Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010
Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diben y Mesur Arfaethedig yw
Bydd y Mesur arfaethedig yn darparu ar gyfer cyflwyno cyfundrefn codi tâl newydd a fydd yn sicrhau bod awdurdodau lleol ar draws Cymru’n mabwysiadu dull gweithredu mwy cyson tuag at godi tâl ar ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl. Yn bennaf, bydd cwmpas y Mesur arfaethedig yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, mewn is-ddeddfwriaeth ac mewn canllawiau, fanylion fframwaith codi tâl tecach a mwy cyson i awdurdodau lleol ei fabwysiadu.
Newyddion diweddaraf
Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar
17 Mawrth 2010
. Mae’r Mesur arfaethedig erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).
Cofnod o Daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010
Cynod |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
* Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ymgynghori ar y Mesur arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) sydd bellach wedi cau.
Gellir gweld yr ymatebion a dderbyniwyd yn yr ymatebion ymgynghoriad a dderbyniwyd.
Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar y Cyfnod Cyntaf (PDF 632KB ar 3 Tachwedd 2009.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunod y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar y cyfnod cyntaf y Cyfarfod Llawn (PDF) ar 10 Tachwedd 2009.
Eitemau Newyddion Cysylltiedig
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl.
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 11 Tachwedd 2009 a ddaeth I ben ar 3 Rhagfyr 2009. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfod 3 ar 4 Rhagfyr 2009 a ddaeth I ben ar 19 Ionawr 2010. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 19 Ionawr 2010.