Gwenda Thomas AC/AM
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol
Deputy Minister for Social Services

Eich cyf/Your ref
Ein cyf/Our ref

Mark Isherwood AC
Cadeirydd y Pwyllgor
Pwyllgor Deddfwriaeth 5
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bae Caerdydd
CF99 1NA

Gorffennaf 2009

Mesur Arfaethedig Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Diolch ichi am eich gwahoddiad imi ymddangos ar 14 Gorffennaf gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth 5 i roi tystiolaeth ar y Mesur arfaethedig ar Godi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Yn y cyfarfod, addewais y byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor ar nifer o faterion.  Y materion hynny oedd:

  • elfennau statudol y canllawiau  ar godi tâl tecach a’r newidiadau a wnaed iddynt yn 2007;

  • cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn cysylltiad â’r Mesur arfaethedig a’i effaith ar bobl sy’n defnyddio gwasanaethau ac sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol a sut y bwriedir cynnwys y bobl hyn o fewn y Mesur arfaethedig; a

  • dyfyniad o ymchwil L E Wales ynghylch y posibilrwydd y bydd cleientiaid newydd yn gofyn am wasanaethau o ganlyniad i becyn Gwella Camau Cyntaf y byddaf yn ei gyflwyno os caiff y bai’r Mesur ei wneud.

Amgaeir mwy o wybodaeth am y tri maes yn Atodiadau 1 i 3.  Hoffwn fanteisio wrth ysgrifennu hwn ar y cyfle i esbonio’r sefyllfa o ran amcangyfrif cost fy Mhecyn Gwella Camau Cyntaf.  Cyffyrddwyd â hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor ac rwy’n credu y bu camddealltwriaeth ynghylch sail yr amcangyfrif.

I esbonio ymhellach, ar sail ymchwil LE Wales, rwy’n amcangyfrif y bydd y pecyn yn costio hyd at £11 miliwn y flwyddyn yn ôl prisiau heddiw.  Dyma gost yr incwm ychwanegol y bydd awdurdodau lleol yn ei golli oherwydd y newidiadau rwyf yn eu cynnig. Fel y dywedais yn y Datganiad ar Fwriad y Polisi ar 30 Mehefin at Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid, o dan ein Cytundeb Partneriaeth gyda llywodraeth leol, rydym wedi ymrwymo i ad-dalu i awdurdodau lleol gost unrhyw faich ariannol ychwanegol rydym yn ei roi arnynt.  O ganlyniad, os cytunir ar y Mesur arfaethedig, byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol i gytuno ar fanylion a lefel yr amcangyfrif hwn, yn ogystal â’i ailbrisio ar sail prisiau 2011-2012 gan mai dyna pryd y bwriedir rhoi’r newidiadau ar waith. Bydd yr ailbrisiad yn rhoi sylw i chwyddiant, newidiadau i lefel budd-daliadau’r DWP ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill a fyddai’n effeithio ar yr amcangyfrif hwn.  Fel y gwelwch yn Atodiad 3, nid oes tystiolaeth amlwg y bydd cynnydd yn y galw am wasanaethau o ganlyniad i roi’r Pecyn Gwella Camau Cyntaf ar waith yn un o’r ffactorau hyn.  Wedi dweud hynny, pe bai awdurdodau lleol neu eraill yn rhoi tystiolaeth y byddai cynnydd arwyddocaol yn y galw am wasanaethau, byddwn wrth reswm yn ystyried hynny wrth roi’r cynlluniau gwella cyntaf ar waith ac wrth baratoi’r Rheoliadau drafft sydd eu hangen i roi’r cynlluniau hynny ar waith. Rwy’n bendant fy marn nad yw’r goblygiadau gweithredol posibl manylach hyn yn tanseilio’r egwyddorion sy’n sail i’r Mesur arfaethedig na chwaith y ddadl gref o blaid sicrhau mwy o gysondeb wrth godi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl ledled Cymru.

