Cyf: LCO-004
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Cyllid Llywodraeth Leol
Michael German
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o'r Gorchymyn arfaethedig
Diwygio Maes 12 (llywodraeth leol) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:
Ychwanegu’r materion a ganlyn at Faes 12: llywodraeth leol: “provision to amend legislation relating to local government finance in Wales”.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Mae codi treth ar gyfer llywodraeth leol, drwy’r dreth gyngor ac ardrethi busnes, yn llywio sawl agwedd ar agenda polisi cyhoeddus Cymru; yn cynnwys
- tegwch y system ei hun,
- effaith talu ar nifer o bobl a busnesau,
- yr angen i ailbrisio’r dreth o bryd i’w gilydd ynghyd ag effeithlonrwydd y system gasglu,
- yr hyn a elwir yn effaith gerio sy’n cynyddu’r dreth gyngor yn gyflymach na’r gyfradd chwyddiant gyfredol,
- perthnasedd gwahanol ddisgowntiau a chynlluniau rhyddhad ardrethi,
- pennu ardrethi busnesau yn lleol,
- atebolrwydd awdurdodau lleol.
Bu’r mater hwn yn destun sawl dadl yn y Cynulliad ac yn y gymdeithas ddinesig yn gyffredinol. Bu hefyd yn destun sawl adolygiad ffurfiol gan gynnwys adolygiad cynhwysfawr Lyons sydd â chylch gwaith cyfyngedig sy’n cynnwys Cymru a’i system cyllid llywodraeth leol.
Bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn golygu y gellir cyflwyno mesurau i ddiddymu’r dreth gyngor a chael system wahanol a thecach yn ei lle, yn seiliedig ar allu pobl i dalu. Bydd hefyd yn golygu y gellir ailbennu ardrethi busnesau yn lleol (fel y mae’r system BIDS wedi dechrau ei wneud ar yr ymylon) a chyflwyno system ad-dalu a rhyddhad ardrethi i hyrwyddo’r agendâu polisi cyhoeddus eraill yn well.
Derbyniwyd cefnogaeth gan amrywiaeth eang o ffynonellau ar gyfer diwygio’r system cyllid llywodraeth leol, a hynny mewn ffordd nad yw ond yn bosibl drwy’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn. Mae pleidiau gwleidyddol, papurau newydd, grwpiau pensiynwyr, grwpiau lobïo sydd wedi’u creu’n arbennig, ac eraill yn y gymdeithas ddinesig naill ai am weld y dreth yn cael ei diddymu neu ei diwygio.