ED15

Ymateb gan yr Archwilydd Cyffredinol am Cymru

Annwyl Syr

Diolch yn fawr am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth am y Mesur Addysg (Cymru) arfaethedig a fydd yn ymestyn hawliau plant o ran anghenion addysgol arbennig.

Nid yw'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyflwyno tystiolaeth ar yr adeg hon; mae'r egwyddorion cyffredinol sy'n sail i'r Mesur i'w gweld yn synhwyrol. Yr unig faes a all beri pryder yw'r effaith y gall y trefniadau newydd ei chael ar awdurdodau lleol, yn enwedig o ran unrhyw gostau ychwanegol a allai beryglu cyllid i wasanaethau eraill. Nodwn yr asesiad a gaiff ei grynhoi yn y memorandwm esboniadol ac sy'n dangos y gallai'r costau i AALlau fod yn ymylol ond y byddent yn cael eu monitro ar ôl eu treialu a'u cyflwyno. Dylai'r cam peilot brofi rhagdybiaethau cost Llywodraeth y Cynulliad a helpu i lywio unrhyw ddadl bellach.

Cofion

Bernadette Daley

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0661
Symudol: 079 7076 0414
Ffacs: 029 2032 0600
e-bost: b

ernadette.daley@wao.gov.uk

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help