Yn gywir

Gwenda Thomas AC/AM

Atodiad 1

Canllawiau ar Godi Tal Tecach  - Gofynion Statudol

Cafodd y Canllawiau ar Godi Tâl Tecach eu cyhoedi gyntaf gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2002 gan ddefnyddio’r pwerau yn Adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970.  Er bod trwch y Canllawiau yn ganllaw arferion da i awdurdodau lleol sy’n dewis codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl, mae rhannau ohono’n ganllawiau statudol.  Cawsant eu cyflwyno yn eu hanfod i amddiffyn defnyddwyr incwm isel y codir tâl arnynt am ddefnyddio gwasanaethau.  Cafodd y canllawiau statudol eu cryfhau yn 2007 ac ar hyn o bryd, felly, maen nhw’n:

  • sicrhau nad yw incwm net defnyddwyr y gwasanaethau yn gostwng yn sgil talu amdanynt islaw lefel sylfaenol cymhorthdal incwm neu’r lefel credyd warantedig priodol, yn ogystal â  "byffer” o ddim llai na 35% o’r swm hwnnw.  Cafodd y byffer hwnnw ei godi o’r 25% gwreiddiol a bennwyd yn 2002 i 35% yn 2007;

  • sicrhau yn achos defnyddwyr gwasanaethau sydd â gwariant sy’n gysylltiedig ag anabledd bod swm sy’n gyfwerth â 10% o lefel sylfaenol Cymorth Incwm neu’r lefel credyd gwarantedig priodol, yn cael ei ddiystyru wrth asesu’r tâl a godir arnynt.  Daeth yn ofyn newydd yn 2007;

  • diystyru wrth asesu’r twrth asesu’r tâl a godir unrhyw arbedion o ran taliadau credyd a dderbyniwyd o dan drefniadau Credyd Pensiwn.  Cyflwynwyd hwn yn 2002;

  • diystyru unrhyw enillion sy’n rhan o incwm wrth asesu’r tâl a godir.  Cyflwynwyd hwn yn 2002; a

  • sicrhau bod yr arbedion a’r terfyniadau cyfalaf, os yw’r awdurdodau lleol yn eu hystyried, o leiaf mor hael â’r rhai hynny a bennir yn y "Canllaw ar Godi Tâl ar gyfer Llety Preswyl". Cyflwynwyd hwn yn 2002.   

Atodiad 2

Defnyddwyr Gwasanarthau sy’n Derbyn Taliadau Uniongyrchol

Mae’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) sef Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2008, y caiff y Mesur arfaethedig ar Godi Ffïoedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol ei wneud trwyddo, yn rhoi’r pwer i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud deddfwriaeth ynghylch Taliadau Uniongyrchol i ddefnyddwyr gwasanaethau neu bobl sy’n gofalu amdanyn nhw.  Cafodd hyn ei gynnwys er mwyn gwneud yn siwr bod yr LCO’n ddigon eang inni allu gwneud Mesur pellach i newid y fframwaith codi ffïoedd am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl ar gyfer y defnyddwyr gwasanaethau hynny sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol yn ogystal â’r rheini sy’n derbyn gwasanaethau’n uniongyrchol trwy eu hawdurdod lleol.  Roedd geiriad yr LCO yn cwmpasu pawb ar y pryd y gallai Taliadau Uniongyrchol gael eu talu iddynt.

Fodd bynnag, mae’r categori o bobl sy’n gymwys i dderbyn Taliadau Uniongyrchol wedi cael ei ehangu ers hynny gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.  Mae gan Weinidogion Cymru y pwer bellach, trwy reoliad, i ganiatau talu Taliadau Uniongyrchol i "berson addas” mewn rhai amgylchiadau.  Y diffiniad o berson addas yw:

a) cynrychiolydd defnyddiwr y gwasanaeth; neu

b) eilydd ar ran y defnyddiwr a rhywun sydd yn nhŷb yr awdurdod lleol yn berson addas i dderbyn taliadau at bwrpas sicrhau darpariaeth ar gyfer defnyddiwr y gwasanaeth dan sylw; neu

c) ddim yn gynrychiolydd nac yn eilydd ond rhywun sydd yn nhŷb yr awdurdod lleol yn berson addas i dderbyn taliadau at bwrpas sicrhau darpariaeth ar gyfer defnyddiwr y gwasanaeth dan sylw.

