Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru)
Gwelliannau Cam 2
Ystyried gwelliannau
Ar ôl i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, dechreuodd Cyfnod 2 ar 22 Medi 2010. Cyfarfu'r Pwyllgor ar 14 Hydref 2010 ac 21 Hydref 2010 i ystyried a gwaredu'r gwelliannau i'r Mesur arfaethedig.
Mae’r hysbysiadau o welliannau yn dangos gwelliannau sydd wedi’u cyflwyno ar ddyddiad penodol. Mae’r rhestri wedi’u trefnu yn dangos y gwelliannau sydd i’w hystyried mewn cyfarfod. Mae’r ddogfen Grwpio gwelliannau yn nodi ym mha drefn y caiff gwelliannau eu trafod mewn cyfarfod penodol ac unrhyw wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r gweithdrefnau.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Ceir rhagor o wybodaeth am gyflwyno gwelliannau yn ystod Cyfnod 2 ym mhenderfyniad y Llywydd ar ffurf briodol gwelliannau. (PDF, 33KB).
