Cyf: MB-039
Mesur Arfaethedig ynghylch darparu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Pobl Ifanc Anabl a'r Rhai a Arferai Dderbyn Gofal
Gwybodaeth cyn y balot
Ann Jones
Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig
Mesur i ddarparu ar gyfer ac mewn perthynas â, darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i bobl ifanc anabl a'r rhai a arferai dderbyn gofal hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.
Pwrpas y Mesur yw darparu rhagor o gefnogaeth i bobl ifanc anabl a'r rhai a arferai dderbyn gofal er mwyn iddynt allu cael mynediad at addysg, hyfforddiant neu waith yn haws. Bydd rhagor o ddarpariaeth gofal cymdeithasol hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd a chyfleoedd bywyd i'r bobl ifanc y cyfeirir atynt uchod gan y byddai gweithgareddau hamdden a gweithgareddau cymdeithasol eraill yn fwy hygyrch.
Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori
Ar ôl ychydig o ymgynghori, mae'r cynnig wedi cael cefnogaeth gan sawl mudiad elusennol gan gynnwys Anabledd Dysgu Cymru a Cyswllt Teulu Cymru
