LG 13 - Cyngor Sir Gwynedd
Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol
Sylwadau gan Gyngor Gwynedd
Cwestiwn 1 - A oes angen deddfwriaeth i ddiwygio’r sail statudol ar gyfer gwella gwasanaethau gan awdurdodau lleol a strategaethau a chynllunio cymunedol?
Sylw –
- Mae’r ffaith bod y mesur yn pwysleisio gwelliannau tymor hwy i’w groesawu yn gyffredinol. Mae risgiau ynghlwm â’r tueddiad i yrru cynghorau yn ôl gwelliannau tymor byr mewn dangosyddion a thargedau. Mae’n bwysig bod cynghorau yn cael y rhyddid i gyfeirio eu meddyliau at y pethau mawr sydd angen eu newid a’u gwella yn hytrach na chael eu gyrru gan reolaeth-meicro o setiau o ddangosyddion tymor byr.
- Bydd galluogi cynghorau unigol, ar sail eu gwybodaeth am a chyswllt a’u “cwsmeriaid”, i lunio a gweithredu’r newidiadau sydd yn gwneud synnwyr yn lleol yn gam cadarnhaol ond nid yw’n gwbl glir sut y bydd y mesur newydd yn hwyluso hynny.
- Dylai’r mesur fod yn cynorthwyo llywodraeth leol i greu diwylliant sydd yn hybu menter ac arloesi er mwyn gwella gwasanaethau. Mae a wnelo a hyn â’r fframwaith statudol ond hefyd â gwaith archwilwyr ac eraill y mae cyfeiriad atynt mewn ymateb i gwestiwn 3.
- O ran gwella gwasanaethau, mae’r mesur yn son am safonau perfformiad mewn rhai meysydd allweddol; mae datblygu’r Isafswm Safonau Cenedlaethol yn bwysig iawn ond rhaid ystyried beth yw hyd a lled “gwelliant parhaus” yng nghyd-destun realiti ariannol y sector gyhoeddus
Cwestiwn 2 - Sut y bydd y Mesur arfaethedig yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd a beth fydd effaith newidiadau o’r fath o ran gwella gwasanaethau a chynllunio cymunedol?
Sylw –
- Mae’r cynnig yn y mesur y bydd hawl gan Weinidog yn y Cynulliad i fynnu cyd-weithio yn ddatblygiad newydd ac yn allai fod yn beryglus yng nghyd-destun yr atebolrwydd lleol sydd eisoes gan gynghorau unigol.
- Os y datblygir trefn o’r fath, rhaid cael sail tystiolaeth fydd yn sbardun ar gyfer unrhyw ymyrraeth ac nid rhywbeth penagored “lle yr ymddengys” i Weinidog bod angen iddo / iddi ymyrryd. Byddai angen i hyn gyd-fynd efo’r protocol ymyrraeth y mae Llywodraeth Y Cynulliad wedi bod yn ymgynghori arno.
- Yn amodol ar y pwyntiau uchod ac os oes pwer o’r fath yn cael ei ddatblygu, dylai gyfeirio at gydweithredu rhwng partneriaid ac nid cynghorau yn unig, er mwyn cynnwys yr holl bartneriaid perthnasol. (Gweler yr sylw mewn ymateb i Gwestiwn 4)
Cwestiwn 3 - A yw’r adrannau o’r Mesur arfaethedig yn briodol o ran diwygio’r sail statudol ar gyfer gwella gwasanaethau gan awdurdodau lleol a diwygio strategaethau a chynllunio cymunedol? Os na, sut y mae angen newid y Mesur?
Sylw –
- Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gyson o blaid rôl y Rheolwyr Perthynas gan fod y rôl hynny yn medru hwyluso deialog ystyrlon rhwng cynghorau unigol a’r rheolwr perthynas lleol gan arwain at gyd-gordio gwaith archwilio yn well. Mae’r gwaith hynny yn medru cael effaith sylweddol ar raglenni gwaith cynghorau unigol a rhaid cael trafodaeth ystyrlon o gwmpas blaenoriaethu gwaith archwilio ar sail dealltwriaeth a thrafodaeth lleol am risg
- Roedd yr awgrym bod y Cynulliad yn ystyried gosod rol y Rheolwr Perthynas ar sail statudol er mwyn medru cael y grym i gyflawni’r swyddogaeth honno yn rhywbeth i’w groesawu. Rydym yn gresynu felly, er bod y mwyafrif o’r ymatebion o blaid y cynnig hwnnw, bod y mesur yn dilyn barn Swyddfa Archwilio Cymru a ddim yn cynnig hynny.
- Mae angen i bwyslais gwaith archwilio fod ar gynorthwyo cynghorau i gyflawni’r gwelliannau y mae’r mesur yn galw arnom i wneud yn hytrach na’n dal i gyfrif yn ôl cyfundrefnau sydd ddim o reidrwydd yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol
Cwestiwn 4 - Beth yw’r rhwystrau posibl o ran gweithredu darpariaethau’r Mesur arfaethedig (os o gwbl) ac a yw’r Mesur arfaethedig yn eu hystyried?
Sylw –
- Mae’r mesur yn gosod pwyslais ar yr elfen o gyd-weithio a mae cyflwyno’r dyletswydd i bartneriaid gyd-weithio o dan faner y Strategaeth Gymunedol i’w groesawu. Fodd bynnag, mae cyfyngiad ar y rhestr sydd yn gorfod cyd-weithio. Nid yw, er engraifft, yn cynnwys Prifysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach na chyrff fel Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, na, hyd yn oed, y Cynulliad ei hun, sydd yn bartner pwysig.
- Wrth gwrs, mae’r mesur yn rhoi’r hawl i Weinidog yn y Cynulliad i ymestyn y rhestr o’r rhai sydd â dyletswydd i gyd-weithio ond awgrymwn yn gryf y dylai’r dyletswydd hwn gael ei ymestyn i bartneriaid strategaeth gymunedol i gyd
Cwestiwn 5 - Beth yw goblygiadau ariannol y Mesur arfaethedig i sefydliadau, os oes rhai o gwbl?
Sylw –
- Mae’r disgwyliadau yn y mesur yn gyffredinol yn uchel ac mae’r disgwyliad cynyddol ar awdurdodau lleol i fod yn arwain y prosesau cyd-weithio o dan y Strategaeth Gymunedol yn drwm.
- Yng nghyd-destun y wasgfa ar adnoddau cyhoeddus, mae cynghorau yn gorfod edrych o ddifrif ar eu gallu i weithredu ar yr agenda cyd-weithio tra’n gorfod ystyried cyflawni toriadau ar wasanaethau sylfaenol
Cwestiwn 6 - A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar adrannau penodol o’r Mesur arfaethedig?
Sylw –
- Mae adran 4(3) yn y Mesur yn awgrymu mai amcanion strategol y Strategaeth Gymunedol ar gyfer yr ardaloedd sirol fydd amcanion cynghorau lleol unigol. Mae’r datganiad hwn yn rhy simplistig. Er bod amcanion y Strategaeth Gymunedol yn ddylanwadol ar amcanion y Cyngor, fel sydd yn amlwg o Gynllun Tair Blynedd y Cyngor hwn, mae amcanion unrhyw gyngor yn fater i’r cyngor unigol, wedi ystyried blaenoriaethau ehangach ac yn debygol o gynnwys rhai elfennau sydd efallai ddim yn cael sylw ar lefel partneriaeth yn y Strategaeth Gymunedol