Er y byddai’r taliadau hynny’n cael eu gwneud i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu i ddefnyddiwr y gwasanaeth, nid defnyddiwr y gwasanaeth na’r person sy’n gofalu amdano o reidrwydd fydd yn derbyn y taliad.  O ganlyniad, ni fyddai’r LCO fel y’i gwnaed yn rhoi mwyach y cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol ymestyn darpariaethau’r Mesur arfaethedig i bob achos lle gellid gwneud Taliad Uniongyrchol.   Ni fyddai’r newidiadau a wneid felly trwy’r Mesur arfaethedig i’r drefn codi tâl am y gwasanaethau hyn yn effeithio ar y categorïau ychwanegol hynny o bobl a allai dderbyn Taliadau Uniongyrchol.  Yn dilyn o hynny, byddai’n amhosibl osgoi system ddeuol ar gyfer cyfrif Taliadau Uniongyrchol.  Byddai hynny’n mynd yn groes i un o brif amcanion y Mesur arfaethedig, sef sicrhau mwy o gysondeb wrth godi tâl a symleiddio’r drefn.

I gywiro’r broblem, rydym yn ceisio diwygio cymhwysedd y Cynulliad yn y maes hwn.  Ychwanegwyd at eiriad Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 drafft fel bod darpariaethau’r Mesur arfaethedig yn effeithio ar bob achos o Dalu Uniongyrchol.  Mae’r LCO hwnnw, sydd wedi cyrraedd camau olaf y broses ddeddfwriaethol, yn ymwneud â’r un maes yn Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 â chymhwysedd LCO 2008, sef lles cymdeithasol.  Byddai cynnwys y diwygiad hwnnw yn yr LCO presennol yn ei gwneud hi’n bosibl yn yr un modd ehangu cwmpas y Mesur arfaethedig trwy welliannau iddo y byddaf yn eu cyflwyno yn yr Hydref wrth i’r Mesur wneud ei ffordd trwy’r Cynulliad.

Atodiad 3

Gwaith Ymchwil Le Wales a’r Posibilrwtdd i Gleientiaid Newydd Wneud Cais am Wasanaethau

Testun y gwaith ymchwil a wnaed gan LE Wales fel rhan o’r gwaith datblygu ar gyfer y Mesur arfaethedig oedd polisïau diweddaraf awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl a’r sefyllfa yn sgil y polisïau hynny o ran codi tâl ym mhob awdurdod.  Ar sail yr wybodaeth honno, clustnodwyd amryw o opsiynau ar gyfer sicrhau mwy o gysondeb yn y drefn codi tâl ac aseswyd goblygiadau’r opsiynau hyn.

O ran y cynnydd yn y galw am wasanaethau a allai ymddangos yn sgil newid y drefn codi tâl, dywedodd yr ymchwil y canlynol:

Asesiad LE Wales o’r Llinell Sylfaen

101.     In our questionnaire, we also asked local authorities how many potential service users had refused a service on the basis that charges were too high. Local authorities had great difficulty in answering this question. Only five of the 22 local authorities were able to provide some kind of estimate of these numbers. The responses suggested that these five local authorities had records of 28 (out of approximately 10,700) service users refusing a service due to the level of charges. This is equivalent to less than 0.3% of users.

1. The derivation of these figures is mixed - in some cases they relate to the numbers of service users who withdraw from a service, citing cost as the main reason, and in other cases they are based on local authority estimates. Most local authorities do not keep records of the reasons for which service users withdraw from a service.

2. One local authority indicated that of those users who were entitled to a six week period of free services, 33% ceased their service during or after the six week free period. The total of the average weekly hours of service for all these people was 380 hours per week or about 6.5% of the total service for the year. The LA noted that a proportion of these people would no longer have needed home care anyway, but that these figures provide some feel for the unmet need.

3. A number of service users/carers/representatives in Wales that we have spoken to feel that there are many people who refuse a service on the basis of high charges. We are not aware of any survey-based evidence of this in Wales. A recent report from the Coalition on Charges

1

reports the results of a survey of service users in England in which 80% of the people who no longer used care services described charges for accessing support as playing a part in stopping usage. In addition, 22% of respondents using care services said that they were likely to reduce or stop receiving services if charges increased.

Prif Adroddiad LE Wales

4. Packages that reduce the number of people subject to charges and/or that reduce the level of charges paid by those who do pay charges may lead to increases in demand for services. As services become free or cheaper for more people, those people may chose to use more services. The increase might come from those who previously had not been using services or it might come from those who were paying for some services but would be willing to pay for more services at the lower price.

