Cyf: MB-041

Mesur arfaethedig ynghylch Addysg Oedolion

Gwybodaeth cyn y balot

Peter Black

Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig

Rhoi’r hawl i bob oedolyn o oedran gweithio gael eu hymgais cyntaf am gymhwyster hyd at lefel tri wedi ei dalu amdano gan y llywodraeth.

Byddai hyn yn golygu y byddai’r llywodraeth yn talu am safon uwch gyntaf neu gymhwyster cyfwerth (neu is) cyntaf unrhyw un o oed gweithio, ni waeth beth fo'u hamgylchiadau ariannol presennol na’u statws cyflogaeth. Gellir arfer yr hawl ar unrhyw adeg ym mywyd unigolyn a gellid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gymhwyster ffurfiol ar lefel tri (neu is).

Ni fyddai hyn yn cynnwys unrhyw un sydd eisoes wedi cael cymhwyster lefel tri pan oedd o oedran ysgol, gan fod y llywodraeth eisoes wedi ariannu’r cyntaf.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i unrhyw un dros 25 dalu am eu cwrs, a hefyd am sefyll arholiad. Amcan y mesur hwn fyddai atal pobl rhag gorfod talu am yr un o'r ffioedd hyn ymlaen llaw.

Ni fyddai gan y rhai dros oedran gweithio hawl i gael eu cymhwyster wedi’i dalu amdano gan na fyddent wedyn yn defnyddio hwn i wella'u cyflogaeth, sef y nod y tu ôl ddarparu'r gefnogaeth hon.

Bydd helpu pobl i wella eu lefel cymhwyster yn gwella’u siawns o gael swydd well neu ddyrchafiad, helpu’u hunain allan o dlodi, ennill hyder a gwella’u cyfleoedd mewn bywyd.

Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori

Dim ar hyn o bryd.

Partneriaid a Help