Cyf: LCO-014

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Canllawiau Adeiladu

Mick Bates

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Diwygio Maes 18 (cynllunio gwlad a thref) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn: Ychwanegu’r materion canlynol at Maes 18: cynllunio gwlad a thref: darpariaeth i ddiwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud â chanllawiau adeiladu yng Nghymru.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Cyflwyno rheoliadau yng Nghymru a fyddai’n sicrhau bod pob adeilad newydd yn cael ei adeiladu at y safonau amgylcheddol uchaf posibl. Byddai hyn yn cynnwys cartrefi yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn ogystal ag adeiladau cyhoeddus ac adeiladau'r Llywodraeth. Ar hyn o bryd, daw oddeutu 25% o ollyngiadau Carbon o’r sector adeiladu.  Golyga hyn ei fod yn un o’r cyfranwyr mwyaf tuag at newid yn yr hinsawdd.  Bydd y ffigur hwn yn parhau i gynyddu oni chymerir camau priodol yn ystod y cam cynllunio. Mae hwn yn bolisi i leihau gollyngiadau carbon o adeiladau yn sylweddol, a chyfrannu at y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.  Mae’n unol ag ymrwymiad statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru i Ddatblygu Cynaliadwy.   Byddai’r ddeddfwriaeth yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cynllunio i weithredu canllawiau newydd yn ystod cam cynllunio pob adeilad newydd.  Golyga hyn na fyddai Awdurdodau Cynllunio yn rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygwyr heblaw eu bod yn bodloni meini prawf amgylcheddol priodol.     

Y Gefnogaeth a Dderbyniwyd

Ddydd Mawrth 13 Chwefror 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatganiad polisi yn amlinellu rhaglen weithredu i fynd i'r afael a delio â newid yn yr hinsawdd.  Roedd y rhaglen hon yn cynnwys cyflawni lefelau carbon sero ar gyfer pob adeilad newydd erbyn 2011.

Partneriaid a Help