Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Edwina Hart AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diben y Mesur arfaethedig
Nod y Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) yw:
darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn gynt i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl er mwyn lleihau’r risg o ddirywiad pellach yn eu hiechyd meddwl;
darparu cynlluniau gofal a thriniaeth ar gyfer pobl sy’n cael gofal iechyd meddwl eilaidd a sicrhau bod gan bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd fynediad i’r gwasanaethau hynny pan fyddant yn credu bod eu hiechyd meddwl yn dirywio;
ymestyn darpariaeth o wasanaethau eirioli iechyd meddwl y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar hyn o bryd.
Cyfnod presennol y Mesur
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dyddiad |
|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
*Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
