’r cyfle i fynychu a chyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) .
1.2.Bydd arsylwadau Llywodraethwyr Cymru yn canolbwyntio’n bennaf ar y cwestiynau a nodir gan Gadeirydd y Pwyllgor, yn ychwanegol at y sylwadau a gyflwynwyd gan Lywodraethwyr Cymru ar y cynigion ymgynghori cychwynnol ym mis Chwefror 2008 (Atodiad 1)
2. Crynodeb
2.1Mae Llywodraethwyr Cymru’n cefnogi’r angen am bolisi clir, cryno sydd yn hyrwyddo ymagwedd holistaidd tuag at fwyta’n iach mewn ysgolion a gynhelir ac sydd yn meithrin dealltwriaeth o bwysigrwydd bwyta’n iach. (Cwestiwn 1). Ond mae Llywodraethwyr Cymru’n cydnabod bod llawr yn cael ei wneud ar hyn o bryd i hyrwyddo’r ymagwedd hwn, e.e Cynllun Gweithredu Blas am Oes , sydd yn dwyn ynghyd ac yn hyrwyddo amrediad o bolisïau i gefnogi bwyta’n iach i blant a phobl ifanc.
2.2Mae Llywodraethwyr Cymru’n cefnogi’r pedwar newid a wnaethpwyd i’r Mesur arfaethedig yn deillio o’r ymgynghori cyhoeddus – (i) ymgynghori’n ehangach, (ii) ymgynghori cyn gwneud rheoliadau, (iii) dwr yfed mewn ysgolion a (iv) dyletswydd cyrff llywodraethu a phenaethiaid i gyflwyno adroddiadau. Mae Llywodraethwyr Cymru’n nodi bod y newidiadau mewn gofynion adrodd yn nodi pwynt a wnaethpwyd yn ymateb Llywodraethwyr Cymru i’r ymgynghoriad. Bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethu adrodd ar y camau a gymerir i hyrwyddo bwyta’n iach a gwneud sylwadau ar y canlyniadau yn eu hadroddiad blynyddol i rieni.
2.3Ar y cyfan mae Llywodraethwyr Cymru’n cefnogi’r dyletswyddau fel yr amlinellwyd ar gyfer Gweinidogion Cymreig, penaethiaid, cyrff llywodraethu ac awdurdodau addysg lleol i hyrwyddo bwyta’n iach mewn ysgolion a darpariaethau allweddol eraill fel y nodwyd (Cwestiwn 2) ond hoffai bwysleisio’r angen i gofio peidio â chreu llwyth gwaith ychwanegol a rhagor o brosesau biwrocrataidd. Mae angen cydbwyso hyn yn ofalus.
2.4Mae Llywodraethwyr Cymru’n cytuno gyda diogelu enwau disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim ac yn gobeithio y bydd cyflwyno system electronig i gynorthwyo gyda chymhwyster ar gyfer prydau bwyd ysgol am ddim yn annog y nifer sydd yn manteisio ar yr hawl ac yn lleihau biwrocratiaeth mewn ysgolion. Mae tystiolaeth anecdotaidd nad yw nifer o blant sydd â hawl i gael prydau bwyd ysgol am ddim yn gwneud hynny oherwydd y stigma yn gysylltiedig â hynny. Mae croeso i unrhyw beth sydd yn cyflwyno anhysbysedd i’r broses.
2.5Cyn belled ag y mae oblygiadau ymarferol dan sylw (Cwestiwn 3) hoffai Llywodraethwyr Cymru gael esboniad a ydy gweithgareddau CRhA wrth werthu losin, byr brydau a diodydd yn cael eu heffeithio gan y Mesur. Efallai bod rhai o’r eitemau yn ‘afiach’ ond cânt eu gwerthu fel rheol mewn digwyddiadau y tu allan i oriau ysgol fel discos, sesiynau bingo cyngherddau a ffeiriau. Maent yn cael eu gwerthu i oedolion hefyd yn ogystal ag i ddisgyblion. Y pwynt allweddol yw bod gwerthu’r rhain yn creu refeniw a ddefnyddir wedyn er lles disgyblion wrth dalu am ffoer ysgol etc ac felly ategu at gyllidebau ysgolion sydd dan bwysau. Nid yw’n eglur o gymalau 1 a 7 o’r Mesur a yw gweithgareddau CRhA yn gynwysedig ac mae angen ystyried hyn.
2.6Mae’n amlwg o adran 8 o’r Memorandwm Esboniadol y bydd y gofyniad am safonau maeth uwch yn cynyddu costau prydau bwyd ysgolion. Er y bydd y cynnydd mewn cost yn ychwanegol yn unol â’r ymagwedd a gynigir ar gyfer cyflwyno’r rheoliadau, dylid adlewyrchu costau uwch o’r fath yn y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y Cynulliad i Awdurdodau Lleol ac felly i ysgolion, lle mae cyllid prydau bwyd ysgolion wedi’i ddirprwyo. (Cwestiwn 3)
2.7Yn ymateb Llywodraethwyr Cymru i’r ymgynghoriad cychwynnol , awgrymodd Llywodraethwyr Cymru y gallai fod yn briodol ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gynhyrchu polisi bwyd yn ymgorffori egwyddorion bwyta’n iach er mwyn helpu i sicrhau bod cynnydd yn digwydd ar wella bwyta’n iach mewn ysgolion. Ni chafodd y pwynt hwn ei nodi yn y newidiadau a wnaethpwyd i’r Mesur arfaethedig. Mae Llywodraethwyr Cymru yn gofyn i hyn gael ei ail ystyried gan gredu y byddai’n ddefnyddiol heb fod yn faich ychwanegol sylweddol ar ysgolion. Mae gan rai ysgolion bolisi bwyta’n iach neu ffordd o fyw iach eisoes, ac fe gaiff ei ystyried yn ymarfer da.
3. Casgliad
3.1Ar y cyfan mae Llywodraethwyr Cymru yn cefnogi diben a nod cyffredinol y Mesur arfaethedig, yn enwedig yr ymagwedd holistaidd ysgol gyfan tuag at fwyta’n iach. Ond mae Llywodraethwyr Cymru yn ymwybodol o bwysigrwydd y canllaw, deunyddiau cefnogi ac adnoddau ariannol ychwanegol fel bod pob pawb yn ymarfer y swyddogaethau hyn yn effeithiol.
3.2Mae Llywodraethwyr Cymru yn edrych ymlaen at drafodaeth bellach ar y cynigion drafft ymhen amser. Bydd y Mesur Arfaethedig yn adeiladu ar yr enghreifftiau o ymarfer da sydd eisoes ar gael yng Nghymru gan ddwyn ynghyd deddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli, a bydd yn cynorthwyo i sicrhau gwelliant pellach mewn safonau maeth ac ar yr un pryd yn darparu gallu i fonitro a gwerthuso cynnydd, a hefyd rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc.
