SWR9
Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1
Ymateb i’r ymgynghoriad ar y Mesur Arfaethedig Cludo Gwastraff i’w Adfer (Ymgysylltiad Cymunedau â’r Trefniadau) (Cymru)
Cyngor Gwynedd
Ymgynghoriad ar y Mesur Arfaethedig Cludo Gwastraff i'w Adfer (Ymgysylltiad Cymunedau â'r Trefniadau) (Cymru)
Cyfeiriaf at eich gohebiaeth dyddiedig 5edf o Fai ynghylch yr ymgynghoriad uchod.
Cyflwynwyd adroddiad ar yr ymgynghoriad i Bwyllgor Craffu yr Amgylchedd o’r Cyngor yma ar 11 Mehefin. Datganwyd anfodlonrwydd garw gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch penderfyniad y Cynulliad i beidio cyfieithu’r Mesur Arfaethedig yn gyfan gwbl i’r Gymraeg. Penderfynodd y Pwyllgor na fuasent mewn sefyllfa i roddi sylwadau ar y Mesur Arfaethedig heb ei dderbyn yn y Gymraeg.
Gofynnaf i chi nodi a chyhoeddi hynny fel ymateb y Pwyllgor i’r ymgynghoriad.
Rhoddir y canlynol fel sylwadau gan swyddogion ar y mesur arfaethedig :-
Nid oes gwrthwynebiad i’r egwyddor o wneud gwybodaeth am drefniadau ailgylchu gwastraff bwrdeistrefol yn fwy agored. Fodd bynnag, gofynnir i’r Cynulliad gymryd y canlynol i ystyriaeth:-
• Mae masnach yn gyffredinol yn gweithredu ar raddfa fyd-eang, ac nid yw’r diwydiant sy’n gysylltiedig ag ailgylchu deunyddiau yn wahanol i hynny.
• Gallai’r Mesur arfaethedig roddi’r argraff fod gyrru deunyddiau tramor i’w trin yn rhywbeth i’w osgoi. Derbynnir y gall manteision ddeillio o drin deunyddiau yn agos i’r pwynt casglu, ond er cytbwysedd, rhaid cydnabod hefyd fod manteision o fedru cymryd rhan yn y farchnad fyd-eang am ddeunyddiau i’w hailgylchu.
• Bydd mwy a mwy o ddeunyddiau yn cael eu casglu i’w hailgylchu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cystadleuaeth felly am le yn y farchnad i gael gwared â’r deunyddiau. Rhaid bod yn ofalus rhag creu gofyn gweinyddol ychwanegol sy’n gwneud deunyddiau o Gymru yn llai deniadol i fasnachwyr na deunyddiau o rannau eraill o Brydain.
• Mae amheuaeth ynghylch pa mor fanwl fydd y data a ellir ei gasglu i ymateb i’r Mesur. Ni welir y bydd modd i fasnachwyr gynhyrchu data fydd yn adnabod lleoliad trin deunyddiau o awdurdod unigol, gan y bydd y masnachwyr yn eu trefniadau storio ac ati yn cymysgu deunyddiau o wahanol gynghorau. Y cyfan fedr masnachwyr wneud yw adrodd ar sail canrannau.
• Rhaid derbyn y bydd y Mesur yn gosod gofynion ychwanegol ar awdurdodau lleol yng Nghymru. Y mae’n debygol y bydd awdurdodau yn defnyddio rhai dwsinau o gwmnïau i ailgylchu deunyddiau, a bydd gwaith ynghlwm a chasglu gwybodaeth oddi wrth y cyfan ohonynt. Dylai’r Cynulliad gyfarfod y costau ychwanegol i awdurdodau lleol ymateb i ofynion y Mesur.
• Er ceisio lleihau'r gofynion gweinyddol, dylai’r Cynulliad edrych ar y posibilrwydd o ehangu’r system "Waste Data Flow” i gynnwys gwybodaeth fuasai ei angen i ymateb i ofynion y Mesur.
Mae croeso i chi gysylltu â mi os bydd angen unrhyw eglurhad ar y sylwadau uchod.
Uwch Reolwr Prosiectau
