Pwyllgor Cyllid
Finance Committee

Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff
CF99 1NA

Dai Lloyd, AC
Cadeirydd, Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA  

23 Tachwedd 2009

Annwyl Dai

Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru)

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi ystyried y Mesur hwn ynghyd â’r dystiolaeth ysgrifenedig a dderbyniwyd, gan gynnwys llythyr at y Pwyllgor gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn nodi mai cyfrwng galluogi yw’r Mesur arfaethedig yn ei hanfod a thrwyddo bydd Gweinidogion Cymru, trwy is-ddeddfwriaeth a thrwy gyfarwyddyd, yn gallu pennu fframwaith ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r diwydiant cig coch.   Gan nad yw’r Mesur ei hun yn darparu unrhyw bwerau uniongyrchol, ac nad oes bwriad i newid y trefniadau presennol, dim ond rhoi cyfrifoldeb ar Weinidogion Cymru yn hytrach nag ar Fwrdd Ardollau Cymru, mae’n ymddangos nad oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i’r Mesur ei hun.  

Ar sail hynny, nid oes gan y Pwyllgor Cyllid unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y Mesur arfaethedig.  Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y mesur arfaethedig fod â goblygiadau ariannol sylweddol a byddai’r Pwyllgor yn argymell yn gryf bod pob is-ddeddfwriaeth yn cael asesiad effaith rheoleiddiol llawn.

Yn gywir,

Angela Burns,
Cadeirydd, y Pwyllgor Cyllid

Yn yr adran hon

    Partneriaid a Help