5. Predicting the demand effects of a change in charges is very difficult as it involves judgements about how people might change their behaviour in response to the price change. The size of any change in demand will depend on a number of factors. These include:

a) The extent to which there are potential service users, who would pass current eligibility criteria, but who, dissuaded by existing charges, are either not currently taking up services or who are only taking a portion of the services for which they are eligible;

b) The extent to which such service users are sensitive to price changes. This might be determined by a number of factors including income levels; the size of the price change; how beneficial new or a greater level of services would be to their daily lives; the availability (and price) of alternative sources of assistance, e.g. family assistance, private care services.

c) The response of other stakeholders, such as local authorities and service providers, to price changes and to any initial impacts on demand. If, for example, local authorities are not adequately funded for any initial increases in demand, or if in the short term they have difficulty in adjusting to increased demand because of the time it takes to expand workforce and other capacity, then they may use other methods to limit any increased take up of services. For example they might raise eligibility thresholds.

6. There has been some assessment of the demand impact of reducing or eliminating charges for non residential social care services outside Wales. However evidence often arises in the context of introducing free care for some types of service and results seem to be mixed. In Scotland, for example, Audit Scotland found that the numbers of people receiving public funding for personal care at home had increased from 27,337 in 2002 to 41,386 in 2007 following the introduction of free personal care in the home for older people in 2002. In the USA and the Netherlands research has suggested that the introduction of free personal care does little to cause people to switch away from more informal care.

7. Any demand effects in Wales will depend on the specific circumstances of services users, charging systems and policy changes in Wales and so it is difficult to draw any direct conclusions on the basis of experience elsewhere. Nevertheless consideration of demand effects is likely to be a key part of arrangements for the Welsh Assembly Government to compensate local authorities for any losses in charging income arising as a result of policy changes in this area.

O ganlyniad, er i ymchwil LE Wales godi’r posibilrwydd y gallai newidiadau arwain at fwy o alw, cymysg yw’r dystiolaeth a fyddai hynny mewn gwirionedd yn digwydd, ac os gwnâi, faint o gynnydd fyddai.  Hefyd, wrth ystyried ymchwil LE Wales, mae nifer o ffactorau pwysig y dylem eu cadw mewn cof a allai effeithio’n drwm ar y posibilrwydd o gynnydd yn y galw a’i faint. Sef:

  • Mae ymchwil LE Wales ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ill dau yn haeru nad oes galw mawr heb ei foddhau am wasanaethau, lle nad yw unigolion sydd ag angen gwasanaethau arnynt yn eu derbyn.  Nid oes tystiolaeth felly bod nifer arwyddocaol o bobl nad ydynt yn derbyn gwasanaethau a fyddai am eu derbyn pe bai’r sefyllfa o ran codi tâl amdanynt yn newid.  Mewn trafodaethau, dywedodd yr United Kigdom Home Care Association y gallai’r cynigion i newid y trefniadau codi tâl greu peth anwadalwch i ddechrau wrth ddarparu gwasanaethau, ond nid ydynt yn awgrymu y byddai hyn yn fawr na chwaith na fyddai modd ei reoli;

  • Mae’n bosibl na fyddai’r rheini sydd ar hyn o bryd yn talu am eu gwasanaethau’n breifat mor barod ag y byddai rhywun yn ei dybio i droi at wasanaethau’r awdurdodau lleol.  Ar hyn o bryd, mae ganddynt y rhyddid i gomisiynu  gwasanaethau oddi wrth bwy a fynnant a’u derbyn fel a fynnant.  Byddent yn colli’r rhyddid hwnnw pe baent yn cael eu gwasnaethau trwy’r awdurdod lleol.  Mae’n bosibl na fyddent yn hoffi’r syniad o orfod newid darparwr i un sydd â chontract gyda’r awdurdod lleol a gorfod derbyn y gwasanaethau y byddai’r awdurdod lleol wedi asesu sydd eu hangen arnynt yn hytrach na’r gwasanaethau y maent yn eu prynu.  Gallai’r ddau fod yn wahanol iawn;

