Mesur Diogelwch ar Gludiant I Ddysgwyr (Cymru) 2011

Mesur arfaethedig y Llywodraeth a gyflwynwyd gan Ieuan Wyn Jones AC, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Diben y Mesur Arfaethedig

Mesur sy’n gwneud i ddarparu am ddiogelwch ar gludiant a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir at ddibenion sicrhau bod plant yn mynychu mannau lle y cânt eu haddysgu neu eu hyfforddi; ac at ddibenion cysylltiedig.

Cyfnod presennol y Mesur

Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011. Mae’r Mesur erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).

Cofnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mesur Arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant I Ddysgwyr (Cymru)

Cyfnod

Dyddiad

  • Cyflwyno’r Mesur Arfaethedig

  • Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol*

  • Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

  • Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau*

  • Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

  • Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn

  • Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol

* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

|

Y Mesur Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

|
  • Cyfnod 1

Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:

Ymgynghoriad Cyhoeddus
Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth am Fesur Arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant I Ddysgwyr  (Cymru). Bydd cyfnod yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 5 Tachwedd 2010.

Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Cyflwynodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ar 16 Rhagfyr 2010.

Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar y cyfnod cyntaf yng Nghyfarfod Llawn 11 Ionawr 2011

  • Cyfnod 2

Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl:

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 12 Ionawr 2011 a ddaeth I ben ar 3 Chwefror 2011. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:

  • Cyfnod 3

Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:

Dechreuodd Cyfnod 3 ar 4 Chwefror 2011 a ddaeth I ben ar 22 Mawrth 2011. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:

  • Cyfnod 4

Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig:

Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 22 Mawrth 2011.

Partneriaid a Help