Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010

Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Elin Jones AC, y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Diben y Mesur arfaethedig

Diben y Mesur hwn yw gwneud darpariaeth statudol, trwy fframwaith deddfwriaethol, ar gyfer datblygu a hybu diwydiant cig coch Cymru.

Cyfnod presennol y Mesur

Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 11 Mai 2010. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).

Cofnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010

Cynod

Dyddiad

  • Cyflwyno’r Mesur Arfaethedig

  • Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol*

  • Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

  • Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

  • Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

  • Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn

  • Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol

* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3

Dogfennau Perthnasol

Gellir gweld y dogfennau sy’n gysylltiedig â’r Mesur arfaethedig hwn yn Dogfennau Perthnasol.

|

Y Mesur a'r Memorandwm Esboniadol

|
  • Cyfnod 1

Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.

Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y Pwyllgor
alwad am dystiolaeth ymgynghori (PDF, 128KB)
ar y

Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru), sydd bellach wedi cau. Ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd.

Dogfennau Perthnasol

Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1 Mesur Arfaethedig yngylch Y Diwydiant Cig Coch (Cymru), (PDF, 259KB) 10 Rhagfyr 2009

Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar y cyfnod cyntaf yng Nghyfarfod Llawn 12 Ionawr 2010

  • Cyfnod 2

Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl. Dechreuodd Cyfnod 2 ar 13 Ionawr 2010 a ddaeth I ben ar 3 Chwefror 2010. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:
  • Cyfnod 3

Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:

Dechreuodd Cyfod 3 ar 4 Chwefror 2010 a ddaeth I ben ar 10 Mawrth 2010. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:

  • Cyfnod 4

Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig. Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 10 Mawrth 2010.
|

Y cyfnod cyn cyflwyno

|
Cafodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig) 2008 (ynghylch Diwydiant Cig Coch Cymru) ei ystyried gan y Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Diwydiant Cig Coch Cymru, a gyflwynodd ei adroddiad ar 10 Rhagfyr 2008.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig) 2009 fel y’i gosodwyd ar 24 Mawrth 2009.

Partneriaid a Help