Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009
Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Dr Brian Gibbons AC, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Diben y Mesur Arfaethedig yw
Diben y Mesur yw diwygio’r sail statudol ar gyfer gwella gwasanaethau a chynllunio strategol gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r Mesur yn cysylltu llesiant a chynllunio cymunedol â gwella gwasanaethau.
Mae’r Mesur yn ailddiffinio dyletswyddau sylfaenol i roi cyfrif am welliannau. Bydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i bartneriaid lleol gydweithredu wrth sicrhau canlyniadau strategol cymunedol ac ymgysylltu â dinasyddion.
Newyddion diweddaraf
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mehefin 2009. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009
Cynod |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol
** Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4
Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:
Pwyllgor Cyfnod 1
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 4 Chwefror 2009 i ystyried egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig. Daeth y Pwyllgor i ben pan gafodd trafodion Cyfnod 2 eu cyfeirio i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 gan y Pwyllgor Busnes.
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, sydd bellach wedi cau. Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn yr ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd
Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Cynhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar y Cyfnod Cyntaf ar 26 Ionawr 2009
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunod y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r dadl ar y cam cyntaf y Cyfarfod Llawn ar 3 cChwefror 2009.
Eitemau newyddion cysylltiedig
Ceir eitemau newyddion a baratowyd gan y Cynulliad mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth hon yn yr adran ar gyfer
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl.
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 4 Chwefror 2009 a ddaeth I ben ar 5 Mawrth 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 6 Mawrth 2009 a ddaeth I ben ar 28 Ebrill 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion Cyfnod 4 ar 28 Ebrill 2009