PF 1
Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif.1
Ymateb i'r ymgynghoriad ar y Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru)
Cyngor Sir Ceredigion
Sylwadau Cyngor Sir Ceredigion ar y Cynigion ar gyfer y Mesur Caeau Chwarae Arfaethedig (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu)
Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ffurfiol ac anffurfiol fel rhan o ddatblygiad cyffredinol plant a hefyd pwysigrwydd iechyd a lles cyffredinol ein dinasyddion i gyd.Mae’r Cyngor yn croesawi’r argymhellion ond mae eisoes yn rhoi ystyriaeth ddyledus i’r holl amgylchiadau a all effeithio ar brynu neu werthu tir gan gynnwys meysydd chwarae.
Tra bo’r Cyngor yn cydnabod bod y mesur wedi ei anelu tuag at werthu tir gan awdurdodau lleol, ceir cyfeiriad ym mharagraffau 18 i 26 at dir mewn perchnogaeth breifat a ddefnyddir at amcanion hamdden. Mae’r Cyngor yn dymuno pwysleisio pwysigrwydd trefniadau sydd yn bodoli mewn ardaloedd gwledig megis Ceredigion, lle rhoddir tir amaethyddol gan berchnogion tir megis ffermwyr, drwy drefniant ffurfiol ac anffurfiol at amcanion chwaraeon a hamdden. Ni fyddai’r Cyngor am weld rheolyddion cynllunio llymach a allai annog perchnogion tir i beidio â rhyddhau tir am gyfnodau penodol at amcanion o’r fath.
Denfer Morgan
Prif Swyddog Gweinyddol
Adran y Prif Weithredwr
Cyngor Sir Ceredigion
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron SA46 0PA
5 Mehefin 2008
