ED9
Ymateb i’r Ymgynghoriad gan Cyngor Gwynedd
1. A oes angen gwneud deddfwriaeth i roi’r hawl i blant wneud apelau a hawliadau i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ac, os oes, pam?
Mae’r hawl i apelio gan blentyn eisoes, trwy ei rieni. Ein barn ni felly yw nad oes angen gwneud deddfwriaeth ychwanegol i’r pwrpas hwn. Er mwyn bodloni’n llawnach Erthyglau 12 a 13 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, efallai y byddai modd cynyddu cyfraniad plant neu bobl ifanc yn y prosesau apelio, heb ymestyn hawliau apelio, drwy ddiwygio rheoliadau’r Tribiwnlys a’r canllawiau i AALau (Opsiwn 2 yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, Memorandwm Esboniadol)
2. A yw adrannau’r Mesur arfaethedig yn briodol o ran diwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud ag apelau Anghenion Addysgol Arbennig? Os na, ym mha ffordd mae angen newid y Mesur arfaethedig?
Mae’r adrannau yn ymddangos yn briodol o ran diwygio deddfwriaeth.
3. Sut y bydd y Mesur arfaethedig yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd a beth fydd effaith newidiadau o’r fath, os o gwbl?
Mae’r goblygiadau ar AALlau yn bell-gyrhaeddol ac yn codi cwestiwn am nifer o elfennau o’r broses o asesu statudol, e.e. pwy fydd derbynydd y datganiad o AAA, y rhiant ynteu’r plentyn (ynteu’r ddau?)?
Byddai hyn, yn ei dro, yn effeithio ar linellau cyfathrebu rhwng yr Awdurdod a rhieni / plant/ ysgolion.
Mae’r drefn asesu statudol / cynnal datganiadau eisoes yn un beichus ac, o dan y Mesur, bydd rhai hysbysiadau angen eu cyflwyno ddwywaith. Bydd yn ofynnol ar AALlau i ysgrifennu at rieni a phlant i roi gwybod iddynt am eu hawliau statudol ayb, "er na ragwelir y bydd nifer fawr o blant yn apelio yn sgil hyn” (para 3.20 o’r Memorandwm Esboniadol).
4. Beth yw’r rhwystrau posibl o ran gweithredu darpariaethau’r Mesur arfaethedig (os o gwbl) ac a yw’r Mesur arafethedig yn eu hystyried?
Mae natur gymhleth amryw o’r materion yn ei gwneud yn anodd i blant a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig fod a barn glir ynghylch y materion hyn a gall fod yn anodd iddynt fynegi eu barn. Efallai bod yr hawl i gael 'cyfaill agos’ i wneud apêl ar ran plentyn yn mynd rhan o’r ffordd i gynorthwyo yn hyn o beth.
5. Beth yw goblygiadau’r Mesur arfaethedig i sefydliadau, os o gwbl?
Bydd y Mesur arfaethedig yn effeithio ar weithdrefnau AALlau, cyrff llywodraethol, ysgolion a mudiadau gwirfoddol.
6. Beth yw eich barn chi am y pwerau yn adran 18 sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd eisoes yn bodoli drwy is-ddeddfwriaeth (drwy Orchymyn) fel Deddf Addysg 1996 a Deddf Gwahaniaethau ar Sail Anabledd 1995?
Yn cytuno mewn egwyddor ei fod yn fantais i Weinidogion Cymru (yn hytrach na’r Ysgrifennydd Gwladol) deilwra swyddogaethau i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau pobl Cymru.
7. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar adrannau penodol o’r Mesur arfaethedig?
Nagoes
Mrs R. Orina Pritchard, Uwch Reolwr Addysg, Adran Addysg, Cyngor Gwynedd
Mrs Mair Read, Swyddog Addysg AAA, Adran Addysg a Hamdden, Cyngor Sir Ynys Môn
