Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif.4
Legislation Committee No.4

Dyddiad: 26 Chwefror 2010

Annwyl Syr / Madam

Ymgynghoriad ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru)

Fel rhan o drafodion Cyfnod 1, mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth mewn perthynas ag egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru).

Beth yw Mesur?

Darn o ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad yw Mesur. Mae iddo effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesurau ar unrhyw ‘fater’ a restrir yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru) yn ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd.

Tra bo Mesur yn mynd trwy'r Cynulliad, fe'i gelwir yn ‘Fesur arfaethedig’.

Mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesurau arfaethedig. Yn ystod Cyfnod 1, bydd pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig (gan gymryd tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar) cyn i’r Cynulliad gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.

Beth mae’r Mesur arfaethedig yn ceisio’i gyflawni?

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r Mesur arfaethedig yn datgan:

“Bydd darpariaethau'r Mesur arfaethedig hwn yn sefydlu ymyraethau polisi a fydd yn helpu Cymru i ddatblygu dull mwy cynaliadwy o reoli gwastraff, a fydd yn gyson â'r hierarchaeth wastraff – un o egwyddorion craidd deddfwriaeth amgylcheddol y Comisiwn Ewropeaidd.”  

Beth yw gwaith y pwyllgor?

Gwaith Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig a chyflwyno adroddiad arnynt. Wrth wneud hyn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:

Ystyried:

i)yr angen am Fesur arfaethedig i gyflawni’r amcanion penodol hyn:  

  • gwneud darpariaeth i leihau’r gwastraff a’r sbwriel a gynhyrchir yng Nghymru;

  • cyfrannu at ddatblygu trefniadau mwy effeithiol ar gyfer rheoli gwastraff yng Nghymru;

ii)a yw’r Mesur arfaethedig yn cyflawni ei amcanion datganedig;

iii)y darpariaethau allweddol a nodir yn y Mesur arfaethedig ac a ydynt yn addas i gyflawni ei amcanion;  

iv)rhwystrau posibl i weithredu’r darpariaethau allweddol ac a yw’r Mesur arfaethedig yn eu hystyried;

v)sylwadau rhanddeiliaid y bydd yn rhaid iddynt weithio o fewn y trefniadau newydd.

Sut y gallwch chi helpu – y cwestiynau ymgynghori

Ceir manylion y Mesur arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol yn: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-waste.htm  

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo wrth iddo graffu ar y Mesur arfaethedig. Yn arbennig, byddai’n croesawu eich ymateb i’r cwestiynau a restrir yn Atodiad 1.

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad i legislationoffice@wales.gsi.gov.uk a rhowch Ymgynghoriad - y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru) fel pennawd i’r e-bost.

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Sarah Sargent, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 23 Ebrill 2010. Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses ddeddfwriaethol yn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-guidance/bus-legislation-guidance-measures.htm

Wrth baratoi eich tystiolaeth, dylech ystyried y pwyntiau a ganlyn:

  • dylai eich ymateb fynd i’r afael â’r materion sydd gerbron y Pwyllgor. Defnyddiwch y pennawd uchod fel cyfeirnod i’ch ymateb;

  • bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd graffu arnynt ac efallai y bydd Aelodau’r Cynulliad yn eu gweld a’u trafod yn ystod cyfarfodydd pwyllgor hefyd. Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu’ch enw, mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn glir wrth gyflwyno’ch tystiolaeth; a

  • nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad, neu fel unigolyn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod tymor y gwanwyn a thymor yr haf.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â Sarah Beasley, Clerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8032 neu Sarah Sargent, y Dirprwy Glerc, ar 029 2089 8408.

Yn gywir

Jenny Randerson AC

Cadeirydd y Pwyllgor

Atodiad 1

Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru)

Cwestiynau ymgynghori

1. A oes angen Mesur arfaethedig i gyflawni’r amcanion penodol o wneud darpariaeth i leihau’r gwastraff a’r sbwriel a gynhyrchir yng Nghymru a chyfrannu at ddatblygu trefniadau mwy effeithiol ar gyfer rheoli gwastraff yng Nghymru?

2. Sut y bydd y Mesur arfaethedig yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd a beth fydd effaith newidiadau o’r fath?

3. A yw adrannau’r Mesur arfaethedig yn briodol er mwyn cyflawni’r amcanion datganedig?

Wrth ystyried y cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried natur darpariaethau’r Mesur arfaethedig sy’n:

(a) ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr roi enillion net refeniw a wnaed o werthu bagiau siopa untro at ddibenion amgylcheddol penodol neu i gyrff penodol (adrannau 1-2)

(b) pennu targedau gwastraff (adrannau 3-8), yn enwedig mewn perthynas â’r canlynol:

  • targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio (adran 3);

  • rheoliadau i osod targedau gwastraff (adran 4);

  • monitro ac archwilio cydymffurfedd â thargedau (adran 5);

  • rheoliadau am gosbau (adran 6);

  • ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd, pob awdurdod lleol ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol (adran 7);

  • canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru (adran 8)

(c) gwneud rheoliadau sy’n gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwi (adrannau 9-11), gan gynnwys:

  • sancsiynau sifil (adran 10); ac

  • ymgynghori (adran 11)

(d) creu cynlluniau ar gyfer rheoli a gwaredu gwastraff safle a chosbau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â’r darpariaethau hyn (adrannau 12-13)

(e) gwneud darpariaethau cyffredinol (adrannau 15-20), yn enwedig mewn perthynas â:

  • dehongli (adran 15)

  • gorchmynion a rheoliadau: gweithdrefnau (adran 18)

4. Beth yw’r rhwystrau posibl o ran gweithredu darpariaethau’r Mesur arfaethedig (os oes rhai o gwbl) ac a yw’r Mesur arfaethedig yn eu hystyried?  

5. Beth yw goblygiadau ariannol y Mesur arfaethedig i sefydliadau, os oes rhai o gwbl? Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai yr hoffech ystyried a ydych yn cytuno ag Adran 2 y Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif costau a buddion gweithredu’r Mesur arfaethedig.

6. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am adrannau penodol o’r Mesur arfaethedig?

Yn yr adran hon

    Partneriaid a Help