  • Hefyd, ni fyddai pawb sydd ar hyn o bryd yn talu’n breifat am eu gwasanaethau o reidrwydd yn gymwys am wasanaethau a gomisiynir gan yr awdurdod lleol.  Yn ôl "Creu System Deg ac Unedig i Asesu a Rheoli Gofal”, mae hawl gan awdurdodau i bennu eu meini prawf eu hunain o ran pwy sy’n cael defnyddio’u gwasanaethau ar sail dosbarthiadau o anghenion gofal.  Mae hynny’n rhoi’r rhyddid i awdurdodau bennu’n lleol pwy sy’n gymwys yng ngoleuni’r adnoddau sydd ar gael a blaenoriaethau lleol o ran darparu gwasanaethau.  O ganlyniad, yn ôl y canllaw hwn, caiff yr awdurdod lleol bennu angen yr unigolyn yn ôl pa ddosbarth o bedwar y mae’n perthyn - isel, cymhedrol, sylweddol neu gritigol.  Dim ond i bobl sydd ag anghenion yn y ddau gategori uchaf y mae bron pob awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu gwasanaethau.  Felly, o’r rheini sy’n talu’n breifat am eu gwasanaethau, dim ond y rheini fyddai’n cael eu rhoi yn y dosbarthiadau uchaf ar ôl cael asesiad o’u hanghenion gofal fyddai’n gymwys i wasanaethau’r awdurdod lleol.  Byddai’r gweddill yn dal i orfod talu am eu gwasanaethau’n breifat neu gael cefnogaeth eu teulu neu ffrindiau fel ag ar hyn o bryd;

  • Wrth fynd at wasanaethau’r awdurdod lleol am y tro cyntaf, efallai na fyddai rhai unigolion yn hoffi’r syniad o orfod datgan eu sefyllfa ariannol fel rhan o brawf modd.  Mae llawer o bobl yn teimlo bod prawf modd yn ormod o ymyrraeth a byddai’n well ganddynt beidio â’i gael.  Byddai’n well ganddynt dalu’r tâl llawn y gallai’r awdurdod godi arnynt am eu gwasanaethau, p’un a ddylent ai peidio.  Byddai pobl yn y sefyllfa hon yn rhydd o dan y Mesur arfaethedig i beidio â gofyn am brawf modd os dyna eu dymuniad.  Byddai’r awdurdodau’n codi’r tâl wythnosol penodedig mwyaf arnynt am y gwasanaethau a ddarperir, p’un a oes ganddynt y modd i’w dalu ai peidio;

  • Nid yw’r Pecyn Gwella Camau Cyntaf yr wyf yn bwriadu ei roi ar waith yn cynnig gwneud yr holl wasanaethau’n ddi-dâl.  Bydd tâl yn dal i gael ei godi am rai gwasanaethau ac ar rai defnyddwyr, er na chaiff y tâl hwnnw fod yn fwy na £50 yr wythnos am yr holl wasanaethau a ddefnyddir gan y defnyddiwr hwnnw.  Mae hyn yn wahanol i’r Alban er enghraifft, lle cyflwynwyd gofal am ddim a lle gwelwyd galw cudd mawr am y gwasanaethau.  Gallai codi tâl, pa mor fach bynnag y gallai’r tâl hwnnw fod, gadw rhai pobl rhag gofyn i’r awdurdod lleol am y gwasanaethau hynny, hynny oherwydd effaith canlyniadau eraill o ran rhyddid a phrofion modd.

Yn fras felly, rwyf wedi ystyried y posibilrwydd o gynnydd yn y galw am wasanaethau yn sgil rhoi fy Mhecyn Gwella Camau Cyntaf ar waith.  Fodd bynnag, ar sail ymchwil LE Wales a’r ffactorau rwyf wedi’u disgrifio uchod, nid wyf yn rhagweld y bydd fy nghynlluniau yn debygol o arwain at gynnydd arwyddocaol yn y galw.  Wedi dweud hynny, pe bai awdurdodau lleol neu eraill yn rhoi tystiolaeth y byddai cynnydd arwyddocaol yn y galw am wasanaethau, byddwn wrth reswm yn ystyried hynny wrth roi’r cynlluniau gwella cyntaf ar waith ac wrth baratoi’r Rheoliadau drafft sydd eu hangen i roi’r cynlluniau hynny ar waith. Rwy’n bendant fy marn nad yw’r goblygiadau gweithredol posibl manylach hyn yn tanseilio’r egwyddorion sy’n sail i’r Mesur arfaethedig na chwaith y ddadl gref o blaid sicrhau mwy o gysondeb wrth godi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl ledled Cymru.

Nodi

1 Coalition on Charging (2008) Charging into Poverty? Charges for care services at home and the national debate on adult care reform in England, June 2008.

Yn yr adran hon

    Partneriaid a Help