Cyf: MB-028

Mesur arfaethedig ynghylch Gwasanaethau Ieuenctid

Gwybodaeth cyn y balot

Eleanor Burnham

Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig

Creu Porth Cyfle i bobl ifanc er mwyn cynyddu ymhellach eu cyfleoedd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas.

Yn rhy aml o’r hanner, bydd pobl ifanc yn cael eu pardduo, mae angen i ni eu hannog i wireddu eu potensial, eu helpu a’u cefnogi i wneud y gorau o’u galluoedd a darparu’r cyfleoedd sydd eu hangen i alluogi iddynt wneud hynny.

Polisi allweddol i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial a chael mynediad at gyfleoedd fyddai rhoi sail statudol i’r ddarpariaeth gwasanaethau ieuenctid.  Golygai hynny y byddai’n rhaid i awdurdodau lleol ateb y galw ymhlith pobl ifanc am gyfleusterau hamdden ac addysgol er mwyn eu cael oddi ar y stryd ac i gysylltiad adeiladol â’i gilydd ac â’u cymunedau.

Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori

Ni chafwyd cefnogaeth ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad.

Partneriaid a Help