Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
Mesur arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Dr Brian Gibbons AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Diben y Mesur arfaethedig
Mae'r Mesur ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) yn gwneud darpariaeth statudol, drwy fframwaith deddfwriaethol, i fynd ati i wireddu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran tlodi plant, ac i fynd ati'n fuan i ddatblygu ei strategaeth ar gyfer plant sy'n agored i niwed drwy ddwyn ymlaen ddeddfwriaeth i ddarparu mwy o gymorth i deuluoedd sydd, o bosibl, â phlant mewn perygl, a gorfodaeth reoleiddiol gryfach mewn lleoliadau plant.
Cyfnod presennol y Mesur
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Chwefror 2010. Mae’r Mesur erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynod |
Dyddiad |
|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2
